Mae Richard Whiffin, Prif Hyfforddwr D20 Cymru wedi dewis ei dîm i wynebu Sbaen yn eu trydedd gêm ym Mhencampwriaeth y Byd ddydd Mercher.
Bydd yr ornest yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Payanini yn Verona gyda’r gic gyntaf am 2.30 ein hamser ni yma yng Nghymru.
Dim ond Harri Wilde ac Elijah Evans sydd wedi eu dewis ymhlith yr olwyr unwaith eto’n dilyn y gêm ddiwethaf yn erbyn Ffrainc – tra bo Ioan Emanuel, Deian Gwynne a’r capten Harry Beddall yn cael cyfle arall i ddechrau’n y pac.
Mae Richard Whiffin wedi penderfynu rhoi cap cyntaf i gefnwr y Gweilch Lewis Edwards tra bydd Elis Price o’r Scarlets ac Osian Darwin-Lewis o Gaerdydd yn creu partneriaeth newydd yng nghanol y cae.
Bydd bachwr Pont-y-pŵl Evan Wood yn cael ei brofiad cyntaf o’r Bencampwriaeth hon yn Yr Eidal a gan bod Harry Thomas a Saul Hurley’n dilyn canllawiau ergydion i’r pen, Jake Bowen o’r Scarlets fydd y bachwr ar y fainc.
Bydd clo Caerwysg, Luke Evans yn dychwelyd i greu partneriaeth ail-reng gyda Nick Thomas a bydd Caio James o glwb Caerloyw’n dechrau’n flaenasgellwr agored.
Dywedodd Richard Whiffin: “Fe ddywedon ni ar ddechrau’r Bencampwriaeth bod gennym 30 o chwaraewyr fyddai’n gallu dechrau unrhyw gêm – ac felly ry’n ni’n gyfforddus iawn yn rhoi’r cyfle i nifer o’r bois sydd wedi bod yn aros yn amyneddgar i ddechrau’r gêm yn erbyn Sbaen.
“Mae Jake yn cael ei gyfle ar y fainc gan bod dau o’n bachwyr eraill yn cael eu hasesu am ergydion i’r pen – ond fe ddywedon ni wrth bawb yn y garfan estynedig cyn teithio yma i’r Eidal – bod yn rhaid i bob un chwaraewr fod yn barod am alwad annisgwyl. Mae hynny wedi digwydd i Jake ar gyfer y gêm hon – ac mae gennyf bob ffydd yn ei allu.”
Bwriad gwreiddiol carfan Cymru oedd cyrraedd pedwar olaf y Bencampwriaeth – ond yn dilyn dwy golled glos yn erbyn Ariannin a Ffrainc – hawlio’r pumed safle yw’r bwriad bellach:
“Ry’n ni wedi gorfod ail-asesu ambell beth dros y dyddiau diwethaf – ond mae’n rhaid i ni gofio ein bod wedi dod yn agos iawn at ennill ein dwy gêm gyntaf. Wrth gwrs bod y bechgyn yn hynod o siomedig – gan ein bod yn wirioneddol gystadleuol yn y ddwy gêm gyntaf – ac i fod yn onest ‘roedd y bois yn teimlo eu bod yn haeddu ychydig gwell na’r hyn gaethon nhw o safbwynt y canlyniadau.
“Os y gwnawn ni ennill ein tair gêm olaf – fe fyddwn ni’n gorffen y bumed – a dyna heb amheuaeth yw’n nod ni bellach.”
Er mwyn hawlio’r pumed safle hwnnw bydd yn rhaid i fechgyn Richard Whiffin guro Sbaen yn gyntaf – a bu ond y dim iddynt greu sioc yn eu gêm ddiwethaf – cyn colli’n y pendraw o 33-30 yn erbyn Ariannin.
Ychwanegodd Richard Whiffin: “Fe ddechreuodd Sbaen y gêm honno ar garlam ac fe wthion nhw Ariannin tan y chwiban olaf – ac felly maen nhw’n dîm da a pheryglus.
“Mae eu holwyr yn gyflym a dawnus ac mae eu pac yn siwr o gynnig gwir her i ni’n y chwarae gosod hefyd – ond ein nod a’n bwriad ni yw ennill y gêm hon.”
Cymru D20 v Sbaen D20, Canolfan Payanini, Verona, Mercher 9 Gorffennaf, 2.30 Amser Cymru
15 Lewis Edwards (Gweilch, heb gap eto)
14 Elijah Evans (Caerdydd, 9 cap)
13 Osian Darwin-Lewis (Caerdydd, 1 cap)
12 Elis Price (Scarlets, 4 cap)
11 Aidan Boshoff (Bryste, 12 cap)
10 Harri Wilde (Caerdydd, 19 cap)
9 Ellis Lewis (Castell Nedd, 2 gap);
1 Ioan Emanuel (Caerfaddon,10 cap)
2 Evan Wood (Pont-y-pŵl, 5 cap)
3 Jac Pritchard (Scarlets, 2 gap)
4 Luke Evans (Caerwysg)
5 Nick Thomas (Dreigiau, 12 cap)
6 Deian Gwynne (Caerloyw, 6 chap)
7 Caio James (Caerloyw, 5 cap)
8 Harry Beddall (c) (Dreigiau, 13 chap)
Eilyddion
16 Jake Bowen (Scarlets, heb gap eto)
17 Owain James (Dreigiau, 5 cap)
18 Sam Scott (Bryste, 17 cap)
19 Dan Gemine (Gweilch, 6 chap)
20 Evan Minto (Dreigiau, 7 cap)
21 Sion Davies (Caerdydd, 6 chap)
22 Harri Ford (Dreigiau, 16 chap)
23 Jack Woods (Caerfaddon, 4 cap)
