News

Undeb Rygbi Cymru yn Lansio Canolfan Iechyd Meddwl yn Stadiwm y Principality mewn Partneriaeth Newydd

04.02.23 - Wales v Ireland - Guinness Six Nations - Prematch pyrotechnics at Principality Stadium

Mae Undeb Rygbi Cymru (URC), mewn partneriaeth â Sefydliad Jac Lewis a’r Sefydliad Brenhinol, wedi lansio canolfan iechyd meddwl newydd yn Stadiwm Principality. Mae’r ganolfan wedi’i chynllunio i ddarparu gwasanaeth llesiant ac iechyd meddwl ataliol i glybiau rygbi lleol a’r gymuned ehangach.

Lansiwyd y fenter newydd gyda chyfarchiad gan ei Uchelder Brenhinol, y Tywysog William, ar Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd.

Bydd y ganolfan yn cynnig sesiynau ‘galw heibio’ wythnosol dan arweiniad cynghorwyr sy’n arbenigwyr yn y maes, gan gynnig cymorth a chefnogaeth broffesiynol ar gyfer unrhyw heriau iechyd meddwl. Mae’r gwasanaeth yn ddatblygiad pellach o’r model llwyddiannus y mae Sefydliad Jac Lewis eisoes yn ei weithredu mewn lleoliadau chwaraeon eraill, gan gynnwys Clwb Pêl-droed Abertawe.

Mae’r fenter hon yn elfen bwysig o strategaeth gynhwysfawr Undeb Rygbi Cymru ar gyfer llesiant chwaraewyr yn y gêm gymunedol. Bydd y ganolfan yn ychwanegiad pwysig at adnoddau lles presennol yr Undeb, sydd eisoes yn cynnwys y rhaglen hyfforddi ‘Rygbi Diogel’ (Rugby Safe) a’r polisïau diogelu sydd i’w gweld ar y wefan swyddogol.

Yn ystod y digwyddiad lansio, fe wnaeth y Tywysog gyfarfod â Phrif Hyfforddwr Dynion Cymru, Steve Tandy a Jac Morgan, i drafod rôl chwaraeon wrth hyrwyddo iechyd meddwl mewn ffordd gadarnhaol.

Dywedodd Jac Morgan, chwaraewr rhyngwladol Cymru ac aelod o garfan y Llewod deithiodd i Awstralia dros yr haf:

“Roedd yn wych bod yma heddiw ar gyfer Sefydliad Jac Lewis, gan weld eu gwaith gwych yn ymestyn i Gaerdydd. Bydd y sesiynau galw heibio yn digwydd bob wythnos yn y Stadiwm ac mae hynny’n naturiol yn beth i’w groesawu’n fawr.

“Sefydlwyd Sefydliad Jac Lewis yn Rhydaman, ac fe es i i’r ysgol yn y dref. Felly mae’n elusen dwi wedi bod yn ymwybodol iawn ohoni ers iddyn nhw ei sefydlu hi.

“Dwi’n adnabod llawer o wirfoddolwyr yr elusen honno ac mae’n braf iawn eu gweld nhw yma heddiw. Mae wedi bod yn wych clywed am y gweithgareddau a’r gweithdai gwahanol y maen nhw’n eu cynnal gan hefyd werthfawrogi faint o help y maen nhw wedi’i roi i gyment o bobl yn y gymuned gyda’u hiechyd meddwl.”

Bydd y bartneriaeth â’r Sefydliad Brenhinol a chyfraniad ariannol y Sefydliad, yn galluogi’r ganolfan yn Stadiwm Principality i weithredu un diwrnod yr wythnos dros gyfnod o dair blynedd.

Bydd sesiwn galw heibio gyntaf y ganolfan yn cael ei chynnal yr wythnos nesaf, ddydd Mercher 17 Medi. Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim ac ar gael i aelodau o’r gymuned rygbi a’r cyhoedd sydd yn chwilio am gymorth.

Related Topics