Mae ymgyrch y Scarlets yn Ewrop ar ben am dymor arall yn dilyn eu colled 43-28 yn Northampton ddydd Sul.
Gan bo bechgyn Dwayne Peel wedi gorffen ar waelod eu grŵp yn Nghwpan Pencampwyr Ewrop – ni fydd lle iddynt yn Rownd 16 Olaf Cwpan Her Ewrop.
Er nad oedd y canlyniad yr hyn yr oedd y Scarlets yn ei ddymuno amdano – cafwyd perfformiad hynod ddewr ganddynt yn erbyn y tîm gollodd yn y Rownd Derfynol yng Nghaerdydd y tymor diwethaf.
Bu’r Scarlets ar y blaen ddwywaith yn ystod yr hanner cyntaf, a gyda llai na chwarter awr ar ôl, dim ond pum pwynt ar eu hôl hi roedden nhw yn Franklin’s Gardens – wedi iddyn nhw hawlio eu pedwerydd cais a’u pwynt bonws.
Ryan Elias agorodd y sgorio yn dilyn gwaith dinistriol gan Taine Plumtree a chwarter awr cyn troi, roedd y mewnwr Archie Hughes wedi manteisio ar rediad campus Ellis Mee i sgorio ail gais yr ymwelwyr. Llwyddodd Sam Costelow, oedd yn dychwelyd i’r tîm yn dilyn anaf, gyda’r ddau drosiad.
Ond asgellwr Yr Eidal Edoardo Todaro oedd Seren y Gêm heb os, gan iddo sgorio deirgwaith yn ystod y 39 munud cyntaf. Gan i Anthony Belleau drosi dau ohonyn nhw, roedd y clwb cartref ar y blaen o 19-14 ar yr egwyl.
Mae Northampton yn cael tymor rhagorol hyd yma ac fe hawliodd y tîm sydd ar frig yr Uwch Gynghrair yn Lloegr ar hyn o bryd ddau gais ychwanegol yn nhrydydd chwarter y gêm.
Asgellwr Lloegr Ollie Sleightholme sicrhaodd y pwynt bonws cyn i Craig Wright dirio pumed cais y Saeson. Yn dilyn trosiad arall gan Belleau, roedd hi’n 33-14 ac roedd gan y Scarlets wir fynydd i’w ddringo.
Ond fe ddangoson nhw wir gymeriad yn ystod 20 munud olaf yr ornest. Sgoriodd Costelow a’r cefnwr Jac Davies geisiau ac wedi dau drosiad y maswr roedd hi’n 33–28.
Er holl bwyso’r Scarlets yn ystod y munudau olaf, yr eilydd Callum Chick diriodd gais olaf yr ornest gan gadarnhau’r fuddugoliaeth i Northampton a gêm gartref iddyn nhw yn Rownd 16 Olaf y gystadleuaeth.
Trosodd Belleau y cais hwnnw hefyd.
