News

Diweddariad wythnosol Undeb Rygbi Cymru am yr Ymgynghoriad: 12 Medi 2025

-

🔷 YR WYTHNOS HON – YMGYNGHORIAD 1. 12 Medi 2025

Dyma ddiweddariad wythnosol byr i bawb sy’n ymddiddori yn ymgynghoriad Undeb Rygbi Cymru ar ddyfodol rygbi ein gwlad. Byddwn yn ei gyhoeddi bob dydd Gwener yn ystod cyfnod yr ymgynghoriad hyd nes i’r cyfnod hwnnw ddod i ben ar 26 Medi 2025.

 

🗓️ Cip ar yr wythnos ddiwethaf

 

Dydd Gweithgaredd
Dydd Llun 5 Medi Pum cyfarfod Ardal blynyddol (Mae’r 300 o glybiau’n aelodau o un o naw Ardal wahanol yr Undeb) i’w cynnal yr wythnos hon gyda phresenoldeb gan gynrychiolwyr Undeb Rygbi Cymru.
Dydd Llun 5 Medi Ymatebion yn parhau i gael eu cyflwyno
Dydd Mawrth–Gwener 5–12 Medi Y cyfarfodydd ymgynghori ffurfiol yn parhau gyda staff yr Undeb yn ymweld â’r Scarlets ym Mharc y Scarlets, cynnal cyfarfod gyda chwaraewyr proffesiynol a Chymdeithas y Chwaraewyr yng Nghymru (WRPA). Bu cyfarfod hefyd â grŵp cefnogwyr swyddogol Rygbi Caerdydd.
Dydd Gwener 12 Medi Cyhoeddi yr ail ddiweddariad am ymgynghoriad Undeb Rygbi Cymru.

 

📣 Lansio’r Ymgynghoriad

Mae cyfnod ymgynghori pedair wythnos Undeb Rygbi Cymru bellach ar waith. Dyma’r adolygiad strategol mwyaf o rygbi elît yng Nghymru ers cenhedlaeth. Rydym wedi cyhoeddi ein barn am y system orau yn ein barn ni. Nawr rydym eisiau clywed barn holl aelodau teulu rygbi Cymru ledled y wlad.

– Mae’r arolwg cyhoeddus ar waith: https://ymlaencymru.com/consultation a gallwch lenwi’r holiadur yn Gymraeg yma: https://ymlaencymru.com/ymgynghoriad/#SUT-ALLA%E2%80%99I-GYMRYD-RHAN

– Mae’r ddogfen ymgynghori yn amlinellu gweledigaeth feiddgar URC am newid

– Rydym yn cyfarfod â rhanddeiliaid ar draws y gêm drwy gydol y mis

📊 Cipolwg o’r Arolwg hyd yn hyn (14 diwrnod cyntaf)

Rydym yn falch o’r ymateb brwd i’r arolwg cyhoeddus hyd yma, gyda miloedd o bobl sy’n poeni am rygbi Cymru eisoes wedi datgan eu barn. Rydym yn annog pawb i barhau i gymryd rhan yn y broses hon a byddwn yn croesawu mwy o ymatebion gan bobl sydd eto i gyfrannu.

Mae’r ddogfen ymgynghori ei hun https://ymlaencymru.com/wp-content/uploads/2025/08/190825-Updated-Confidential-Consultation-Pack3.pdf wedi’i lawrlwytho 2,900 gwaith hyd yma.

Mae ein tudalen ymgynghori https://ymlaencymru.com/consultation/ wedi ei weld 6.8k o weithiau ym mis Awst – ac ar hyn o bryd mae’r ffigwr hwnnw’n16k yn ystod mis Medi.

Mae ein harolwg cyhoeddus https://ymlaencymru.com/consultation/#Involved wedi derbyn dros 6.3k clic.

Metrig Data
Ymatebion a gwblhawyd 5,791
Y 5 cod post uchaf Heb eu prosesu eto
Rhyw 88.6% gwrywaidd, 9.8% benywaidd, 0.3% anneuaidd, 1.3% yn well ganddynt beidio â dweud
Mathau gwahanol o ymatebwyr Pawb yn uniaethu fel cefnogwyr neu gyfeillion y gêm; ymhlith y rhain mae: 121 o gyn-chwaraewyr proffesiynol neu chwaraewr proffesiynol presennol, 661 o chwaraewyr cymunedol, 958 o aelodau clybiau, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr neu swyddogion ein clybiau cymunedol, 676 o rieni neu berthnasau chwaraewyr, 639 o aelodau clybiau rhanbarthol neu ddeiliaid tocyn tymor a 127 o bobl neu swyddogion o ochr fasnachol neu fusnes y gêm
Demograffeg oedran 27% o dan 35. 42.6% 36–55 oed. 28.4% 56 oed ac yn hŷn

Graffeg: Map o Gymru yn dangos y mannau mwyaf dwys o ran ymgysylltu hyd yn hyn.

 

👥 Ymgysylltiadau Rhanddeiliaid

Yr wythnos hon, cyfarfu’r Undeb â:

– Uwch-arweinyddiaeth y Scarlets, sy’n golygu ein bod bellach wedi cyfarfod â’r pedwar clwb rhanbarthol ar ôl cynnal cyfarfodydd yr wythnos ddiwethaf gyda’r Dreigiau, Rygbi Caerdydd a’r Gweilch.

– Cadeirydd Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru, Gareth Lewis, a chynrychiolwyr y chwaraewyr eu hunain

– Aelodau o glwb cefnogwyr swyddogol Rygbi Caerdydd (yn digwydd nos Wener)

Arweiniwyd pob cyfarfod yn bersonol gan Dave Reddin, Cyfarwyddwr Rygbi a Pherfformiad Elît Undeb Rygbi Cymru, gyda chyfraniadau gan swyddogion perthnasol eraill yr Undeb. Y grwpiau sy’n cael eu gwahodd i’r digwyddiadau hyn sy’n penderfynu ar eu cynrychiolwyr eu hunain gyda phob cyfraniad yn cael ei groesawu.

 

🏉 Cerrig milltir eraill Undeb Rygbi Cymru yr wythnos hon

– 10 Medi: Hyfforddwr Cymru Steve Tandy a Jac Morgan yn Stadiwm Principality mewn cyfarfod gyda’r Tywysog William i drafod a hyrwyddo canolfan iechyd meddwl newydd yng Nghaerdydd mewn partneriaeth â Sefydliad Jac Lewis a’r Sefydliad Brenhinol : https://www.wru.wales/2025/09/undeb-rygbi-cymru-yn-lansio-canolfan-iechyd-meddwl-yn-stadiwm-y-principality-mewn-partneriaeth-newydd/

– Cyhoeddodd Sean Lynn ei adolygiad o ymgyrch Menywod Cymru yng Nghwpan y Byd gan ddweud: “Rydym yn bwriadu cydweithio’n llawer agosach gyda’n clybiau yn yr Her Geltaidd ac i fod yn rhan allweddol o’r strategaeth wrth edrych ymlaen at y gemau rhyngwladol nesaf.”

– Bydd Casnewydd yn dechrau eu hymgyrch i gadw’u gafael ar goron Super Rygbi Cymru heno (nos Wener) gyda’r dechrau anoddaf posibl yn eu wynebu pan fyddant yn croesawu Llanymddyfri i Stadiwm Casnewydd. (KO 7.45pm, S4C)

– Mae Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol gwahanol Ardaloedd Undeb Rygbi Cymru’n parhau gyda chyfarfodydd yn cael eu cynnal yn Ardaloedd A, J, B, H ac E.

 

🗣️ Sut i Gymryd Rhan

– Cwblhau’r arolwg

– Darllen y ddogfen ymgynghori

– Rhannu eich barn — mae pob llais yn cyfrif

 

Diweddariad gan Dave Reddin:

Mae adborth o’n harolwg cyhoeddus yn dangos cefnogaeth gref i newid pethau. Mae’r ymateb ry’n ni wedi ei dderbyn hyd yma’n amrywiol a chyfoethog iawn wrth i ni ystyried y ffordd ymlaen. Nid yw hyn yn syndod, ond bydd y manylion a’r syniadau sydd wedi eu rhannu yn yr ymatebion ry’n ni’n eu casglu yn amhrisiadwy wrth i ni symud i’r cam nesaf – lle mae’n rhaid gwneud penderfyniad. Byddwn yn dadansoddi’r data yn drylwyr ar ôl cwblhau’r ymgynghoriad ac yn cyhoeddi’r wybodaeth fanwl honno.

Wedi i ni gwrdd â’r Scarlets yr wythnos hon, ry’n ni bellach wedi cynnal cyfarfodydd ymgynghori gyda phob un o’n pedwar clwb rhanbarthol, a hoffwn ddiolch yn bersonol iddynt am gymryd rhan mewn sesiwn mor adeiladol a chynhwysfawr.

Mae’r timau wedi dod i’r cyfarfodydd wedi paratoi’n drwyadl, gyda syniadau cryf am y cyfeiriad gorau i’w clybiau unigol a’u cefnogwyr. Mae ysbryd o gydweithio ac undod wedi bod yn amlwg yn ystod y cyfarfodydd wrth i ni gyd geisio dod o hyd i’r ffordd fwyaf effeithiol ymlaen i rygbi Cymru.

Rydym yn gofyn i bawb sy’n cyfrannu at y broses i fod yn hunanol — i edrych ar y dyfodol o’u safbwynt nhw eu hunain. Rydym eisiau safbwynt y Dreigiau gan y Dreigiau, y Gweilch gan y Gweilch ac yn y blaen… Ein rôl ni wedyn fydd llunio argymhelliad i’w ystyried gan Fwrdd Undeb Rygbi Cymru, wedi’i seilio ar yr holl safbwyntiau rydym wedi eu clywed.

Rydym yn disgwyl cael ein herio wrth gwrs – ac er ein bod wedi cyflwyno’n barn yn gryf am yr hyn yr ydym yn ei gredu yw’r system orau sydd ar gael i ni – a’n rhesymeg dros ei chyflwyno, rydym hefyd yn disgwyl i’r broses ymgynghori lywio a dylanwadu ar ein meddyliau. Rwy’n gallu dweud gyda hyder fod ein meddwl eisoes yn newid mewn ffyrdd cadarnhaol wrth i ni symud ymlaen.

Yn ein cyfarfodydd rydym wedi ystyried pob opsiwn. Mae cydnabyddiaeth gyffredin am yr heriau ariannol sy’n bodoli a hefyd y pryder am ddiffyg amser ar y maes chwarae i’n chwaraewyr gorau. Mae gwahaniaethau barn am y dyheadau hyn ar gyfer ein timau, er ein bod oll yn uchelgeisiol.

Roedd ein cyfarfod gyda’r Chymdeithas y Chwaraewyr a’r chwaraewyr eu hunain yn hynod gadarnhaol, gyda phawb yn unfryd am yr angen i gryfhau’r Llwybr Datblygu. Roedd cytundeb hefyd ar ambell her sy’n rhwystro mwy o bobl rhag cymryd rhan yn ein gêm gymunedol. Yn ogystal, trafodwyd hyfforddi a chyflymu datblygiad chwaraewyr mewn ysbryd gadarnhaol iawn.

Rydym wedi dechrau’r broses hon yn dda gyda themâu pwysig yn dod i’r amlwg, ac mae cyfleoedd gwych i rannu’ch barn ar gael o hyd. Ddydd Sul bydd cyfle i’n clybiau cymunedol ein cyfarfod wyneb yn wyneb i drafod y broses. Er mor heriol y gall y cyfnod hwn fod ar adegau, ‘rwy’n gyffrous iawn am ddyfodol rygbi Cymru. Dyma’n cyfle i newid cyfeiriad yn gadarnhaol, ond hefyd i feithrin a gwarchod yr hyn sydd eisoes yn gweithio o fewn y system bresennol.

Mae’n allweddol ein bod yn adeiladu ar y pethau hynny sy’n gweithio’n dda’n barod o fewn ein gêm – a bydd yr elfennau hynny’n hynod bwysig wrth i ni siapio rygbi Cymru’n y dyfodol.

Rydym yn dysgu mwy am yr elfennau pwysig yma’n raddol ac yn drylwyr. Bydd gennym drosolwg 360 gradd ar ble ry’n ni ar hyn o bryd a ble y gallem fod yn y pendraw, a bydd ein gêm mewn sefyllfa llawer gwell wedi i’r broses hon ddod i ben, pa bynnag benderfyniad terfynol gaiff ei wneud.

Fel rhan o’n deialog wythnosol yn ystod y cyfnod ymgynghori hwn, rydym yn edrych yn agos ar rai o’r ffactorau pwysig y mae’n rhaid i ni eu hystyried wrth lunio ein cynllun cryfaf ar gyfer y gêm yng Nghymru. Yr wythnos hon, mae John Alder, ein Harweinydd Cenedlaethol ar gyfer Datblygu Chwaraewyr a’r Llwybrau Datblygu, wedi nodi ei argraffiadau pendant am dymor cyntaf Super Rygbi Cymru (SRC) a pham ei fod yn allweddol i ddyfodol rygbi Cymru: https://www.wru.wales/2025/09/y-porthmyn-am-dalur-pwyth-ir-pencampwyr/

Mae John hefyd yn ymuno â mi ac â’n Pennaeth Rygbi Menywod, Belinda Moore, yma: Welsh Rugby Union – ‘In Focus’ – Pathways, Competitions and Academies am edrych mwy manwl ar ein cynigion i wella’r meysydd hyn.

Cymerwch amser i ddarllen yr erthyglau hyn – a chofiwch lenwi’r holiadur i ddweud eich dweud: https://ymlaencymru.com/ymgynghoriad/#SUT-ALLA%E2%80%99I-GYMRYD-RHAN?

Cofion,

Dave Reddin
Cyfarwyddwr Rygbi a Pherfformiad Elît WRU

Related Topics