Mae prif hyfforddwr Cymru, Richard Whiffin, wedi enwi ei dîm i wynebu’r Eidal ddydd Sadwrn – yn y gêm i benderfynu pwy fydd yn gorffen yn y 7fed safle ym Mhencampwriaeth y Byd.
Bydd yr ornest yn cael ei chynnal am 2.30pm amser Cymru yn y Stadio Mario Battaglini yn Rovigo.
O safbwynt olwyr Cymru, mae Tom Bowen wedi ei ddewis yn hytrach nac Elijah Evans – sy’n golygu bod Aidan Boshoff yn symud o’r asgell chwith i’r asgell dde – a bod Evans yn dechrau ar y fainc.
Mae Elis Price yn dychwelyd i ganol y cae i bartneru â Steffan Emanuel tra bod Harri Ford wedi ei ddewis yn faswr. Eilydd fydd Harri Wilde y tro hwn o’r herwydd.
Bydd gan y bachwr Evan Wood ddau chwaraewr newydd y naill ochr a’r llall iddo yn y rheng-flaen wrth i’r prop pen-rhydd, Cam Tyler-Grocott gynrychioli ei wlad ar y lefel yma am y tro cyntaf – tra bod Owain James o’r Dreigiau yn dechrau ar y pen-tynn.
Yr unig newid arall yn y pac yw’r ffaith bod clo Caerwysg, Luke Evans yn dechrau’n yr ail reng gyda Kenzie Jenkins.
Bydd Cymru’n ceisio taro’n ôl a gorffen y Bencampwriaeth ar nodyn cadarnhaol yn dilyn y golled yn erbyn Lloegr yn eu gêm ddiwethaf.
Dywedodd Richard Whiffin: “Gan mai dim ond ar ei hôl hi o bedwar pwynt ‘roedden ni ar yr egwyl – ‘roedden ni’n bendant yn dal yn y gêm. Ond wedi troi, fe wnaethon nhw ein tagu ni mewn gwirionedd.
“Rydyn ni wedi gorfod dysgu’n gwersi o’r ail hanner hwnnw’n gyflym cyn i ni chwarae’n gêm olaf yn erbyn Yr Eidal. Bydd yn rhaid i ni barchu chwarae’r Eidalwyr – gan eu bod nhw’n gryf ar y lefel yma.
“Mae’n bechgyn ni eisiau gorffen y Bencampwriaeth yn bositif ac maen nhw’n llawn haeddu gwneud hynny – wedi eu holl waith caled dros yr wythnosau diwethaf.”
Cymru D20 v Yr Eidal D20, rownd derfynol am y 7fed safle, Rovigo, Sadwrn 19 Gorffennaf, 2.30pm
15 Jack Woods (Caerfaddon, 5 cap)
14 Aidan Boshoff (Bryste, 13 chap)
13 Osian Roberts (Sale, 6 chap)
12 Elis Price (Scarlets, 5 cap)
11 Tom Bowen (Caerdydd, 8 cap)
10 Harri Ford (Dreigiau, 17 cap)
9 Sion Davies (Caerdydd, 7 cap);
1 Cam Tyler-Grocott (Caerdydd – heb gap eto)
2 Evan Wood (Pont-y-pŵl, 6 chap)
3 Owain James (Dreigiau, 6 chap)
4 Kenzie Jenkins (Bryste, 8 cap)
5 Luke Evans (Caerwysg, 4 cap)
6 Dan Gemine (Gweilch, 7 cap)
7 Harry Beddall (c) (Dreigiau, 14 cap)
8 Evan Minto (Dreigiau, 8 cap)
Eilyddion
16 Harry Thomas (Scarlets, 16 gap)
17 Ioan Emanuel (Caerfaddon, 11 cap)
18 Sam Scott (Bryste, 18 cap)
19 Tom Cottle Rygbi Gogledd Cymru, 6 chap)
20 Caio James (Caerloyw, 6 chap)
21 Ellis Lewis (Castell Nedd, 3 chap);
22 Harri Wilde (Caerdydd, 20 cap)
23 Elijah Evans (Caerdydd, 10 cap)
