News

Wilkins yn ymddeol wedi deg mlynedd o wasanaeth i Gymru

Robyn WIlkins
Robyn Wilkins

Mae’r maswr Robyn Wilkins wedi cyhoeddi ei hymddeoliad o rygbi ar bob lefel wedi degawd a mwy ar frig camp y menywod.

Bydd Wilkins, sy’n 30 oed, yn ymddeol o chwarae rygbi’n llwyr – a hynny ar unwaith. Serch hynny, bydd ei chysylltiad gyda’r gamp yn parhau gan ei bod wedi ei phenodi i rôl hyfforddi allweddol newydd gyda Chanolfan Datblygu Chwaraewyr Undeb Rygbi Cymru ym Mae Colwyn.

Enillodd Wilkins 72 o gapiau dros Gymru ac fe chwaraeodd hi mewn tri Chwpan y Byd – yn 2014 yn Ffrainc, Iwerddon 2017 ac yn Seland Newydd yn 2021.
Gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf dros Gymru’n ddeunaw oed yn erbyn yr Eidal ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad 2014. Er mai maswr oedd ei phrif safle, fe gynrychiolodd ei gwlad yn y canol ac yn safle’r cefnwr hefyd.

Cafodd ei haddewid cynnar ei gydnabod â hithau ond yn 16 oed – pan gafodd wahoddiad i ymarfer gyda’r brif garfan genedlaethol. Enillodd ei 50fed cap dros Gymru yn 25 oed yn erbyn Iwerddon yn 2021.

Bydd ei rôl newydd gydag Undeb Rygbi Cymru’n ei galluogi i drosglwyddo ei holl brofiad ar y maes rhyngwladol i’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr ar draws Gogledd Cymru – ardal sy’n feithrinfa gyfoethog o dalent yn y gêm fenywaidd.

Daw’r prop rhyngwladol Gwenllian Pyrs, ei chwaer – y clo Alaw Pyrs a’r olwyr o chwioryddd Nel a Branwen Metcalfe o Ogledd Cymru ac fe chwaraeodd y bedair ohonyn nhw yng Nghwpan y Byd 2025 yn ddiweddar. Yn wir dechreuon nhw’i gyd eu taith i brif lwyfan y byd yng Nghlwb Rygbi Nant Conwy.
Bu Robyn Wilkins yn hyfforddi’n wirfoddol gyda Chanolfan Datblygu Perfformiad y Gogledd cyn cael ei phenodi’n swyddogol ac yn llawn amser i gyflwyno’r rhaglen perfformiad uchel i’r ardal.

Dywedodd Robyn Wilkins, cyn-faswr Cymru a Sale – sydd bellach yn brif hyfforddwr Canolfan Datblygu Perfformiad Gogledd Cymru:
“Mae rygbi wedi bod yn rhan enfawr o fy mywyd ac ro’n i’n gwybod y byddai’r diwrnod y byddwn i’n gorfod rhoi’r gorau i chwarae’n digwydd rhywbryd. Ond roedd cael y cyfle i aros yn y gêm yn rhywbeth allwn i ddim ei wrthod.

“Yn ystod fy amser gyda Chymru, dwi wedi gweld y gêm yn symud o fod yn amatur – yn chwarae o flaen torfeydd bach iawn – i fod yn broffesiynol gyda miloedd lawer yn ein gwylio.

“Er fy mod wedi profi dipyn o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau yn ystod fy nghyrfa – mae’n rhaid i mi ddiolch i’m teulu, ffrindiau, cyd-chwaraewyr a hyfforddwyr am daith bersonol anhygoel.

“Roedd chwarae dros Gymru’n fraint arbennig ac wrth i fy nyddiau chwarae ddod i ben, mae’r syniad o fod yn hyfforddwr a helpu’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr Cymru yn rhywbeth dwi’n teimlo’n arbennig o angerddol amdano.

“Mae gweld Gwenllian Pyrs, Alaw Pyrs, Nel Metcalfe a Branwen Metcalfe yn cynrychioli Cymru’n brawf bod y Gogledd yn cynhyrchu gwir dalent, ac mae’r cyfle i ddod o hyd i’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr yn un sy’n fy nghyffroi.”

Sefydlodd Undeb Rygbi Cymru dair Canolfan Datblygu Perfformiad ar gyfer rygbi menywod yn y Dwyrain, Gorllewin a Gogledd Cymru yn ôl yn 2023, er mwyn helpu i adnabod a meithrin doniau’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr.

Amcan y tair Canolfan yw cefnogi datblygiad chwaraewyr ifanc â photensial uchel ledled Cymru a’u meithrin i fod yn chwaraewyr elît.

Mae pob Canolfan, sy’n cael eu hariannu ar y cyd gan Undeb Rygbi Cymru a’i phartneriaid Met Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Rygbi Gogledd Cymru, yn darparu hyfforddiant o safon uchel i 25–35 o chwaraewyr dethol mewn dull tebyg i Academi, ar gyfer y rhai sy’n cael eu hystyried yn chwaraewyr posibl yn y dyfodol, i dimau Cymru ar lefelau dan18, dan 20 a’r brif garfan ryngwladol.

Dywedodd Siwan Lillicrap, Rheolwr Llwybr Datblygu Menywod Undeb Rygbi Cymru:
“Gan fy mod i wedi chwarae gyda Robyn, dwi’n gwybod yn iawn y bydd ei phrofiad, ei syniadau a’i dadansoddiad o’r gêm yn werthfawr iawn wrth inni barhau i ddatblygu talent yng Ngogledd Cymru.

“Mae hi’n cyfathrebu’n wych, ac mae’r gêm yn agos iawn at ei chalon. Roedd hi’n amlwg ei bod eisiau parhau yn y gamp gan roi rhywbeth yn ôl i’r gêm sydd mor bwysig iddi. Mae hi wedi bod yn hyfforddi’n wirfoddol yn barod – sy’n brawf o’i hymrwymiad a’i hangerdd – ac felly mae’r swydd newydd hon yn gweddu’n berffaith iddi.

Dywedodd Belinda Moore, Pennaeth Rygbi Menywod Undeb Rygbi Cymru:
“Mae penodiad Robyn yn dangos ymrwymiad yr Undeb i’r gêm fenywaidd ac yn gam pwysig arall i adnabod a meithrin y genhedlaeth nesaf o dalent.

“Bydd ei phrofiad a’i gwybodaeth am chwarae ar y lefel uchaf yn amhrisiadwy i’r chwaraewyr ifanc addawol hynny all ddatblygu i fod yn sêr posibl y dyfodol.”

Related Topics