Colli’n greulon o hwyr fu hanes Cymru o 23-26 yn erbyn Yr Alban yn nhrydedd rownd o gemau Penacmpwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2026 o dan do Stadiwm Principality.
Yn dilyn eu buddugoliaeth nodedig yn erbyn Lloegr wythnos yn ôl, llwyddodd yr Albanwyr i gadw’u gobeithion o ennill y Bencampwriaeth yn fyw ar achlysur yr 50fed gornest rhwng y ddwy wlad yng Nghaerdydd – er iddyn nhw fod ar ei hôl hi o 15 pwynt am gyfnod yn gynnar yn yr ail hanner.
Aeth Yr Alban ar y blaen am y tro cyntaf, gan hawlio pwynt bonws gyda dim ond 6 munud ar ôl pan groesodd yr eilydd o fachwr George Turner am ei drydydd cais ar ddeg ar y llwyfan rhyngwladol.
Er i’r Cymry brofi dechrau heriol i’r ornest, fe ddangoson nhw wir gymeriad a threfn yn eu perfformiad.
Wedi dim ond 2 funud o’i ymddangosiad cyntaf dros ei wlad, bu’n rhaid i Gabriel Hamer-Webb adael y maes dros dro am driniaeth i’w drwyn a dau funud wedi hynny, dangoswyd cerdyn melyn i Joe Hawkins am dacl ar Gregor Brown.
Yn hytrach nac ildio, fe gadwodd y Cymry’r bêl yn eu dwylo ac fe gawsant eu gwobrwyo pan diriodd Rhys Carré am yr eildro mewn wythnos i gynnig cyfle hawdd i Sam Costelow drosi.
Wrth i Hawkins baratoi i ddychwelyd i’r maes, croesodd Kyle Steyn yn y gornel am gais agoriadol Yr Alban, ond methiant fu ymgais Russell i drosi.
Roedd torf Stadiwm Principality’n llafar iawn eu llais, ac fe roddodd hynny wynt yn hwyliau’r Cymry.
Dal ati i gadw’r bêl yn fyw a mynd trwy’r cymalau oedd tacteg amlwg Dewi Lake a’i dîm ac wedi i’r capten redeg at galon amddiffyn Yr Alban, crëwyd lle i Josh Adams groesi am gais rhif 24 dros ei wlad wedi 18 munud o chwarae. Llwyddodd Costelo gyda’r trosiad am yr eildro i’w gwneud hi’n 14-5.

Parhau wnaeth perfformiad corfforol, cadarnhaol a chystadleuol Cymru am weddill y cyfnod cyntaf. Yn ystod y deugain munud agoriadol fe gipiwyd meddiant Yr Alban chwech o weithiau ac erbyn i’r timau droi roedd cicio cywir Costelow wedi agor bwlch o 12 pwynt rhwng y timau.
Wyth munud wedi’r ail-ddechrau, parhau wnaeth record berffaith Sam Costelow wrth anelu at y pyst ac o’r herwydd roedd tair sgôr yn gwahanu’r ddau dîm. Yn anffodus i’r maswr, dioddefodd anaf i’w goes chwith yn fuan wedi hynny ddaeth ei brynhawn i ben yn gynnar.
Treuliodd Prif Hyfforddwr Cymru Steve Tandy, gyfnod o chwe blynedd yn hyfforddi amddiffyn Yr Alban ac roedd cystadlu Cymru yn ardal y dacl yn amlwg trwy gydol yr ornest. Ond er i amddiffyn Cymry warchod eu llinell gais am 26 o gymalau, fe grëodd hynny ddigon o fwlch i Finn Russell dirio a throsi, gaeodd y bwlch i 8 pwynt.
Yn union wedi i Jarrod Evans lwyddo gyda’i gic gosb, manteisiodd yr eilydd Darcy Graham ar adlamiad yr ail-ddechrau i hawlio trydydd cais ei dîm ac felly o fewn eiliadau’n unig, dim ond 4 pwynt o fantais oedd gan Gymru.
Fe dalodd pwyso’r Alban ar ei ganfed yn y pendraw wrth i Turner roi ei dîm ar y blaen am y tro cyntaf – a thrydydd trosiad Russell oedd sgôr olaf y gêm.
Bydd gan Gymru wythnos o saib cyn teithio i Ddulyn i wynebu Iwerddon ar Fawrth y 6ed. Bydd y Gwyddelod yn llawn hyder wedi eu buddugoliaeth o 42-14 yn Twickenham – ond yn dilyn y gwelliant yn eu perfformiad heddiw bydd y Crysau Cochion yn teithio i’r Ynys Werdd gyda hyder eu hunain.
Canlyniad: Cymru 23 Yr Alban 26
Wedi’r gêm dywedodd Josh Adams: “Roedden ni’n llawer gwell heddiw ac fe chwaraeon ni’n dda iawn yn ystod yr hanner cyntaf.
“Fe gollon ni rhywfaint o reolaeth a momentwm yr yr ail hanner – ac fe wnaeth Yr Alban yn dda eu hunain.
“Roedd yr anthem a’r awyrgylch yn wych heddiw a diolch i bawb ddaeth yma am hynny.”
Ychwanegodd Capten Cymru, Dewi Lake: “Fe reolon ni’r hanner cyntaf ac fe ddangoson ni beth ry’n ni’n gallu ei wneud.
“Roedd gwelliant mawr yn ein hamddiffyn ond fe gostiodd cwpl o eiliadau’n yr ail hanner yn ddrud i ni.
“Dyw’r sgorfwrdd ddim o’n plaid ni heddiw – na’r fuddugoliaeth chwaith yn anffodus.”
