Mae Undeb Rygbi Cymru wedi ail-agor eu Campfa ar gyfer y Llwybr Datblygu yng Nghanolfan Ragoriaeth Genedlaethol Cymru yn swyddogol heddiw.
Mae’r cam pwysig hwn yn allweddol wrth sicrhau bod talentau addawol rygbi Cymru yn cael eu meithrin mewn adnodd o’r radd flaenaf.
Agorwyd y Gampfa yn swyddogol heddiw, ddydd Llun 15 Rhagfyr, gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant.
Mae cyfanswm y buddsoddiad yn y datblygiad hwn yn £259,000 – sy’n cynnwys cyfraniad sylweddol o £207,000 gan Chwaraeon Cymru drwy Gronfa Perfformiad Elît Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn sicrhau y bydd doniau addawol rygbi Cymru’n cael mynediad i gyfleusterau cryfder a chyflyru sydd gyda’r gorau yn y byd.
Dywedodd Dave Reddin, Cyfarwyddwr Rygbi a Pherfformiad Elît Undeb Rygbi Cymru: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Chwaraeon Cymru ac i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth, sydd wedi ein galluogi i wneud gwelliannau hanfodol i’n cyfleusterau.
“Mae’r Llwybr Datblygu’n greiddiol i’n huchelgais o ddatblygu a chadw talent o’r radd flaenaf yma yng Nghymru. Wrth greu adnodd modern a chynhwysol, gallwn wneud yn siwr bod yr arferion ymarfer gorau oll yn cael eu meithrin a’u gweithredu. O’r herwydd bydd ein chwaraewyr yn cael pob cyfle i gamu ymlaen trwy’r categorïau oedran gwahanol hyd at y lefel uchaf un.”
Bydd y Gampfa ar ei newydd wedd yn gwasanaethu Llwybrau Datblygu a pherfformiad y dynion a’r menywod yn ogystal â’r bechgyn a’r merched, yn unol ag egwyddorion Strategaeth ‘Cymru’n Un’ i greu amgylchedd perfformiad uchel cyson ac uchelgeisiol ar draws pob grŵp oedran.
Mae’r Gampfa newydd yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf a’r systemau hyfforddi mwyaf cyfoes er mwyn gwella’r broses o atal anafiadau, cyflymu’r broses o wella o anafiadau a chynnig pob cefnogaeth o safbwynt datblygiad corfforol angenrheidiol chwaraewyr unigol.
Dywedodd Jack Sargeant, Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol: “Rydym yn falch o gefnogi’r datblygiad hwn gan Undeb Rygbi Cymru gyda grant o’n Cronfa Perfformiad Elît. Mae’r buddsoddiad hwn yn sicrhau’r offer a’r cyfarpar sydd eu hangen er mwyn datblygu doniau disglair Cymru i lwyddo ar lwyfan y byd yn y pendraw. Mae’r datblygiad hwn yn dangos ein hymrwymiad i gydraddoldeb a rhagoriaeth mewn chwaraeon, gan sicrhau bod pob chwaraewr, boed yn ddyn neu’n ddynes, yn cael mynediad at y cyfleusterau gorau posibl.”
Ychwanegodd Brian Davies, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru: “Mae’r buddsoddiad hwn yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu’r amodau gorau posibl i athletwyr Cymru allu llwyddo. Mae’r Gampfa ar ei newydd wedd yn edrych yn wych a bydd yn chwarae rôl hollbwysig wrth baratoi chwaraewyr ar gyfer gofynion rygbi ar y lefel uchaf, tra’n cefnogi tegwch a thwf ym myd rygbi’r merched a’r menywod.”
Mae ail-wampio Campfa Llwybr Datblygu Undeb Rygbi Cymru’n gam cyntaf mewn cyfres o gynlluniau i wella’r cyfleusterau perfformiad elît yng Nghanolfan Ragoriaeth Genedlaethol yr Undeb, fydd wedi’i hariannu’n rhannol gan Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru. Bydd ail gam y broses yn digwydd yn y Flwyddyn Newydd pan fydd adnoddau cryfder a chyflyru, cyfleusterau therapi gwres ac oerfel, ac ystafelloedd newid pwrpasol i athletwyr benywaidd yn barod i’w defnyddio.
