News

Eddie Jones yn gwneud pedwar newid i herio Cymru

04.02.23 - Wales v Ireland - Guinness Six Nations - Prematch pyrotechnics at Principality Stadium

Am y drydedd ornest o’r bron yng Nghwpan y Byd, mae Awstralia wedi newid eu haneri ar gyfer y gêm allweddol yn erbyn Cymru yn Lyon nos Sul.

Mae Eddie Jones wedi gwneud cyfanswn o bedwar newid – gydag un o’r rheiny yn newid safle – o’r pymtheg ddechreuodd yn y golled yn erbyn Ffiji.

Wedi i Carter Gordon ddechrau’r ddwy gêm gyntaf o’r gystadleuaeth gyda’r crys rhif 10 ar ei gefn – y cefnwr Ben Donaldson fydd yn dechrau fel maswr yn erbyn Cymru. Tate McDermott fydd ei bartner fel mewnwr yn hytrach na Nic White.

Andrew Kellaway fydd yn dechrau’n gefnwr.

Bydd un newid yn y rheng ôl wrth i Rob Leota ddechrau ei gêm brawf gyntaf o’r flwyddyn fel blaen-asgellwr ochr dywyll. Symud o’r crys rhif 6 i rif 7 fydd Tom Hooper sy’n disodli Fraser McReight.

Gan bod Awstralia wedi ennill un gêm a cholli’r llal hyd yma yng Ngrŵp C hyd – mae angen buddugoliaeth ar Eddie Jones a’i dîm yn Lyon nos Sul i gadw’u gobeithion ymarferol o gyrraedd y chwarteri’n fyw.

Dywedodd Eddie Jones, Prif Hyfforddwr Awstralia: “ Mae gemau pwysig fel hyn yn digwydd yn ystod Cwpan y Byd ac mae hon yn gêm bwysig iawn i’n tîm ifanc ni.

“Ry’n ni wedi ymarfer a pharatoi’n dda ac ry’n ni’n gwybod yn union beth sydd angen i ni ei wneud. Mae’r bechgyn yn barod i ymladd am bopeth nos Sul.”

Australia 
15 Andrew Kellaway
14 Mark Nawaqanitawase
13 Jordan Petaia
12 Samu Kerevi
11 Marika Koroibete 

10 Ben Donaldson
9 Tate McDermott 

1 Angus Bell
2 David Porecki (capten)
3 James Slipper

4 Nick Frost
5 Richie Arnold
6 Rob Leota
7 Tom Hooper
8 Rob Valetini

Eilyddion
16 Matt Faessler
17 Blake Schoupp
18 Sone Fa’amausili

19 Matt Philip
20 Fraser McReight
21 Nic White
22 Carter Gordon
23 Suliasi Vunivalu

Related Topics

Cwpan Rygbi'r Byd
Newyddion
News