Mae trefnwyr cystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd 2027 wedi cadarnhau amserlen gemau Cymru yng Ngrŵp F.
Bydd Cymru’n dechrau eu hymgyrch yn erbyn Zimbabwe am 03.45 amser Cymru (12.15 yn Awstralia) ddydd Sadwrn 2 Hydref yn yr Oval yn Adelaide.
Dyma fydd y tro cyntaf i Gymru erioed chwarae Zimbabwe mewn gêm yng Nghwpan Rygbi’r Byd. Y tro diwethaf i’r ddwy wlad gyfarfod mewn gêm Brawf oedd yn ystod taith haf Cymru ym 1998.
Yn dilyn eu gêm agoriadol, bydd Cymru wedyn yn teithio i Melbourne i wynebu Tonga yn Stadiwm Docklands, ddydd Gwener 8 Hydref, gyda’r gic gyntaf am 08.15 y bore yma yng Nghymru (18.15 amser lleol).
Dyma fydd y tro cyntaf i’r ddwy wlad herio’i gilydd yng Nghwpan Rygbi’r Byd ers i’r gystadleuaeth gael ei chynnal yn Awstralia y tro diwethaf yn ôl yn 2003.
Bydd Cymru’n cwblhau eu gemau yng Nghrŵp F yn erbyn Lloegr yn Sydney ddydd Sadwrn 16 Hydref gyda’r gic gyntaf am 09.45 y bore yma yng Nghymru (19.45 amser lleol).
Y tro diwethaf i Gymru a Lloegr gyfarfod yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd oedd yn Twickenham yn ôl yn 2015, pan gafodd y gystadleuaeth ei chynnal yn Lloegr wrth gwrs.
I weld amserlen lawn y gystadleuaeth ewch i: https://www.rugbyworldcup.com/2027/en/matches
Gemau Cymru yng Nghrŵp F Cwpan Rygbi’r Byd 2027
Sad 2 Hydref, Cymru v Zimbabwe
03:45 GMT (12:15 amser lleol)
Yr Oval, Adelaide | Tarntanya
Gwe 8 Hydref, Cymru v Tonga
08:15 GMT (18:15 amser lleol)
Stadiwm Docklands Melbourne | Narrm
Sad 16 Hydref, Lloegr v Cymru
09:45 GMT (19:45 amser lleol)
Stadiwm Awstralia Sydney | Wangal
Fformat y Gystadleuaeth
Bydd Cwpan Rygbi’r Byd 2027 yn cael ei gynnal yn Awstralia ac yn para am chwe wythnos o 1 Hydref hyd 13 Tachwedd 2027.
Dyma’r gystadleuaeth gyntaf ers cynyddu niferoedd y timau i 24, sy’n golygu cyfanswm o 52 o gemau.
Mae’r fformat newydd, sy’n cynnwys chwe grŵp o bedwar tîm, yn cymryd lle’r system flaenorol o bedwar grŵp o bum tîm oedd wedi bod yn weithredol ers i Awstralia gynnal y gystadleuaeth ddiwethaf yn 2003.
Bydd y ddau dîm gorau ym mhob grŵp, ynghyd â’r pedwar tîm gorau yn y trydydd safle, yn camu ymlaen i’r gemau ail-gyfle.
Am y tro cyntaf yn hanes Cwpan Rygbi’r Byd (Dynion) bydd Rownd yr 16 olaf yn gweld enillwyr Grŵpiau A, B, C a D yn chwarae yn erbyn y pedwar tîm gorau yn y trydydd safle; bydd enillwyr Grŵpiau E a F yn wynebu’r timoedd ddaeth yn ail yng Ngrŵpiau D a B; gyda’r timoedd a ddaeth yn ail yng Ngrŵpiau A ac C yn cyfarfod â’r timoedd ddaeth yn ail yng Ngrŵpiau E a F.
