Mae Prif Hyfforddwr tîm dan 20 Cymru, Richard Whiffin, wedi dewis dwy garfan i bop pwrpas i wynebu Caerdydd ar Barc yr Arfau ddydd Gwener, 16 Ionawr (7.30pm).
Bydd un garfan yn chwarae’r hanner cyntaf a charfan arall yn wynebu tîm y Brifddinas yn yr ail hanner.
Dyma fydd cyfle olaf y chwaraewyr i hawlio’u lle yng ngharfan Chwe Gwlad Whiffin. Bydd ymgyrch y Cymry ifanc yn dechrau’n erbyn Lloegr yn Northampton ddydd Gwener 6 Chwefror.
Dywedodd Richard Whiffin: “Mae’r gêm hon yn erbyn Caerdydd yn rhoi cyfle olaf i chwaraewyr godi llaw yng nghyd-destun cael eu dewis ar gyfer carfan ein hymgyrch ar gyfer y Chwe Gwlad.
“Bydd nifer yn ceisio sicrhau eu lle yn y pymtheg cychwynnol ar gyfer y gêm yn erbyn y Saeson, tra bydd ambell un yn ceisio hawlio’u lle yn y garfan ar yr eiliad olaf.
“Mae’r gêm hon hefyd yn gyfle i ni weithio ar rai cyfuniadau penodol ond yn bwysicach na dim, mae’n gyfle i ni gadarnhau ein patrwm o chwarae yn erbyn uned gystadleuol fel Caerdydd, sy’n cystadlu yn Super Rygbi Cymru wrth gwrs.
“Mae llawer o’r bechgyn wedi hen arfer chwarae ar Barc yr Arfau, ond byddwn yn gweithredu’r un trefniadau diwrnod gêm nos Wener â’r hyn fyddwn ni ar gyfer ein gêm gartref gyntaf yn y Chwe Gwlad. Bydd y bechgyn yn dod i arfer â’r ystafelloedd newid a’r naws a’r teimlad cyn mynd i mewn i’r Bencampwriaeth.”
Mae Whiffin wedi enwi 31 o chwaraewyr ar gyfer yr her yn erbyn Caerdydd: “Fe wnaethon ni ddewis carfan fawr yn fwriadol – bydd rhai bechgyn yn chwarae hanner cyfan, a bydd rhai yn chwarae ychydig yn hirach na hynny, ond ry’n ni eisiau rhoi cymaint o gyfleoedd i gymaint o chwaraewyr â phosibl fel y gallwn gryfhau ein harddull ymhellach.
“Ry’n ni wedi bod yn ymarfer ers cwpl o wythnosau, felly mae’n gyfle da i’r bechgyn ddangos yr hyn maen nhw wedi bod yn gweithio arno ar y maes ymarfer a gweithredu hynny mewn gêm gystadleuol.
“Mae’r gêm hon wedi dod ar yr adeg iawn o’n bloc ymarfer. Yn dilyn yr ornest yma nos Wener, bydd gennym syniad da o ble ry’n ni arni a byddwn yn gwybod yn iawn beth fydd angen i ni weithio arno wrth edrych ymlaen at y Chwe Gwlad.”
Cymru D20 v Caerdydd, Parc yr Arfau Caerdydd, ddydd Gwener 16 Ionawr, 7.30pm
Hanner cyntaf
1 Dylan James (Gweilch)
2 Oscar Thomas (Caerfaddon)
3 Yestyn Cook (Scarlets)
4 Osian Williams (Bryste)
5 Luke Evans (Caerwysg)
6 Osian Williams (Scarlets)
7 Caio James (Caerloyw)
8 Dom Kossuth (Scarlets)
9 Sion Davies (Caerdydd)
10 Lloyd Lucas (Caerdydd)
11 Dylan Scott (Met Caerdydd)
12 Seffan Emanuel (Caerdydd – Capten)
13 Osian Darwin-Lewis (Caerdydd)
14 Evan Morris (Bryste)
15 Jack Woods (Caerfaddon)
Ail hanner
1 George Tuckley (Dreigiau)
2 Tom Howe (Caerdydd)
3 Isaac Godfrey (Caerwysg) / Jac Pritchard (Scarlets)
4 Oscar Rees (Caerloyw)
5 Gabe Williams (Caerdydd)
6 Cerris Smith (Dreigiau)
7 Evan Minto (Dreigiau)
8 Alex Ridgway (Caerfaddon)
9 Carter Pritchard (Dreigiau)
10 Steff Jac Jones (Scarlets)
11 Rhys Cole (Dreigiau)
12 Luc Anfield (Prifysgol Caerfaddon)
13 Bailey Cutts (Caerdydd)
14 Joseff Jones (Caerdydd)
15 Rhys Cummings (Caerdydd)
MYNEDIAD: £10 i oedolion, £5 consesiwn; mae plant dan 15 oed yn cael mynediad am ddim gydag oedolyn, a mynediad am ddim ar gael i bobl sydd â thocyn tymor Caerdydd.
