News

Turnbull yn troi dalen newydd

Josh Turnbull

Mae Undeb Rygbi Cymru yn falch o gyhoeddi bod cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, Josh Turnbull, am ymuno â thîm Dan 20 Richard Whiffin fel hyfforddwr cynorthwyol.

Wedi gyrfa ddisglair, fe benderfynodd Turnbull ymddeol fel chwaraewr ym mis Ebrill 2024, wedi iddo wneud 334 o ymddangosiadau dros y Scarlets a Rygbi Caerdydd.

Erbyn hynny, roedd eisoes â’i fryd ar hyfforddi a bu’n cynorthwyo Castell Newydd Emlyn, tîm D18 y Scarlets, Cwins Caerfyrddin ac o fewn llwybr datblygu Rygbi Caerdydd hefyd.

Dywedodd Richard Whiffin, Prif Hyfforddwr D20 Cymru: “Fe wnaeth Josh waith gwych gyda Richie Pugh yng Ngŵyl Chwe Gwlad Dan 18 y llynedd pan aeth y tîm drwy’r gystadleuaeth heb golli gêm.
“Mae e’n adnabod llawer o’r chwaraewyr fydd yn aelodau o’r garfan Dan 20 yn barod a bydd hynny o fantais mawr i ni.  Mae’n hyfforddwr ifanc addawol sy’n canolbwyntio ar yr amddiffyn, felly bydd y bechgyn yn elwa o gael llais a dylanwad ychydig yn wahanol eleni.

“Gan fod Josh wedi cael cwpl o flynyddoedd gyda’r garfan D18, mae’n gam naturiol iddo i symud ymlaen at y criw D20 – ac mae eisoes wedi dweud wrthyf fod yn rhaid i’r bois fod yn fwy corfforol yn y gwrthdrawiadau.”

Ychwanegodd Josh Turnbull: “Dwi’n falch iawn o fod yn aelod o dîm hyfforddi ein carfan D20 a dwi’n edrych ymlaen at helpu datblygu’r bechgyn hyn a’u rhoi ar y trywydd cywir i ddod yn chwaraewyr rygbi proffesiynol.

“Ar ôl treulio’r ddau dymor ddiwethaf gyda Richie Pugh a’r garfan D18, mae llawer o’r chwaraewyr bellach wedi symud ymlaen at y garfan D20, ac mae’r berthynas sydd gennym yn barod â rhai ohonyn nhw’n mynd i’n helpu ni a nhw i fod yn llwyddiannus.”

Bydd Turnbull yn parhau yn ei rôl hyfforddi gyda charfan D18 Cymru ac Academi Rygbi Caerdydd yn ystod ei secondiad gyda charfan D20 Cymru:

“Mae’n bron i ugain mlynedd ers i mi gael fy newis gyntaf i garfan D19 Cymru.

“Mae gen i atgofion melys o chwarae yn y gemau hynny yn y Chwe Gwlad. Fe enillon ni’r Gamp Lawn yn 2006 gyda chriw oedd yn cynnwys Brad Davies, Hugh Gustafson, Lou Reed, Jonathan Davies a Rhys Priestland.”

Llwyddodd carfan D20 Cymru’r llynedd i chwalu gobeithion Lloegr o ennill y Gamp Lawn ar Barc yr Arfau, ac mae Turnbull yn gobeithio y bydd cefnogwyr yn niferus a swnllyd wrth i Gymru groesawu Ffrainc a’r Alban i’r Brifddinas ar ddau benwythnos yn olynol yn y flwyddyn newydd:

“Wrth edrych nôl ar y fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr, ry’ch chi’n sylweddoli pwysigrwydd perfformiadau a chanlyniadau ar nosweithiau fel hynny, wrth i’r bois baratoi eu hunain ar gyfer gyrfaoedd proffesiynol.

“Mae’n bwysig felly bod cyhoedd Cymru’n dod mas i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr rhyngwladol Cymru.”

Gêmau Cartref Cymru Dan 20 ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad
Sadwrn 14 Chwefror – Cymru v Ffrainc, Parc yr Arfau Caerdydd, 8pm
Sadwrn 20 Chwefror – Cymru v Yr Alban, Parc yr Arfau Caerdydd, 7.15pm
Sul 15 Mawrth – Cymru v Yr Eidal, Rodney Parade, Casnewydd 1pm

Related Topics