Gall Undeb Rygbi Cymru gadarnhau bod Gwen Crabb wedi ei rhyddhau o garfan Chwe Gwlad Guinness 2024 Cymru i ddychwelyd at ei chlwb Hartpury/Caerloyw i barhau gyda’i hadferiad a’i chynllun o chwarae gemau.
Cafodd Crabb sy’n 24 oed, anaf i’w phen-glin wrth herio Caerwysg ar yr 2il o Fawrth. Mae hi wedi derbyn triniaeth twll clo bychan a bydd hi’n parhau â’i hadferiad gyda’i chlwb.
Ni fydd unhywun arall yn cael eu galw i’r garfan yn lle Gwen Crabb, sydd wedi cynrychioli ei gwlad 29 o weithiau.
Related Topics
Blaenwyr
Chwe Gwlad
International Tournaments CYM
Newyddion
Player
Wales Women
News