Bydd y ddau dîm Cymreig sy’n cystadlu’n yr Her Geltaidd yn dod ben-ben â’i gilydd yn ail rownd y gystadleuaeth y tymor hwn ar Barc yr Arfau brynhawn Sadwrn y 27ain o Ragfyr (2pm).
Mae Gwalia Lightning a Brython Thunder yn cynnwys llu o chwaraewyr rhyngwladol Cymru a nifer fawr o’n merched mwyaf addawol hefyd.
Mae disgwyl torf sylweddol yn y Brifddinas ar gyfer y frwydr fawr hon dros gyfnos yr Ŵyl, ac mae tocynnau ar gael o hyd.
Chwaraewr rheng ôl Cymru, Bryonie King, fydd yn gapten ar Gwalia Lightning, sy’n cynnwys saith chwaraewr rhyngwladol Cymru yn eu carfan a thri newid i’r tîm sgoriodd bum cais yn erbyn y Clovers yn Nulyn y penwythnos diwethaf.
Mae dwy arall sydd wedi cynrychioli prif dîm Cymru, sef y mewnwr Sian Jones a’r clo Alaw Pyrs, wedi’u dewis i ddechrau’r ornest hon, tra bo seren tîm Saith Bob Ochr Cymru, Nia Fajeyisan, wedi’i dewis ar yr asgell y penwythnos hwn.
Jess Rogers fydd yn arwain Brython Thunder am yr ail gêm yn olynol, ac mae ei charfan yn cynnwys pedair sydd wedi ennill capiau llawn dros Gymru — yr ail reng Natalia John, y mewnwr Seren Lockwood, sy’n dechrau ei gêm gyntaf erioed dros Brython Thunder, yr asgellwr Amelia Tutt, a’r wythwr Branwen Metcalfe.
Yn dilyn eu gêm yn erbyn Glasgow ar benwythnos agoriadol y tymor, mae Brython Thunder wedi gwneud pedwar newid ar gyfer y daith i’r Brifddinas, gyda’r cefnwr Amy Williams, y maswr Ffion Williams, y mewnwr Lockwood a’r blaen-asgellwr Finley Jones yn cael eu cyfle i ddechrau’r penwythnos yma.
Dywedodd Catrina Nicholas-McLaughlin, Prif Hyfforddwr Gwalia Lightning:
“Mae’r gemau darbi Cymreig bob amser yn rhoi awch ychwanegol i’r chwaraewyr, yr hyfforddwyr a’r staff, ac mae rhyw naws ac awyrgylch arbennig bob tro ry’n ni wynebu Brython Thunder.
“Fe wnaethon ni berfformio’n dda yn Nulyn ar benwythnos agoriadol yr Her Geltaidd y tymor yma ac mae’n rhaid i ni adeiladu ar hynny.
“Bydd cael y cyfle i chwarae ar Barc yr Arfau yn erbyn Brython Thunder a hynny dros gyfnod y Nadolig, yn brofiad i’w drysori.”
Dywedodd Ashley Beck, Prif Hyfforddwr Brython Thunder:
“Pan mae trefn y gemau’n cael eu cyhoeddi, y peth cyntaf mae’r chwaraewyr, yr hyfforddwyr a’r staff yn ei wneud yw chwilio am y ddwy gêm ddarbi Gymreig.
“Mae cael y gyntaf o’r ddwy mor gynnar yn y tymor, ac yng nghanol cyfnod yr Ŵyl, yn tynnu dŵr i’r dannedd.
“Ry’n ni’n dîm ifanc, ac ry’n ni’n gwybod beth i’w ddisgwyl gan Gwalia Lightning. Ein bwriad pendant ni yw perfformio hyd eithaf ein gallu yng Nghaerdydd a gweld beth ddaw o hynny.”
Gwalia Lightning
15. Catherine Richards, 14. Courtney Greenway, 13. Kelsie Webster, 12. Molly Anderson-Thomas, 11. Nia Fajeyisan, 10. Carys Hughes, 9. Sian Jones; 1.Maisie Davies, 2. Molly Reardon, 3. Evie Hill, 4. Alaw Pyrs, 5. Tilly Vucaj, 6. Erin Jones, 7. Catrin Stewart, 8. Bryonie King (capten)
Eilyddion: 16. Molly Wakely, 17. Chloe Thomas-Bradley, 18. Sophie Waugh, 19. Chiara Pearce, 20. Lily Terry, 21. Anwen Owen, 22. Katie Bevans, 23. Nikita Prothero
Brython Thunder
15. Amy Williams, 14. Amelia Tutt, 13. Ellie Tromans, 12. Gabby Healen, 11. Seren Singleton, 10. Ffion Williams, 9. Seren Lockwood; 1.Stella Orrin, 2. Shanelle Williams, 3. Elan Jones, 4. Robyn Davies, 5. Natalia John, 6. Finley Jones, 7. Jess Rogers (capten), 8. Branwen Metcalfe
Eilyddion: 16. Amy Morgan, 17. Meg Lewis, 18. Allie Watkins, 19. Mia Haf Bowen, 20. Robyn Kovachev, 21. Ffion Lewis, 22. Ffion Davies, 23. Hanna Marshall
