News

Caerdydd a’r Gweilch yn ceisio hawlio coron D18 yr Academïau heno

Liam Williams of Cardiff attacks the Dragons defence
Liam Williams o Gaerdydd yn ystod eu buddugoliaeth dros y Dreigiau

Mae un o’r gemau pwysicaf yng nghalendr rygbi Cymru yn cael ei chwarae ar Barc yr Arfau heno (8pm) pan fydd Rygbi Caerdydd a’r Gweilch, fel y gwnaethant y llynedd, yn wynebu ei gilydd yn Rownd Derfynol Academïau dan 18 Undeb Rygbi Cymru.

Y Gweilch yw’r Pencampwyr presennol wedi iddyn nhw guro bechgyn ardal y Brifddinas 28-25 y tymor diwethaf – ond eleni’n y gemau grŵp mae Caerdydd eisoes wedi ennill o 63-22 ar y Gnoll ac yna 34-12 ar eu tomen eu hunain.

ROWNDIAU TERFYNOL GEMAU AIL-GYFLE DAN 18 UNDEB RYGBI CYMRU
6pm: 3ydd v 4ydd – Dreigiau (3ydd) v Scarlets (4ydd)
8pm: Rygbi Caerdydd (1af) v Gweilch (2il)

Dywedodd Prif Hyfforddwr tîm D18 Cymru Richie Pugh:

“Mae wedi bod yn raglen gystadleuol iawn y tymor yma – ac mae dychwelyd at y drefn o chwarae gemau cartref ac oddi cartref wedi bod yn llwyddiannus iawn.

“Mae’r gystadleuaeth hon ynghŷd â Phencampwriaeth yr Ysgolion a’r Colegau’n cynnig darpariaeth sy’n gystadleuol a safonol i’n bechgyn ifanc.”

Roedd gan Gaerdydd bedwar aelod o’u carfan dan 18 yn chwarae i Gaerdydd yng Nghwpan Super Rygbi Cymru y penwythnos diwethaf, tra roedd Tom Howe yn chwarae i dîm D20 Cymru yn Northampton. O ganlyniad i wahanol anafiadau – ni fydd yr wythwr Ioan Dacey, maswr D18 Cymru Ben Coomer, na chapten y tîm cenedlaethol D18 Alfie Prygodzicz ar gael i chwarae heno.

Dywedodd Cyfarwyddwr Academi Caerdydd, Gruff Rees:“Ry’n ni wedi defnyddio mwy na 40 o chwaraewyr yn ystod y gemau grŵp a bydd 27 ohonyn nhw ar gael i ni eto’r tymor nesaf. Mae 15 o chwaraewyr Caerdydd wedi bod yn rhan o garfan dan 18 Cymru ac mae ambell un wedi chwarae i’r tîm D19 hefyd.

“Byddai ennill heno’n goron ar y cwbl ac yn benllanw’r gwaith caled y dechreuodd Josh Turnbull gyda’r garfan yma’r haf diwethaf. Rhaid hefyd canmol dylanwad Saul Nelson, Gwilym Bradley, Callum Digby a Neil Edwards ar ddatblygiad y bechgyn – yn ogystal ag ymdrech y bois eu hunain hefyd.”

“Roedd y Gweilch yn haeddu ennill y ffeinal y llynedd ond gobeithio y bydd hi’n gêm dda ac y byddwn ni’n dangos beth allwn ni ei wneud.”

Mae gan y Gweilch Nick Fisk Jones, mab cyn seren Cymru a’r Llewod, Robert Jones, yn ôl yn safle’r mewnwr wedi cyfnod o flwyddyn a mwy allan o’r gêm oherwydd anaf.

Bydd Mason James yn dechrau yn brop pen tynn iddyn nhw heno – tra bod ei dad Paul, sydd wedi bod yn hyfforddi tîm D18 y Gweilch y tymor hwn, newydd ei alw i hyfforddi sgrym prif garfan Cymru’r wythnos hon.

Mae tocynnau ar gyfer gemau heno ar gael wrth y giât ym Mharc yr Arfau (£5).

Related Topics