News

Pwyntiau llawn i Gasnewydd yn erbyn y Cwins

Lloyd Lewis scores
Lloyd Lewis yn sgorio ei ail gais (Llun gan Simon Latham)

Cododd Casnewydd i’r trydydd safle yn nhabl Super Rygbi Cymru yn dilyn eu buddugoliaeth sylweddol o 33–7 yn erbyn Cwins Caerfyrddin ar brynhawn arbennig o oer yn Stadiwm Casnewydd. Rhoddodd cyn-asgellwr y Scarlets, Steff Evans, ddechrau perffaith i’r Cwins pan groesodd am sgôr agoriadol yr ornest wedi pum munud yn unig ac fe lwyddodd Elis Price i drosi’n gywir o’r ystlys.

Wedi dechrau addawol yr ymwelwyr, y tîm cartref reolodd y gêm wedi hynny a llwyddodd bechgyn Tyron Morris i groesi deirgwaith cyn yr egwyl roddodd fantais o 21-7 iddynt wrth droi. Fin Baker, Carwyn Penny a Dafydd Buckland hawliodd y ceisiau hynny gyda Jac Lloyd yn ychwanegu’r trosiadau.

Gyda’r gwynt main a chryf ar eu cefnau, fe sicrhaodd Casnewydd bwynt bonws wedi awr o chwarae wrth i Lloyd Lewis groesi am y cyntaf o’i ddau gais ef – a pharhau wnaeth cicio cywir Lloyd gadarnhaodd y fuddugoliaeth swmpus hon i Wŷr Gwent.

Related Topics