Sicrhaodd eu pum cais yn yr ail hanner fuddugoliaeth i Gasnewydd o 33–19 yng Nghwpan Super Rygbi Cymru’n erbyn Caerdydd ar Barc yr Arfau.
Mae’n amlwg i eiriau hanner amser Prif Hyfforddwr Gwŷr Gwent, Ty Morris daro’r post wedi eu dechrau araf i’r ornest – oherwydd er eu bod nhw ar ei hôl hi o 19-5 wedi awr o chwarae – fe lwyddon nhw i daro’n ôl a chadw’u lle ar frig y grŵp.
Sgoriodd y canolwr Harri Ackerman ddau gais ar ôl dod oddi ar y fainc, gyda’r clo Josh Skinner, y maswr Dafydd Buckland a maswr dan 20 Cymru Carter Pritchard – ddaeth ymlaen yn lle Buckland – yn sgorio’r ceisiau eraill. Trosodd Jac Lloyd bedwar cais, tra sgoriodd canolwr dan 18 Academi Caerdydd, Bailey Cutts, ddau gais i’r tîm cartref. Cais cosb a throsiad Steff Crimp oedd yn gyfrifol am bwyntiau’r tîm cartref.
Dywedodd Ty Morris: “Roedd hon yn sicr yn gêm o ddau hanner. Er ei bod yn braf dod o Barc yr Arfau gyda buddugoliaeth sy’n parhau’n momentwm ni yn y Cynghrair a’r Cwpan, ro’n i’n hynod siomedig gyda’n perfformiad yn yr hanner cyntaf. Roedd gennyf gywilydd o’n diffyg egni a thempo i ddweud y gwir.
“Rhaid rhoi clod i Gaerdydd a’u tîm hyfforddi am ddewis carfan ifanc ac addawol iawn ac roedden nhw’n dipyn gwell na ni yn ystod yr hanner cyntaf.
“Fe gawson ni gyfleoedd yn ystod y cyfnod cyntaf – ond fe fethon ni â sgorio unrhyw bwyntiau yn ystod ein saith ymweliad cyntaf â’u dwy ar hugain nhw. Ar y llaw arall fe hawliodd y tîm cartref ddeuddeg pwynt ar eu dau ymweliad prin nhw i’n dwy ar hugain ni.
“Fe wnes i dipyn o newidiadau ar gyfer yr ail hanner ac fe grëodd Morgan Burgess, Kyle Tayler a Harri Ackerman yn enwedig wir argraff.
“Fe lwyddon ni i sgorio ceisiau rhagorol yn y 30 munud olaf wnaeth hawlio’r fuddugoliaeth i ni.
“Dros y dyddiau nesaf, byddwn fel tîm hyfforddi yn adolygu a dadansoddi pam bod ein perfformiadau’n y ddau hanner mor wahanol i’w gilydd. Os y’n ni o ddifrif am greu argraff ar ddiwedd y tymor – mae’n rhaid i berfformio’n fwy cyson, nid dim ond gorffen yn gryf yn yr 20 munud olaf.”
Cafodd y gêm arall ym Ngrŵp A rhwng Pont-y-pŵl a Cwins Caerfyrddin ei gohirio gan bo Parc Pont-y-pŵl o dan ddŵr.
Mae deiliaid Cwpan Super Rygbi Cymru, Llanymddyfri, yn parhau i arwain Grŵp B ar ôl iddyn nhw frwydro’n ôl yn yr ail hanner i drechu Pen-y-bont o 33–17 ar Fanc yr Eglwys. Sgoriodd y canolwr Corey Baldwin a’r bachwr Cameron Lewis ddau gais yr un, gyda’r capten Lee Rees hefyd yn croesi’r llinell i’r Porthmyn, wrth iddyn nhw sicrhau tair buddugoliaeth ac uchafswm o 18 pwynt yn eu tair gêm grŵp. Trosodd Ioan Hughes dri chais a Steff-Jac Jones un cais arall.
I Ben-y-bont, sgoriodd y blaen-asgellwr Kyle Harris a’r asgellwr Gabe Lucey y ceisiau – roddodd y tîm cartref ar y blaen 14–0 ar yr egwyl. Trosodd Lloyd Wilkins y ddau gais a chiciodd gôl gosb gywir hefyd.
Dywedodd Prif Hyfforddwr y Porthmyn, Euros Evans: “Roedden ni’n wael iawn yn yr hanner cyntaf, ond ro’n i’n falch iawn o’r ffordd y gwnaeth y bechgyn ymateb ar ôl yr egwyl.
“Fe wellon ni’n sylweddol yn yr ail hanner, sicrhau’r chwephwynt oedd ei heisiau arnom, a nawr mae cyfle da gennym i sicrhau gêm gartref yn y rownd gyn-derfynol. Roedd hefyd yn wych gweld rhai o’n bois ni o’r academi’n cael rhywfaint o amser ar y cae.”
Gan nad oedd modd chwarae ar Barc Eugene Cross, symudwyd gêm Glyn Ebwy ac Aberafan i’r Wern ym Merthyr – a’r clwb ‘cartref’ aeth â hi o 31–25. Sgoriodd y canolwr Cameron Davies, y bachwr Ieuan Morris ac Alfred Bateman-Lloyd geisiau i Lyn Ebwy, a chafodd y tîm gais cosb hefyd. Ciciodd Will Ford naw pwynt yn ei gêm gyntaf dros y clwb. Y blaen-asgellwr Cameron Loveys, yr asgellwr Noah Mason, y canolwr Sam Matthews a’r maswr Keillen Cullen sgoriodd geisiau’r Dewiniaid ac fe ychwanegodd Cullen bum pwynt gyda’i droed hefyd.
