Heddiw, mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi Aramark UK yn bartner newydd Bwyd, Diod a Lletygarwch ar gyfer Stadiwm Principality, yn dilyn proses dendro gystadleuol.
Mae Aramark UK yn adnabyddus am gynnig bwyd o ansawdd uchel, technoleg bwyd arloesol ac arbenigedd ymarferol cryf i wella profiad y cefnogwyr.
Mae’r cwmni hefyd yn gosod targedau cynaliadwyedd clir ar gyfer gwastraff, ynni a phecynnu. Bydd y cytundeb sylweddol hwn, gwerth sawl miliwn o bunnau, yn dechrau ganol mis Rhagfyr, wedi i Gyfres Hydref Quilter ddod i ben ac mewn da bryd ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2026 a thymor cyngherddau’r haf.
Dywedodd Leighton Davies, Prif Swyddog Masnachol Undeb Rygbi Cymru, “Mae’r bartneriaeth hon yn gam masnachol pwysig i’r Undeb wrth i ni weithredu dull prynu doethach sy’n canolbwyntio ar y cefnogwyr. Mae hefyd yn cyd-fynd â’n huchelgais i weld cynnydd sylweddol yn ein cyllid, fel y gallwn ei ail-fuddsoddi yn rygbi ar bob lefel o’r gamp yng Nghymru.
Cyflwynodd Aramark UK gynnig uchelgeisiol a deniadol, ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda nhw yn y flwyddyn newydd.
Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Levy a’u staff am eu gwaith a’u hymroddiad dros y blynyddoedd diwethaf.”
Dywedodd Helen Milligan-Smith, Prif Weithredwr a Llywydd Aramark UK, “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ein dewis yn bartner newydd i Undeb Rygbi Cymru. Yn Aramark, rydym yn angerddol am greu profiadau bythgofiadwy i’r cefnogwyr a’n cwsmeriaid a’n bwriad bob tro, yw eu gosod wrth galon popeth a wnawn.
“Rydym yn gwmni egnïol a phrofiadol iawn ym maes chwaraeon ac adloniant yng Nghymru a ledled y byd hefyd. Ein bwriad yw codi safon y gwasanaeth yn Stadiwm Principality i lefelau newydd.
“Mae’r bartneriaeth hon wedi ei gwreiddio gan ymrwymiad cryf i’r gymuned gynnyrch Gymreig. Gyda’n gilydd, edrychwn ymlaen at lunio dyfodol disglair sy’n dathlu ysbryd, balchder a threftadaeth rygbi Cymru.”
Bydd rhagor o fanylion ar gael yn dilyn gemau Cyfres Hydref Quilter.
