News

Pam bod Super Rygbi Cymru’n bwysig i ddyfodol rygbi Cymru.

John Alder yn lansiad tymor newydd Super Rygbi Cymru

Yn y blog yma, mae ein harweinydd cenedlaethol ar gyfer Datblygu Chwaraewyr a’r Llwybrau Datblygu, John Alder, yn myfyrio ar dymor cyntaf Super Rygbi Cymru (SRC) a pham ei fod yn bwysig i ddyfodol rygbi Cymru. Mae’n trafod sut mae’r gystadleuaeth eisoes wedi newid arddulliau chwarae, creu cyfleoedd newydd i dalent ifanc, a chryfhau’r cysylltiad â chymunedau a chefnogwyr. Yn bwysicaf oll, mae’n esbonio pam fod y gwersi hyn yn ganolog wrth i ni agor ymgynghoriad ehangach ar sut i adeiladu dyfodol cynaliadwy a llwyddiannus i’r gêm yng Nghymru.

Pan wnaethon ni gychwyn tymor cyntaf SRC, roedden ni’n gwybod ei fod yn fwy na dim ond fformat cystadleuaeth newydd. Roedd yn gyfle i ailfeddwl sut rydyn ni’n datblygu talent, cysylltu â chymunedau, ac adeiladu dyfodol cynaliadwy ar gyfer rygbi elît yng Nghymru.  Roedd cael cynghrair ddomestig ystyrlon oedd yn bwydo’r gêm broffesiynol, yn rhoi her werthfawr i dalent newydd, ac yn cyffroi ac ymgysylltu â chymunedau angerddol yn sbardun allweddol wrth sefydlu Super Rygbi Cymru a’i safle yn ecosystem rygbi perfformiad uchel.  Nawr, wrth i ni agor ymgynghoriad ehangach i’r dyfodol, dyma’r amser iawn i fyfyrio ar yr hyn rydyn ni wedi’i ddysgu, ac i ble rydyn ni’n mynd.

Gadewch i ni ddechrau gyda rygbi ei hun. Enillodd Llanymddyfri, Glyn Ebwy a Chasnewydd dlysau y tymor hwn, pob un â’i stori ei hun. Roedd rhediad cartref Glyn Ebwy o 13 gêm yn ddi-guro a chadw’r Darian Her yn enghraifft wych o safnwynt cysondeb, ac roedd buddugoliaeth Casnewydd yn y Tlws o flaen 3,600 o gefnogwyr yn dangos faint o awydd sy’n bodoli am rygbi o safon uchel ar y lefel hon.

Ond nid y canlyniadau’n unig oedd yn bwysig. Roedd yr arddull chwarae ar draws SRC yn gyflym, yn uchelgeisiol ac yn gyffrous. Cafodd y bêl ei chwarae am gyfartaledd o 34 munud, dim ond munud yn llai nag Undeb Rygbi Cymru, ac roedd y gemau’n llawn pwyntiau, ceisiau, a bwriad ymosodol. Roedd y timau’n pasio mwy, yn dadlwytho mwy, yn curo mwy o amddiffynwyr, ac yn chwarae trwy fwy o gyfnodau nag y gwelsom mewn fformatau blaenorol. Mae’r data hwn yn amlwg yn arwydd o newid meddylfryd.

A’r chwaraewyr? Maen nhw’n iau, yn frwdfrydig, ac yn cael mwy o gyfleoedd. Gostyngodd yr oedran cyfartalog o 26.5 i 25, gydag Aberafan yn arwain y ffordd, gan drawsnewid o’r tîm hynaf yn Uwch Gynghrair Indigo i’r ieuengaf yn SRC. Mae hynny’n newid mawr, ac mae eisoes yn talu ar ei ganfed.

Mae taith Ellis Mee o SRC, i ddechau’n gyson dros y Scarlets, ac ymlaen at ei gap cyntaf i Gymru, a hynny mewn un tymor, yn enghraifft bwerus o’r hyn sy’n bosibl. Ac nid ef yw’r unig un. Rydyn ni wedi gweld chwaraewyr SRC yn cynrychioli Cymru dan 20 ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad a Phencampwriaeth y Byd o dan 20.

Cynyddodd amser chwarae y tîm dan 20 oed o 70%, ac arweiniodd hynny at ein canlyniad gorau yn y Chwe Gwlad ers 2017, gan gynnwys buddugoliaeth dros Bencampwyr y Byd, Lloegr o flaen 8,500 o gefnogwyr ym Mharc yr Arfau Caerdydd.

Y tu ôl i’r llenni, mae ein llwybrau hyfforddi’n esblygu hefyd. Fe ymunodd Scott Baldwin â thîm hyfforddi Pen-y-bont, symudodd Bradley Davis o SRC i’r Scarlets, a bydd Jonathan Thomas yn arwain Abertawe y tymor hwn. Mae hyn yn rhan o strategaeth ehangach Cymru’n Un i gysylltu profiad â datblygiad.

Mae sylw ar y cyfryngau wedi tyfu’n sylweddol. Fe wnaethom ddarlledu 21 gêm fyw, ynghyd â 18 o raglenni uchafbwyntiau ar nosweithiau Mawrth yn ystod y tymor cyntaf, gyda chynulleidfaoedd teledu yn tyfu 40%, YouTube 29%, a ffrydio S4C Clic 21% o flwyddyn i flwyddyn. Denodd y gêm dros gyfnod y Nadolig rhwng Rygbi Gogledd Cymru a Phen-y-bont 109,000 o wylwyr ac ar draws y cyfryngau cymdeithasol, rydym wedi cael 1.5 miliwn o wyliadau. Mae ein cynulleidfa yn amrywiol ac yn tyfu, yn enwedig ymhlith cefnogwyr iau.

Mae’n rhaid i’r llwybr chwaraewyr elît yng Nghymru fod yn rhan allweddol o’r weledigaeth o lwyddiant yng Nghymru ar gyfer y dyfodol. Hyd yn hyn mae chwaraewyr gwrywaidd wedi symud ymlaen trwy strwythurau sydd wedi hen sefydlu, fel yr Academïau Rhanbarthol a Super Rygbi Cymru (SRC), ond hyd yn hyn does gan gêm y merched ddim haen ddomestig uwch debyg.

Byddai cyd-gysylltu ac integreiddio llwybrau presennol ar draws y gêm, gan gynnwys grwpiau oedran a lefelau dynion a merched, yn cryfhau’r system yn ei chyfanrwydd, gan alluogi gwell datblygiad a chynhyrchu mwy a gwell chwaraewyr ar gyfer rygbi proffesiynol ein gwlad ac ar gyfer timau rhyngwladol Cymru.

Er bod Undeb Rygbi Cymru wedi buddsoddi’n ddiweddar yn Academïau Rhanbarthol y dynion, SRC, a moderneiddio Cynllun y Chwaraewyr Mwyaf Addawol (EPP), gan hefyd ddatblygu camp y menywod, trwy’r Canolfannau Datblygu Chwaraewyr (PDCs), bydd yr ymdrechion hyn yn cymryd amser i ddwyn ffrwyth.

Mae’n heriol ar adegau i sicrhau’r effaith fwyaf oherwydd y nifer fawr o randdeiliaid sy’n rhan o’r broses. Yn aml mae gan nifer ddyheadau ac athroniaeth wahanol i’w gilydd. Felly, mae diffyg cysylltiad yn dal i fodoli rhwng rygbi ar lawr gwlad, y systemau datblygu talent, a llwybrau datblygu perfformiad elît, sy’n dangos yr angen am ffocws, cydweithrediad a buddsoddiad penodol a pharhaus er mwyn symud tuag at ecosystem rygbi mwy integredig.

Wrth i ni agosáu at ddechrau’r tymor newydd, bydd y gemau’n cael eu chwarae ar ddyddiau Iau, Gwener, Sadwrn a Sul, a phob wythnos bydd gêm fawr yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C gyda’r holl gemau eraill yn cael eu ffilmio’n broffesiynol ar gyfer uchafbwyntiau wythnosol o bob gêm ar YouTube ac S4C.  I ddechrau heno, mae gennym gêm gyffrous rhwng Pencampwyr presennol SRC, Casnewydd ac enillwyr Cwpan SRC, Llanymddyfri yn Stadiwm Casnewydd, yn fyw ar S4C am 19:45.

Mae’n rhaid i bawb sy’n rhan o’r broses ddatblygu yma fod yn agored ynglŷn â ble rydyn ni’n mynd. Rydyn ni’n gwybod bod angen adeiladu dyfodol rygbi elît yng Nghymru gyda thryloywder, cydweithrediad, ac ymdeimlad o bwrpas.

Nid siarad gwag am newid pethau yn unig yw hyn, rydyn ni’n eich gwahodd i fod yn rhan o’r newid hwnnw.

Gadewch i ni gadw’r drafodaeth yn fyw ac yn fywiog.

John Alder

Arweinydd Cenedlaethol (Datblygu Chwaraewyr a Llwybrau Datblygu URC).

Related Topics