Community Newsletter - Cymraeg

Croeso i chweched rhifyn Cylchlythyr Clybiau Cymunedol, sy’n dathlu pobl a chynnydd o bob cornel o’r gêm ar lawr gwlad.

Mae straeon arwyr y rhifyn hwn yn cynnwys O Ymddeol i Ddyfarnu, lle mae George sydd yn ei arddegau yn darganfod llwybr rygbi newydd trwy ddyfarnu gemau, a dathliad o Rygbi Byddar Cymru, sydd wedi ennill Cwpan y Byd, ond mae eu heffaith hefyd yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r llwyfan rhyngwladol. Rydym hefyd yn llawn cyffro ynghylch lansio cystadleuaeth wych, sy’n rhoi cyfle i blant o bob oed ennill profiad o fod yn rhan o’r anthem ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd ym mis Tachwedd – manylion cystadlu isod!

Ar ben hynny, rydym yn rhannu diweddariad pwysig ar y Model Buddsoddi Mewn Clybiau, gyda sesiynau cymorth galw heibio lleol yn cael eu cynnal ledled Cymru.

Rydym hefyd yn cydnabod dau o fawrion rygbi Cymru, George North a Leigh Halfpenny, yn dilyn cyhoeddiadau diweddar y byddant yn ymddeol ac yn diolch iddynt am eu cyfraniad eithriadol i’r gêm.

Lle bynnag rydych chi’n darllen, yn y clwb, wrth fwrdd y gegin neu ar yr ystlys, diolch am fod yn rhan o’n cymuned.

Diolch.

Pan dynnwyd ysgwydd George Clemence, chwaraewr addawol i Glwb Rygbi Bae Colwyn ac Academi RGC, o’i lle, doedd e ddim yn disgwyl i’w yrfa chwarae rygbi ddod i ben yn llwyr. Roedd y cefnwr o’r gogledd wedi dangos potensial mawr ar y cae rygbi, ond roedd nifer o anafiadau wedi amharu ar unrhyw gyfle i ddychwelyd i rygbi gan adael dim dewis ond cefnu ar rygbi cyswllt, ac yntau ond yn 15 oed.

Ymlaen at heddiw ac yn 17 oed, mae taith rygbi George wedi parhau i gyfeiriad gwahanol iawn, er ei fod yn dal o fewn y byd rygbi.

“Dechreuodd y cyfan pan oedd gêm fy mrawd iau wedi cael ei chanslo ar ôl i ddyfarnwr ffonio i ddweud ei fod yn sâl. Gofynnais a allwn i gamu i mewn i helpu gyda gemau yn y dyfodol… doeddwn i ddim wedi ystyried dyfarnu ond os nad oeddwn i’n gallu chwarae rygbi mwyach, roedd hon yn ffordd o barhau i fod ar y cae.”

Dechreuodd George ei daith ddyfarnu trwy gofrestru i gwblhau cyrsiau dyfarnu Undeb Rygbi Cymru. Ar ôl rhagori drwy’r system yn gyflym, cyflawnodd George ei gymhwyster

Dyfarnu Lefel 2 gyda chynlluniau ar waith i symud i’r cwrs Lefel 3. O dan arweiniad Matt Turvey a Paul Hughes, rhoddodd George theori ar waith wrth ddechrau dyfarnu gemau ieuenctid gan gynnwys sawl gêm Cwpan RGC.

Wrth i George barhau i ddatblygu, cafodd ei flas cyntaf o sut beth yw dyfarnu gêm Elît yn ystod Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness y gwanwyn hwn. Fel rhan o’r gêm rhwng Cymru a Ffrainc, cafodd George gyfle i gysgodi James Doleman (Seland Newydd), Christophe Ridley (Lloegr) a Sam Grove-White (Yr Alban) wrth iddynt gymryd yr awenau yn Stadiwm Principality.

“Agorodd llwybr dyfarnu gemau fy llygaid i sut y gall bywyd fel dyfarnwr Elît fod – y cyfle i greu gyrfa mewn chwaraeon proffesiynol, gweithio ym myd rygbi a theithio ar draws y byd i ddyfarnu gemau. Byddwn i wrth fy modd yn mynd mor bell ag y gallaf yn dyfarnu.”

Yn lansio ym mis Mehefin, mae Undeb Rygbi Cymru yn ymuno â’i brif bartner Vodafone i ddod â chyfle newydd cyffrous i glybiau drwy raglen Vodafone clubs.connected. Wedi’i chynllunio i bweru’r gêm ar lawr gwlad, bydd y fenter yn helpu i gysylltu clybiau a chymunedau ledled Cymru â rhwydwaith arobryn Vodafone.

Gall clybiau gael mynediad at ystod o fuddion unigryw, gan gynnwys 12 mis o gysylltedd am ddim i gefnogi gweithrediadau, perfformiad a chynhyrchiant o ddydd i ddydd. Mae manteision ychwanegol yn cynnwys codau atgyfeirio sy’n cynnig arbedion i aelodau a noddwyr, ynghyd â mynediad i raglen ymgysylltu sy’n cynnwys cystadlaethau i ennill tocynnau i gemau, nwyddau a phrofiadau unigryw gyda chlybiau.

Peidiwch â cholli’r cyfle i gryfhau’ch clwb ar y cae ac oddi arno. Am fanylion llawn, ewch i’n hafan: https://www.wru.wales/community-rugby/places/vodafone-clubs-connected/

Mae Undeb Rygbi Cymru bellach yn gwahodd ceisiadau ar gyfer y Cwrs Hyfforddi Uwch pwysig. Nid achrediad sylfaenol yw hwn; dyma uchafbwynt datblygu hyfforddwyr cymunedol yng Nghymru. Mae’n daith ddetholus, ymdrochol a thrawsnewidiol wedi’i chynllunio ar gyfer yr ychydig rai uchelgeisiol sy’n barod i gymryd eu lle ymhlith y goreuon yn y gêm gymunedol.

I roi cymorth i’r rhai ar y cwrs y tymor nesaf, rydym hefyd yn croesawu ceisiadau ar gyfer Mentoriaid Hyfforddwyr. Efallai eich bod chi’n gyn-chwaraewr proffesiynol, yn hyfforddwr ers tro byd neu’n addysgwr profiadol – bydd Mentoriaid Hyfforddwyr yn chwarae rhan annatod wrth lywio datblygiad ein hyfforddwyr sy’n mynychu’r cwrs.

I ddarganfod mwy am y Cwrs Hyfforddi Uwch ac i gyflwyno eich ceisiadau, dilynwch y ddolen ganlynol: https://wru.wales/community-rugby/playing-3/coaching/

Dyddiad cau ceisiadau ar gyfer Cwrs Hyfforddi Uwch 2026/27: Dydd Mawrth 30 Mehefin 2026

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Mentora Hyfforddi: Dydd Llun 15 Mehefin 2026

Sicrhaodd Glynebwy eu bod yn dychwelyd i rownd derfynol Tlws Super Rygbi Cymru gyda buddugoliaeth wefreiddiol o 18-14 yn erbyn yr arch-elynion Casnewydd, a ddaeth i ben yn ddramatig.  Mewn rownd gynderfynol heriol, dangosodd tîm Jason Strange wydnwch i sicrhau ail rownd derfynol gartref yn olynol, lle byddant yn wynebu Llanymddyfri.

Dechreuodd Casnewydd, y pencampwyr presennol, yn gryf a nhw oedd ar y blaen yn gynnar trwy Josh Skinner ar ôl i dîm Glynebwy fynd i lawr i 14 dyn. Er gwaethaf pwysau cynnar a chais wedi’i wahardd, tyfodd Glynebwy i mewn i’r ornest, gyda Corey Lewis yn croesi’n gynnar yn yr ail hanner i leihau’r bwlch. Esgid Evan Lloyd lwyddodd i sicrhau bod y tîm cartref ar y blaen cyn i gais hwyr Casnewydd gan Fin Baker ymddangos fel y byddai’n unioni’r sgôr.

A hwythau ar ei hôl hi o 14-11 gydag amser yn brin, dewisodd Glynebwy lein feiddgar yn hytrach na chic gosb at y gôl. Llwyddodd yr eilydd o fachwr James Talamai dan bwysau, gan helpu i sefydlu symudiad pendant a orffennwyd gan y cefnwr Dylan Edwards. Sicrhaodd trosiad ardderchog Lloyd fuddugoliaeth gofiadwy o un pwynt.

Darllenwch y stori lawn yma.

 

Efallai bod tîm Rygbi Byddar Cymru wedi ennill Cwpan y Byd, ond mae ei effaith yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r llwyfan rhyngwladol. Trwy gyfrwng rhaglen gynyddol o ddigwyddiadau cymunedol cynhwysol ledled Cymru, mae’r sefydliad yn creu cyfleoedd i bobl ifanc fyddar a thrwm eu clyw gymryd rhan mewn rygbi, gan fagu hyder a chreu cysylltiad a llwybrau clir i’r gêm.

Mae Jon Cudd, Arweinydd Cymunedol, wedi gweld y gwahaniaeth yn uniongyrchol: “Un o’r themâu allweddol yn yr adborth rydyn ni’n ei dderbyn yw’r twf yn hyder y rhai sy’n cymryd rhan… mae’r effaith drawsnewidiol hon wedi ychwanegu haen a dimensiwn arall at yr hyn rydyn ni’n ei wneud a pham rydyn ni’n ei wneud.”

Gyda digwyddiadau’n cael eu cynnal ledled y wlad a mwy ar y gweill, mae Rygbi Byddar Cymru yn parhau i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf ar y cae ac oddi arno.

Cliciwch yma i ddarllen y stori lawn.

Ar 17 Ebrill 2026, cynhaliodd adran gymunedol Undeb Rygbi Cymru eu Diwrnod Swyddog Ymgysylltu Rygbi (SYR) diweddaraf yn Stadiwm Principality. Mae pob SYR o bob cwr o Gymru yn mynychu’r sesiwn hanner diwrnod i gyflwyno eu profiadau, rhannu straeon, creu cynlluniau ar gyfer y tymor nesaf a dysgu rhagor gan siaradwyr gwadd. Hefyd yn bresennol roedd aelodau o Chwaraeon Cymru, a bu Cymuned Undeb Rygbi Cymru yn tynnu lluniau o’r diwrnod.

 

Ry’n ni wedi cael sgwrs gydag aelod o Fwrdd Undeb Rygbi Cymru a chyn faswr ein gwlad, Amanda Bennett i drafod dyfodol rygbi merched a menywod yng Nghymru.

Gwyliwch yma:

Cyn wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 11 – 17 Mai, ymunodd Undeb Rygbi Cymru â chyn-chwaraewr y Gweilch a’r arweinydd iechyd meddwl Lloyd Ashley i gyflwyno sesiynau lles wyneb yn wyneb ym mhob un o 10 clwb Super Rygbi Cymru, gan deithio ledled Cymru i ennyn diddordeb chwaraewyr, hyfforddwyr a staff cymorth. Cymerodd dros 260 o bobl ran, gydag adborth hynod gadarnhaol yn tynnu sylw at werth creu amgylcheddau diogel, cefnogol o fewn timau.

Roedd sesiynau Lloyd yn canolbwyntio ar agweddau allweddol ar fywyd ym myd chwaraeon elitaidd, gan gynnwys rheoli cystadleuaeth, anafiadau, contractau, cyfryngau cymdeithasol a’r cyfrifoldebau o fod yn fodel rôl. Yn ganolog i’r rhaglen oedd pwysigrwydd gofalu am iechyd meddwl a chorfforol.

Mae hyfforddiant iechyd meddwl fel hyn yn helpu unigolion i adnabod arwyddion o ofid, ymateb yn hyderus ac annog sgyrsiau agored. Trwy leihau stigma a hybu ymyrraeth gynnar, mae’r sesiynau’n grymuso pobl i weithredu a chefnogi ei gilydd. Gall clybiau sydd â diddordeb mewn cynnal sesiynau yn y dyfodol gysylltu â Lloyd yn uniongyrchol drwy livingwell.lloydashley@outlook.com

Darllenwch y stori lawn yma.

Mae eich clwb rygbi’n gwneud cymaint i’w gymuned, a gall cyllid ychwanegol wneud gwahaniaeth gwirioneddol, boed hynny’n helpu gydag offer, cit, teithiau, gwella cyfleusterau neu gostau rhedeg o ddydd i ddydd.

Dyna pam mae Undeb Rygbi Cymru yn annog clybiau i edrych ar easyfundraising.

Mae easyfundraising yn ffordd syml i glybiau rygbi godi arian heb unrhyw gost ychwanegol. Pan fydd aelodau’r clwb, gwirfoddolwyr, rhieni a chefnogwyr yn siopa ar-lein gyda manwerthwyr sy’n rhan o’r ymgyrch, mae’r manwerthwr yn anfon rhodd am ddim i’r clwb. Nid yw’n costio unrhyw beth ychwanegol i’r siopwr.

Mae dros £750,000 eisoes wedi’i godi gan glybiau rygbi trwy easyfundraising — nawr mae’n bryd i’ch clwb gael ei gyfran.

Os ydych chi’n ymwneud â rhedeg eich clwb, gallwch gofrestru eich clwb gydag easyfundraising heddiw. Os nad chi yw’r person iawn i wneud hyn, rhannwch yr wybodaeth gyda’r person yn eich clwb sy’n gofalu am godi arian, cyllid neu weinyddiaeth y clwb.

Mae dechrau arni’n gyflym, mae’n hawdd i’w ddefnyddio, ac unwaith y bydd eich clwb wedi’i gofrestru, gall pawb sy’n gysylltiedig â’r clwb ei gefnogi trwy siopa ar-lein.

Cofrestrwch eich clwb neu darganfyddwch fwy yma:  https://www.easyfundraising.org.uk/rugby/

 

Cefnogwch Gymru ym mis Tachwedd a rhowch yn ôl i’ch clwb lleol ar yr un pryd. Am bob tocyn sy’n cael ei brynu ar gyfer Pencampwriaeth y Cenhedloedd yn Stadiwm Principality drwy glwb rygbi, bydd £2 yn cael ei ailfuddsoddi’n uniongyrchol yn y clwb hwnnw — gan helpu i gefnogi rygbi proffesiynol a rygbi llawr gwlad ledled Cymru.

Hefyd, peidiwch â cholli ein cystadleuaeth unigryw! Bydd y tri chlwb sydd â’r gwerthiant tocynnau uchaf ar gyfer Pencampwriaeth y Cenhedloedd 2026 yn ennill y cyfle i 30 o’u chwaraewyr bach ac iau sefyll ochr yn ochr â’r timau ar gyfer yr anthemau cenedlaethol.

Mae’r ffenestr Dyrannu i Glybiau bellach ar agor, felly os ydych chi’n aelod cofrestredig, gwnewch yn siŵr eich bod yn prynu trwy sianeli swyddogol eich clwb neu https://my.wru.wales/ i sicrhau bod eich cymuned yn elwa ac i roi hwb i siawns eich clwb o ennill y profiad bythgofiadwy hwn.

Mae tocynnau a rhagor o wybodaeth am Gyfres y Cenhedloedd YMA.

Bydd rygbi Cymru’n dweud hwyl fawr twymgalon wrth ddau o fawrion y gamp, George North a Leigh Halfpenny, wrth iddyn nhw baratoi i ymddeol fel chwaraewyr ddiwedd y tymor. Mae’r ddau ohonyn nhw wedi gwasanaethu ein gwlad yn wych, gan ysbrydoli cefnogwyr gyda’u doniau a’u hymroddiad.

Mae Leigh a George wedi cynrychioli Cymru gyda balchder gwirioneddol trwy gydol eu gyrfaoedd.

Hoffwn ddweud diolch o galon i’r ddau ohonyn nhw. Byddwch wastad yn rhan bwysig a chofiadwy o hanes rygbi Cymru am flynyddoedd lawer i ddod.

Bob blwyddyn mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn cael ei chynnal yn y Deyrnas Gyfunol i ddathlu cyfraniad arbennig gwirfoddolwyr. Eleni – rhwng Mehefin1-7 fydd yr wythnos benodol honno’n cael ei chynnal. Fe ychwanegodd gwirfoddolwyr £4.6 biliwn at economi’r Deyrnas Gyfunol yn 2024 – ac mae pawb sy’n ymwneud â rygbi Cymru’n gwybod pa mor allweddol yw eu cyfraniad. Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn talu teyrnged i rai o’n gwirfoddolwyr gwerthfawr ac yn cynnal ambell sypreis wrth wneud hynny hefyd. Gallwch ddathlu Wythnos y Gwirfoddolwyr eich hunain eleni hefyd – ac mae nifer o adnoddau ar gael yma: https://volunteersweek.org/

Cofiwch gynnwys #WRUVolunteers26 a @WRU_Community ar eich negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol os gwelwch yn dda fel y gallwn ddathlu gyda’n gilydd!

Mae dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau Model Buddsoddi Mewn Clybiau yn prysur agosáu, gyda chlybiau’n cael eu hannog i weithredu nawr i sicrhau eu lle mewn cyfnod newydd trawsnewidiol o gyllid rygbi cymunedol. Gellir dod o hyd i’r dyddiad cau ar gyfer clybiau yn eich ardal isod ac mae’n rhaid cyflwyno ar amser i gael mynediad at fuddsoddiad yn y dyfodol.

 

Wrth wraidd y model newydd mae pot cyllido blynyddol gwerth £2.84m, wedi’i gynllunio i wobrwyo nid yn unig llwyddiant ar y cae ond y gwaith hanfodol oddi ar y cae sy’n sail i glybiau cryf, cynaliadwy. O lywodraethu a chyfleusterau i gynhwysiant a lles chwaraewyr, mae’r dull yn ymwneud â chydnabod a chefnogi’r cyfraniad llawn y mae clybiau’n ei wneud i’w cymunedau, gan eu helpu i ffynnu ymhell i’r dyfodol.

Er mwyn cefnogi clybiau drwy’r broses, bydd tîm Datblygu Clybiau Undeb Rygbi Cymru yn cynnal cyfres o sesiynau galw heibio am ddim ledled Cymru, gan gynnig arweiniad ymarferol a chymorth un-i-un gyda cheisiadau. Bydd aelodau Bwrdd Undeb Rygbi Cymru hefyd yn bresennol, yn tynnu sylw at bwysigrwydd y fenter.

Yn ogystal, bydd cynrychiolwyr o Sefydliad Jack Lewis, gan gynnwys Lewis Cannon, yn bresennol i gydnabod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, ac yn cynnig gwybodaeth werthfawr am y cymorth sydd ar gael i gymunedau rygbi Cymru.

Gellir dod o hyd i ddyddiadau a lleoliadau ar gyfer y sesiynau galw heibio yma:

  • Ardaloedd E a G yn digwydd rhwng 11-17 o Fai. Ar y 13eg o Fai byddwn yng Nghlwb Rygbi Treforys rhwng Hanner Dydd a 7pm ac ar y 14eg o’r mis byddwn yng Nghlwb Rygbi Athletig Caerfyrddin rhwng 2-4pm
  • Ardal A a J: Mai 18-24. Ar yr 20fed byddwn yng Nghlwb Rygbi’r Coed Duon rhwng 2-9pm ac ym Mae Colwyn ar yr 22ain rhwng 2-8pm
  • Ardal B ac C: Mai 25-31. Ar y 27ain byddwn yng Nghlwb Rygbi Pontypridd rhwng 1-8pm ac yng Nghlwb Rygbi Llandaf ar yr 28ain rhnwg 2-8pm
  • Ardal D: Mehefin 1-7. Byddwn yng Nghlwb Rygbi Mynydd Cynffig ar y 4ydd rhwng 1-8pm
  • Ardal F a H: Mehefin 8-14. Byddwn yng Nghlwb Rygbi’r Arberth ar y 10fed rhwng 1-8pm ac yng Nghlwb Rygbi’r Betws ar yr 11eg, eto rhwng 1-8pm.

Bydd Swyddog Busnes eich Clwb yn ysgrifennu atoch gyda dolen i drefnu apwyntiad os oes angen.

Mae ymgyrch Pass it Back Undeb Rygbi Cymru yn ein hatgoffa mai ein cymunedau yw’r gwir bŵer tu ôl i rygbi Cymru.

Mae’r holl arian a godir drwy gemau, digwyddiadau a nwyddau rhyngwladol yn cael ei ail-fuddsoddi’n uniongyrchol i’r gêm ledled Cymru, gan gefnogi clybiau, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr, dyfarnwyr a chwaraewyr ar bob lefel. Pan fyddwch chi’n cefnogi rygbi Cymru, rydych chi’n helpu i dyfu’r gêm yn eich cymuned eich hun, gan ariannu’r rhaglenni, y bobl a’r cyfleoedd sy’n sicrhau bod ein camp yn ffynnu.

Gyda’n gilydd, rydyn ni’n ei basio yn ôl, fel y gall y gêm gyfan symud ymlaen.