News

Tierney i adael ei swydd am gyfnod wrth iddi dderbyn triniaeth am ganser

Bydd triniaeth Abi Tierney'n dechrau ar yr 22ain o Awst

Mae Prif Weithredwr Underb Rygbi Cymru wedi cadarnhau ei bod yn dioddef o ganser – ac y bydd hi’n dechrau ar ei thriniaeth ar yr 22ain o Awst.

Ni fydd hi’n parhau gyda’i dyletswyddau gyda’r Undeb yn ystod cyfnod y driniaeth.

Dywedodd Abi Tierney: “Nid yw’r penderfyniad i gamu nôl am y tro wedi bod yn hawdd ond mae’n rhaid i mi ganolbwyntio’n llwyr ar fy iechyd ac ar y broses o wella. ‘Rwy’n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth rwyf eisoes wedi ei derbyn gan fy nheulu, fy ffrindiau ac fy nghyd-weithwyr ac ‘rwy’n hyderus y bydd ein tîm rheoli’n parhau gyda’r gwaith yn fy absenoldeb.

“Hoffwn ofyn am breifatrwydd a dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn os gwelwch yn dda.”

Ychwanegodd Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Richard Collier-Keywood: “ Hoffwn i ar ran holl aelodau’r Bwrdd ddymuno’r gorau i Abi ac fe wnawn yn siwr ei bod hi’n cael yr amser a’r gefnogaeth sydd angen arni yn ystod y cyfnod hwn.

“Fel Cadeirydd, fi fydd â’r cyfrifoldeb o lywio’r broses hon ac mae gennym dîm arweinyddol cryf i sicrhau bod y gwaith o ddydd i ddydd yn mynd yn ei flaen yn effeithiol. Bydd Alison Thorne yn fy nghefnogi yn ystod y broses hon.

Yr elfen bwysicaf o ran y gwaith ar hyn o bryd yw’r cyfnod trafod am ddyfodol y gêm broffesiynol yng Nghymru. Bydd David Reddin ein Cyfarwyddwr Rygbi a Pherfformiad Elît yn arwain yr elfen yma o’r gwaith. Fe fyddaf i yn cymryd cyfrifoldeb am sicrhau bod y broses hon yn llwyddiannus a byddaf yn cydweithio’n agos gydag aelodau newydd y Bwrdd, gyda Malcolm Wall (Cadeirydd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol), Amanda Bennett (Cyfrifol am Rygbi Merched a Menywod ar y Bwrdd) ac Andrew Williams.

Related Topics