News

Diweddariad carfan Cymru

Mae Olly Cracknell
Bydd Cracknell yn gobeithio ennill ei gap cyntaf yn ystod y gyfres

Mae Olly Cracknell, chwaraewr rheng ôl Caerlŷr – sydd eto i ennill cap – wedi cael ei alw i garfan Cymru ar gyfer Cyfres Hydref Quilter.

Mae chwaraewr rheng ôl Caerdydd, Taulupe Faletau, wedi cael ei ryddhau o’r garfan oherwydd anaf i’w ben-glin a gafodd yn erbyn Caeredin ddydd Sadwrn.

Dywedodd y prif hyfforddwr Steve Tandy: “Mae’n amlwg yn siomedig iawn colli Toby oherwydd anaf gan ei fod yn chwaraewr o safon uchel. Ond mae Olly wedi bod yn chwarae’n dda iawn i Gaerlŷr ac rydym yn gyffrous i’w ychwanegu at y garfan.”

 

CARFAN CYMRU AR GYFER CYFRES HYDREF QUILTER 2025
Blaenwyr (22)
Keiron Assiratti (Caerdydd – 15 cap)
Adam Beard (Montpellier – 58 cap)
Liam Belcher (Caerdydd – 2 gap)
Rhys Carre (Saraseniaid – 20 cap)
Ben Carter (Dreigiau – 13 chap)
Brodie Coghlan (Dreigiau – heb gap eto)
Christian Coleman (Dreigiau – 1 cap)
Olly Cracknell (Caerlŷr – heb gap eto)
Rhys Davies (Gweilch – 3 chap)
James Fender (Gweilch – heb gap eto)
Archie Griffin (Caerfaddon – 8 cap)
Dafydd Jenkins (Caerwysg – 23 chap)
Dewi Lake (Gweilch – 22 cap)
Alex Mann (Caerdydd – 7 cap)
Jac Morgan (Gweilch – 23 chap)
Morgan Morse (Gweilch – heb gap eto)
Taine Plumtree (Scarlets – 8 cap)
Nicky Smith (Caerlŷr – 56 chap)
Danny Southworth (Caerdydd – heb gap eto)
Gareth Thomas (Gweilch – 42 cap)
Freddie Thomas (Caerloyw – 4 cap)
Aaron Wainwright (Dreigiau 59 cap)

Olwyr (17)
Josh Adams (Caerdydd – 63 chap)
Jacob Beetham (Caerdydd – 1 cap)
Rio Dyer (Dreigiau – 23 chap)
Dan Edwards (Gweilch – 3 chap)
Jarrod Evans (Harlequins – 11 cap)
Kieran Hardy (Gweilch – 25 cap)
Joe Hawkins (Scarlets – 5 cap)
Louie Hennessey (Caerfaddon – heb gap eto)
Max Llewellyn (Caerloyw – 8 cap)
Reuben Morgan-Williams (Gweilch – 1 cap)
Blair Murray (Scarlets – 10 cap)
Louis Rees-Zammit (Bryste – 32 cap)
Tom Rogers (Scarlets – 11 cap)
Callum Sheedy (Caerdydd – 16 chap)
Ben Thomas (Caerdydd – 14 cap)
Nick Tompkins (Saraseniaid – 41 cap)
Tomos Williams (Caerloyw – 64 cap)

 

GEMAU CYFRES HYDREF QUILTER CYMRU 2025
Stadiwm Principality
Yn fyw ar S4C, TNT Sports a discovery+.

  • Dydd Sul 9 Tachwedd: Cymru v Ariannin 3.10pm
  • Dydd Sadwrn 15 Tachwedd: Cymru v Japan 5.40pm
  • Dydd Sadwrn 22 Tachwedd: Cymru v Seland Newydd 3.10pm
  • Dydd Sadwrn 29 Tachwedd: Cymru v De Affrica 3.10pm

Related Topics