News

Menywod Cymru’n creu hanes

04.02.23 - Wales v Ireland - Guinness Six Nations - Prematch pyrotechnics at Principality Stadium

Am y tro cyntaf yn hanes Rygbi Rhyngwladol Menywod Cymru, mae’r Prif Hyfforddwr, Ioan Cunningham wedi dewis carfan o 32 i deithio ar gyfer y gemau yn Ffrainc a’r Eidal, i gloi ymgyrch Cymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad TikTok 2023.

Bydd Cymru’n wynebu Ffrainc yn y Stade des Alpes yn Grenoble ddydd Sul y 23ain o Ebrill (3:15 pm) cyn herio’r Eidal yn y Stadio Sergio Lanfranchi yn Parma ddydd Sadwrn y 29ain o Ebrill (3.30pm).

Bydd y garfan yn hedfan i dde ddwyrain Ffrainc yn ystod y 24 awr nesaf ac yna wedi’r gêm yn Grenoble byddant yn teithio i Parma er mwyn paratoi am bron i wythnos cyn herio’r Eidal.

Dyma fydd y tro cyntaf yn eu hanes i Fenywod Cymru baratoi am gyfnod o’r fath ar dir eu gwrthwynebwyr, ar gyfer gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Wedi dwy fuddugoliaeth a phwyntiau bonws yn eu dwy gêm agoriadol, bydd carfan Cunningham yn gobeithio taro’n ôl wedi’r golled yn erbyn Lloegr y penwythnos diwethaf.

Dywedodd Ioan Cunningham, Prif Hyfforddwr Cymru: “Mae’r ddwy gêm olaf yn ein hymgyrch ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad TikTok eleni yn arbennig o bwysig.

“Rydym yn creu ychydig o hanes wrth gyhoeddi carfan fydd yn ymarfer ar dir tramor rhwng y ddwy ornest. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle i ni dreulio mwy o amser gyda’n gilydd i ymarfer a hyfforddi’n effeithiol.

“Fel arfer, fe fydden ni’n hedfan yn ôl adref wedi’r gêm gyntaf – ond bydd y trefniant yma’n ein galluogi i ganolbwyntio’n llwyr ar herio Ffrainc a’r Eidal.

“Ry’n ni’n hedfan mas i Grenoble i ddechrau ac yna byddwn yn teithio am rhyw 5 awr ar fws i Parma yn syth wedi i ni herio Ffrainc. Bydd ein canolfan ymarfer yno yn ein galluogi i baratoi’n drylwyr iawn ar gyfer ein her olaf o’r Bencampwraieth.

“Gan bod llai o deithio na’r arfer – bydd gennym fwy o amser i adolygu ein perfformiad yn Ffrainc a pharatoi ar gyfer wynebu’r Eidal.

“Mae’r garfan yma’n agos iawn at ei gilydd. Fe brofodd yr amser dreulion ni gyda’n gilydd yn ystod Cwpan y Byd yn Seland Newydd yn werthfawr iawn o safbwynt hynny. ‘Rwy’n siwr y bydd yr amser ychwanegol gyda’n gilydd yn yr Eidal yn cryfhau’r garfan fel uned hyd yn oed yn fwy.

Related Topics

Chwe Gwlad
International Tournaments CYM
Newyddion
Player
Wales Women
News