Yn eu gêm olaf cyn Cwpan y Byd colli o 36-5 fu hanes Menywod Cymru’n yr Ail Brawf yn erbyn y Wallaroos yng nglaw Oval Gogledd Sydney heddiw.
Er i’r Cymry ennill y Prawf Cyntaf o 21-12 yn Brisbane chwe niwrnod ynghynt – llwyddodd Awstralia i dalu’r pwyth yn ôl yn y brifddinas gan sgorio chwe chais yn y broses.
Gwnaeth y Prif Hyfforddwr Sean Lynn – enillodd ei gêm ryngwladol gyntaf wrth y llyw wythnos ynghynt – saith newid ar gyfer yr ornest hon ar y maes trwm ym mhrifddinas Awstralia – a dyma oedd y tro cyntaf i Kate Williams ac Alex Callender ddechrau fel cyd-gapteiniaid.
Yn anffodus o safbwynt y Cymry – barodd hynny ddim yn hir gan y bu’n rhaid i Callender – gafodd gêm mor amlwg yn Brisbane – adael y maes yn hercian wedi llai na 3 munud o chwarae. Bydd Sean Lynn a holl gefnogwyr Cymru’n gobeithio na fydd yr anaf yn effeithio ei gallu i chwarae’i rhan yn llawn yng ngêm agoriadol Cymru yng Nghwpan y Byd ymhen tair wythnos.
Crysau gwynion yr ymwelwyr reolodd y meddiant yn gynnar – a bu ond y dim i Gwenllian Pyrs dirio cais cyntaf yr ornest wedi 8 munud o chwarae. Ond Awstralia agorodd y sgorio ar eu hymweliad pwrpasol cyntaf â dwy ar hugain Cymru – wrth i brif sgoriwr ceisiau’r Wallaroos, Maya Stewart – oedd yn dychwelyd o anaf i’w phen-glin – groesi’n y gornel wedi bron i chwarter awr o chwarae.
Trosodd Samantha Wood yn gampus o’r ystlys i droi’r 5 pwynt yn 7.
Fe ildiodd y Cymry gais cynnar yn y Prawf Cyntaf cyn taro’n ôl – ac fe ddigwyddodd hynny eto’n Sydney – wedi i Jasmine Joyce-Butchers sgorio’n haeddiannol wedi 27 munud. ‘Roedd y cyd-chwarae rhwng y blaenwyr a’r olwyr wrth arwain at unig sgôr y Cymry, i’w ganmol yn fawr – ac ‘roedd yr gwên Joyce-Butchers wrth groesi ar achlysur ei 50fed cap yn werth ei gweld.
Sbarduno’r Wallaroos i reoli gweddill yr ornest wnaeth hynny – a dim ond 3 munud gymrodd hi i Awstralia daro’n ôl – wrth i’r maswr dawnus Faitala Moleka o glwb y Blacktown Scorpions ddod o hyd i fwlch yn amddiffyn y Cymry i groesi’n gorfforol am ail gais ei gwlad.
Fe ildiodd y Cymry gais yn amser ‘amen’ y cyfnod cyntaf yn Brisbane yr wythnos ddiwethaf – a digwyddodd hynny eto heddiw wrth i’r bachwr Katalina Amosa dirio yng nghysgod y pyst gyda symudiad olaf yr hanner. O ganlyniad i drydydd trosiad Samantha Wood – ‘roedd Awstralia ar y blaen o 21-5 ar yr egwyl.
Parhau wnaeth goruchafiaeth y Wallaroos yn gynnar wedi troi ac wedi dim ond 5 munud o’r ail gyfnod – fe groesodd yr wythwr amlwg Tabua Tuinakauvadra am bedwerydd cais ei thîm o’r noson – gan efelychu ei champ o dirio’n y Prawf Cyntaf yn Brisbane.
Fe aeth pethau’n fwy heriol fyth i’r Crysau Gwynion bum munud wedi hynny – gan i’r dyfarnwr o Seland Newydd, Natarsha Ganley benderfynu bod Gwenllian Pyrs wedi taro’r bêl ymlaen yn fwriadol – ac eiliadau wedi i’r prop gyrraedd y cell cosb – fe redodd Tuinakauvadra at galon amddiffyn y Cymry i hawlio ei hail gais o’r gêm.
Fe geisiodd Sean Lynn droi’r llanw wrth gyflwyno Molly Reardon, Alaw Pyrs, Meg Davies, Jenni Scoble, Catherine Richards a Hannah Dallavalle i’r chwarae’n yr ail hanner – ond noson Awstralia oedd hon i fod a choronwyd eu perfformiad campus gyda chais yr eilydd profiadol Ashley Marsters yn y 4 munud olaf.
Nid y canlyniad y byddai Sean Lynn a’i garfan wedi gobeithio amdano – ond bydd y Prif Hyfforddwr wedi ei blesio’n fawr gyda nifer o agweddau o chwarae ei garfan ar y daith – a’r fuddugoliaeth hanesyddol yn y Prawf Cyntaf – cyn troi ei olygon yn llwyr at y gêm agoriadol yng Nghwpan y Byd yn erbyn Yr Alban ar y 23ain o’r mis.
Tîm Cymru i wynebu Awstralia
Nel Metcalfe (Hartpury/Caerloyw), Jasmine Joyce-Butchers, (Bryste), Carys Cox (Ealing), Courtney Keight (Sale), Lisa Neumann (Harlequins), Kayleigh Powell (Harlequins), Keira Bevan (Bryste); Gwenllian Pyrs (Sale), Carys Phillips (Harlequins), Sisilia Tuipulotu (Hartpury/Caerloyw), Gwen Crabb (Hartpury/Caerloyw), Abbie Fleming (Harlequins), Kate Williams (cyd-gapten, Hartpury/Caerloyw), Bethan Lewis (Hartpury/Caerloyw), Alex Callender (cyd-gapten, Harlequins).
Eilyddion:
Molly Reardon (Gwalia Lightning), Maisie Davies (Bryste), Jenni Scoble (Gwalia Lightning), Alaw Pyrs (Hartpury/Caerloyw), Georgia Evans (Saraseniaid), Meg Davies (Hartpury/Caerloyw), Hannah Dallavalle (Hartpury/Caerloyw), Catherine Richards (Gwalia Lightning).
CWPAN Y BYD – GRŴP B
Sadwrn, 23 Awst: Cymru v Yr Alban (Salford – 2.45pm)
Sadwrn, 30 Awst: Cymru v Canada (Salford – 12.00pm)
Sadwrn, 6 Medi: Cymru v Fiji (Parc Sandy, Caerwysg – 2.45pm)