Neges gan Terry Cobner, Richard Collier-Keywood ac Abi Tierney
Annwyl deulu rygbi Cymru,
Wrth i ni nesáu at ddiwedd 2025, hoffem ddiolch i bob un ohonoch – ein hysgolion, sefydliadau addysgol, clybiau, gwirfoddolwyr, chwaraewyr, staff a chefnogwyr – am yr ymrwymiad, y dyfalbarhad a’r angerdd rydych yn parhau i’w dangos er lles rygbi Cymru. Mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru, chi sy’n cynnal y gêm o ddydd i ddydd. Chi yw curiad calon rygbi Cymru, a hebddoch chi fyddai dim o’r hyn rydym yn ceisio ei gyflawni yn bosibl.
Mae hon wedi bod yn flwyddyn fu’n llawn o heriau amrywiol a gwaith caled. Rydym wedi gorfod wynebu gwirioneddau plaen na ellir eu hanwybyddu bellach, ac rydym yn gwybod bod hynny wedi bod yn boenus ar adegau. Mae’r canlyniadau ar rai o’n meysydd rygbi rhyngwladol wedi siomi pob un ohonom. Mae’r gêm broffesiynol wedi bod dan bwysau – yn ariannol ac yn gystadleuol – ac rydym wedi gorfod gwneud rhai penderfyniadau anodd i sicrhau bod dyfodol rygbi Cymru yn ddiogel. Er yr heriau hynny, mae’n bwysig cydnabod y cynnydd sydd hefyd wedi ei wneud yn ystod y flwyddyn:
Cyflawniadau 2025 (mae’r ffigurau’n cyfeirio at y flwyddyn a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2025)
• £70k o gymorth teithio ychwanegol i glybiau a £30k arall i gynorthwyo twf hybiau cymunedol i ferched a menywod.
•£2,544,880.72 o fuddsoddiad a grantiau ychwanegol i gefnogi clybiau rygbi Cymru ers Gorffennaf 2025.
•£150k ychwanegol tuag at sicrhau grantiau cyfleusterau ychwanegol fydd yn sicrhau cyfanswm pellach o £722,468.
• Cafwyd haf a hanner yn Stadiwm Principality wrth i Oasis ddod yn ôl at ei gilydd – a chafwyd record o dorf o 21,000 yn gwylio gornest Chwe Gwlad Guinness y Menywod rhwng Cymru a Lloegr.
• Torfeydd cryf yn ystod Cyfres Hydref Quilter. Daeth cyfanswm o dros chwarter miliwn o gefnogwyr i’r pedair gêm fis Tachwedd. O ganlyniad i berfformiad masnachol cryf hefyd, gwelwyd cynnydd o £4.4m yn yr incwm gemau a digwyddiadau.
• Model buddsoddi newydd i glybiau wedi ei gyflwyno – sy’n nodi’r gefnogaeth i’r dyfodol – wrth i ni wneud clybiau’n fwy hygyrch
• Penodi Prif Hyfforddwr newydd i’r Menywod: Sean Lynn
• Penodi Prif Hyfforddwr newydd i’r Dynion: Steve Tandy
• Yr ymgynghoriad mwyaf yn hanes rygbi Cymru gyda 32 o gyfarfodydd a dros 7,000 o ymatebion
• Trosiant uchaf erioed Undeb Rygbi Cymru £106.1m (o’i gymharu gyda £102.7 yn 2024) ac elw o £35.2m (EBITDA – heb gynnwys colledion Caerdydd o £2.4m – £27.6 yn 2024), sydd wedi arwain at gynnydd o 28%
• Gweithredu pendant a phwrpasol ym mis Ebrill 2025 i atal methiant Rygbi Caerdydd, gan gadw rygbi proffesiynol yng Nghaerdydd
• Ymrwymiad i fuddsoddi £28m yn natblygiad craidd rygbi Cymru dros y pum mlynedd nesaf.
Wynebu’r heriau yn onest
Mae arweinyddiaeth briodol a chadarn yn golygu gweithredu cyn i amgylchiadau ein gorfodi i wneud penderfyniadau. Dros y degawdau diwethaf, ni fuddsoddodd rygbi Cymru yn ddigon cyson nac effeithiol yn ei seiliau – yn enwedig yn y llwybrau datblygu sy’n cysylltu ein clybiau cymunedol, ein hysgolion a’n sefydliadau addysgol â’r gêm broffesiynol a rhyngwladol. Mae’r Bwrdd newydd a osodoch yn ei le tua dwy flynedd yn ôl, wedi bod yn glir yn eu cyfarwyddyd bod rhaid inni weithredu’n broffesiynol a gwneud pethau’n wahanol, ac mae hynny’n golygu gwneud penderfyniadau anodd nawr er mwyn sicrhau dyfodol y system gyfan.
Rydym yn gwneud hyn oherwydd ein bod yn credu’n gryf yn yr hyn y gall rygbi Cymru fod – nid yn unig ar y lefel elît, ond ym mhob clwb ar lawr gwlad, ar bob cae hyfforddi ac ar bob ystlys – ac oherwydd ein bod yn credu bod yn rhaid i ni ddarparu’n gywir ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Y Ffordd Ymlaen – adeiladu’r sylfeini
Ym mis Hydref cyhoeddwyd Y Ffordd Ymlaen, gafodd ei lunio’n dilyn yr ymgynghoriad mwyaf erioed yn hanes y byd chwaraeon yng Nghymru. Roedd neges miloedd o leisiau – gan gynnwys llawer o’n clybiau – yn datgan yn glir fod newid yn hanfodol, a bod yn rhaid ailadeiladu a chryfhau’r llwybr datblygu’n sylweddol.
Mae’r cynllun yn ymrwymo £28 miliwn ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf i bump o brif flaenoriaethau:
- Datblygiad y dynion, gan gynnwys academi cenedlaethol, dwy ganolfan hyfforddi ranbarthol a deuddeg canolfan datblygu chwaraewyr.
- Gêm y merched a’r menywod, gan gynnwys academi cenedlaethol, canolfannau datblygu a rhai symudol, cystadleuaeth ddomestig broffesiynol newydd a buddsoddiad ar draws yr holl lwybr datblygu.
- Adnabod a rheoli talent, gan greu tîm rheoli o’r radd flaenaf o fewn yr uned i adnabod a chefnogi talent Gymreig ble bynnag bo’r chwaraewyr hynny.
- Hyfforddi, gan godi safonau ar draws y system o’n cymunedau i’n hysgolion a’n sefydliadau addysgol hyd at y gêm rhannol broffesiynol ac at lefel uchaf y gamp.
- Super Rygbi Cymru, gan gryfhau’r bont rhwng rygbi cymunedol a rygbi proffesiynol.
Nid ateb tymor byr yw hwn. Mae’n ymrwymiad hirdymor i ailadeiladu sylfeini rygbi Cymru, gan ddechrau o’r gwreiddiau ac adeiladu tuag at y brig.
Newid trefn y gêm broffesiynol
Yr elfen fwyaf dadleuol o’r cynllun yw’r cynnig i symud o bedwar tîm proffesiynol i dri. Nid angofio am unrhyw ran penodol o Gymru, na throi cefn ar unrhyw gymuned sydd wedi cefnogi rygbi rhanbarthol, yw bwriad y newid yma – ond yn hytrach i greu gêm broffesiynol sy’n gynaliadwy, yn gystadleuol ac sy’n gallu cefnogi ecosystem rygbi ehangach yn y tymor hir.
Mae llai o dimau yn golygu carfanau cryfach, cyllid mwy sefydlog a llwybrau cliriach i chwaraewyr symud ymlaen o’u clybiau cymunedol i Super Rygbi Cymru ac yna i’r gêm broffesiynol a rhyngwladol. Gwyddom fod teyrngarwch yn bwysig ac yn fater emosiynol. Gwyddom hefyd fod y bobl a’r staff sy’n gweithio o fewn bob strwythur – chwaraewyr, hyfforddwyr, staff, gwirfoddolwyr a chefnogwyr – yn teimlo ac yn gweithredu’n angerddol dros eu timau.
Ein blaenoriaeth yw sicrhau consensws neu gytundeb gyda’r clybiau proffesiynol am y ffordd ymlaen os yw hynny’n bosib. Er ein bod wedi gobeithio cadarnhau hyn cyn y Nadolig, mae wedi dod yn amlwg bod angen ychydig wythnosau ychwanegol i geisio dod i gytuneb.
Rygbi Caerdydd – diweddariad ar y broses o werthu’r clwb
Ym mis Ebrill gwnaethom fel Undeb ymyrryd i atal Rygbi Caerdydd rhag mynd i’r wal. Ers hynny, mae gwaith sylweddol wedi ei wneud i sicrhau dyfodol cynaliadwy hirdymor i’r clwb a’i gefnogwyr. Mae hwn yn benderfyniad arwyddocaol a bydd y broses yn cael ei gweithredu’n drylwyr a phroffesiynol. Byddwn yn parhau i gyfathrebu’n agored wrth i’r broses symud ymlaen dros yr wythnosau nesaf.
Cefnogi chwaraewyr
Rydym yn deall y siom pan fydd rhai o ddoniau mwyaf y gamp yng Nghymru yn dewis chwarae eu rygbi mewn gwlad arall ac rydym wedi ceisio lleihau ansicrwydd y sefyllfa bresennol. Rydym wedi cadarnhau gyda Chymdeithas y Chwaraewyr Proffesiynol yng Nghymru (WRPA) a’r clybiau proffesiynol fod pob cytundeb presennol yn mynd i gael ei barchu, fel y gall y clybiau hynny gynnig cytundebau newydd i chwaraewyr yn hyderus.
Rhesymau dros obaith
Er gwaethaf heriau 2025, mae gennym resymau dilys dros edrych ymlaen at y dyfodol yn obeithiol. Wrth wraidd yr hyder hwnnw mae’r cynnydd sy’n cael ei wneud yn y gêm gymunedol. Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi dechrau ail-lunio’r ffordd y caiff clybiau eu cefnogi. Rydym wedi cyflwyno model buddsoddi newydd i’r clybiau, sy’n decach, yn fwy tryloyw ac sydd wedi ei gysylltu’n agosach gyda’r niferoedd sy’n cymryd rhan, datblygiad ac effaith ar gymunedau lleol. Rydym wedi cynyddu’r buddsoddiad uniongyrchol i mewn i’r clybiau, gwneud y broses gyllido yn llawer mwy clir a chryfhau’r strwythurau sy’n cefnogi gwirfoddolwyr, hyfforddwyr a dyfarnwyr ar bob lefel o’r gêm. Mae’r niferoedd sy’n cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn yn dechrau sefydlogi mewn meysydd allweddol, ac mae hynny’n argoeli’n galonogol ar gyfer dyfodol y gêm gymunedol i ddynion a menywod.
Rydym hefyd wedi cryfhau ein sefyllfa ariannol, croesawu rhai hyfforddwyr rhagorol yn ôl adref i Gymru, a pharhau i fuddsoddi yn y gêm i fenywod a merched – yr elfen o’r gamp sy’n tyfu gyflymaf. Mae llawer o waith i’w wneud o hyd wrth gwrs, ond mae’r gwaith sydd eisoes wedi ei wneud yn dangos newid clir yn ein hagwedd a’r ffaith ein bod yn cydnabod mai ein clybiau yw sylfaen dyfodol ein camp.
Edrych tua’r dyfodol
Bydd rygbi Cymru yn edrych yn wahanol iawn yn ystod y blynyddoedd nesaf. Gall newid fod yn anghyfforddus wrth gwrs, ac i rai bydd yn boenus. Ond credwn yn gryf, drwy ailadeiladu ein llwybrau datblygu, buddsoddi yn ein pobl a chryfhau ein sylfeini – o’n clybiau cymunedol hyd at ein timau cenedlaethol – y byddwn yn creu system mwy cadarn a chystadleuol fydd yn fwy teilwng o’r cymunedau y maen nhw’n eu cynrychioli.
Rydym yn canolbwyntio ar adeiladu dyfodol sefydlog: clybiau cryfach, llwybrau datblygu cliriach, timau proffesiynol sy’n gallu cystadlu ac ennill, a thimau cenedlaethol fydd yn gwneud y wlad hon yn falch unwaith eto.
Diolch am yr oriau rydych wedi eu gweithio neu eu gwirfoddoli, y milltiroedd lawer rydych wedi eu teithio a’r angerdd dyddiol rydych wedi ei arddangos eto eleni. Dymunwn Nadolig heddychlon a hapus i chi a’ch teuluoedd, gan obeithio hefyd y cewch chi flwyddyn newydd dda a llwyddiannus. Diolch am bopeth a wnewch i groesawu pob cefnogwyr i bob clwb, fel y gallant gefnogi’r gêm orau yn y byd.
Pob dymuniad da i chi ar gyfer 2026.
Diolch yn fawr.
Terry Cobner
Llywydd
Richard Collier-Keywood
Cadeirydd
Abi Tierney
Prif Weithredwr
