Mae Undeb Rygbi Cymru wedi rhybuddio yr holl Glybiau sy’n Aelodau o’r Undeb am effeithiau niweidiol gweithredu argymhellion aelod cysylltiedig o’r sefydliad (Rhanbarth Morgannwg Ganol).
Danfonwyd llythyr at glybiau ledled Cymru gan gynrychiolwyr Rhanbarth Morgannwg Ganol yn galw am Gyfarfod Cyffredinol Eithriadol (EGM) ond mae Undeb Rygbi Cymru’n dweud y byddai gweithredu’r argymhellion hynny yn dad-wneud gwaith da sydd eisoes wedi ei wneud, yn oedi buddsoddiad ac yn peryglu llewyrch rygbi Cymru ar bob lefel o’r gamp.
Beth sydd yn y fantol:
- £28 miliwn o fuddsoddiad yn nghynlluniau’r dyfodol – sy’n cynnwys y Llwybrau Datblygu, yr academïau, hyfforddi, mewnwelediad a thalent a Super Rygbi Cymru. Byddai oedi’r cynlluniau hynny yn tanseilio’r cynlluniau i greu llwyddiant hirdymor i dimau Cymru ar y meysydd chwarae.
- Sefydlogrwydd Ariannol a Masnachol – Mae sefydlogrwydd ariannol, cefnogaeth llywodraethol, nawdd, ynghŷd â chadw a denu cefnogwyr newydd – i gyd yn dibynnu ar ffydd yn llywodraethiant yr Undeb. Byddai galw Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol yn tanseilio a pheryglu hynny.
- Hygrededd Llywodraethiant – Byddai gwneud tro pedol o’n adolygiadau llywodraethiant – gafodd eu cytuno gan dros 90% o’n Haelodau mor ddiweddar â 2023 – yn llusgo rygbi Cymru yn ôl i’r dyddiau o strwythurau anaddas a gwleidydda mewnol diangen a niweidiol.
Mae Undeb Rygbi Cymru eisoes wedi cyhoeddi cynllun clir, sydd wedi ei gyllido’n fanwl – gafodd ei gefnogi’n unfrydol gan Fwrdd yr Undeb a’i siapio yn dilyn yr ymgynghoriad mwyaf yn hanes y byd chwaraeon yn ein gwlad. Mae’r cynllun hwnnw eisoes ar waith – ond mae pob elfen o ansicrwydd yn cael effaith niweidiol ar gynnydd a datblygiad y cynllun hwnnw.
Dywedodd Terry Cobner (Llywydd), Richard Collier-Keywood (Cadeirydd) ac Abi Tierney (Prif Weithredwr) wrth y Clybiau: “Nid dyma’r amser o gwbl i daflu dyfodol rygbi Cymru i’r gwynt gan wneud hynny’n fyrbwyll ac heb wir weledigaeth hirdymor. Mae gennym gynllun gafodd ei lunio gennych chi ac sydd eisoes wedi ei gyhoeddi. Dylwn wireddu hynny gyda’n gilydd.”
