Mae’r Prif Hyfforddwr Richard Whiffin wedi enwi ei dîm i wynebu Lloegr ym Mharc Pont-y-pŵl ddydd Gwener y 6ed o Fehefin (3.30pm)
Hon fydd y gyntaf o ddwy ornest baratoadol cyn Pencampwriaeth o Dan 20 y Byd – fydd yn dechrau’n Yr Eidal ar y 29ain o’r mis – pan fydd y Cymry’n dechrau eu hymgyrch yn erbyn Ariannin.
Mae Whiffin wedi dewis wythwr y Dreigiau Evan Minto’n gapten ar gyfer y gêm ar Barc Pont-y-pŵl ac mae’r tîm arbrofol hwn yn wahanol iawn i’r un wnaeth atal Lloegr rhag ennill y Gamp Lawn yng ngornest olaf y Chwe Gwlad eleni.
Dywedodd Richard Whiffin: “Mae’r bechgyn wedi bod yn gweithio’n galed iawn ers tair wythnos bellach – ac mae’r tîm ‘rwyf wedi ei ddewis yn haeddu eu cyfle.
“Ry’n ni’n trin y gêm hon i’n helpu i benderfynu pa chwaraewyr fydd yn hawlio’u lle ar yr awyren i’r Eidal gan bod yn rhaid i ni gwtogi’r garfan o 45 i 30 – ac felly mae gêm nos Wener yn gyfle mawr i nifer o’r bechgyn.
“Yn amlwg bydd tipyn o bwysau ar ysgwyddau’r bois nos Wener – yn enwedig gan mai Lloegr yw’r gwrthwynebwyr. Wedi dweud hynny – os ydyn nhw’n ymdopi’n dda o dan y pwysau hwnnw – bydd hynny’n adlewyrchu’n dda arnyn nhw wrth i ni edrych ymlaen tuag at Bencampwriaeth y Byd.”
Bydd un arall o chwaraewyr addawol y Dreigiau, Ryan Jones yn cadw cwmni i’r capten Minto’n y rheng ôl – gyda Caio James o Gaerloyw’n cwblhau’r drindod. Fe berfformiodd Minto’n gryf yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ac mae’n cael ei gyfle i arwain y tîm – sy’n golygu y bydd Harry Beddall yn dechrau ar y fainc.
Ychwanegodd Richard Whiffin: “Mae Evan yn arweinydd sy’n llawn emosiwn ac mae’r ffaith ei fod yn fachgen lleol o Bont-y-pŵl yn mynd i ychwanegu at hynny. Ond wrth gydweithio gyda’n harweinwyr tactegol ar y maes – ‘rwy’n hyderus iawn y cawn ni’r cydbwysedd cywir rhwng yr angerdd angenrheidiol a’r penderfyniadau cywir yn ystod y gêm.
“Roeddwn i eisiau edrych ar gyfuniad ychydig yn wahanol yn y rheng ôl ar gyfer yr ornest hon – ac o ganlyniad i berfformiadau diweddar Evan yn y Chwe Gwlad – mae’n bendant yn un o’r bechgyn sy’n cael eu hytyried ar gyfer y gapteiniaeth ar gyfer y gystadleuaeth yn Yr Eidal.”
Cymru D20 v Lloegr D20, Gwener 6 Mehefin, Parc Pont-y-pŵl, 3.30.
15 Lewis Edwards (Gweilch)
14 Ioan Duggan (Dreigiau)
13 Elijah Evans (Caerdydd)
12 Elis Price (Scarlets)
11 Aidan Boshoff (Bryste)
10 Harri Ford (Dreigiau)
9 Sion Davies (Caerdydd);
1 Cam Tyler-Grocott (Caerdydd)
2 Saul Hurley (Aberafan)
3 Owain James (Dreigiau)
4 Dan Gemine (Gweilch)
5 Kenzie Jenkins (Bryste)
6 Ryan Jones (Dreigiau)
7 Caio James (Caerloyw)
8 Evan Minto (Dreigiau – Capt)
Eilyddion
16 Evan Wood (Pont-y-pŵl /Met Caerdydd)
17 Louie Trevett (Bryste)
18 Jac Pritchard (Scarlets)
19 Tom Cottle (Rygbi Gogledd Cymru)
20 Luke Evans (Caerwysg)
21 Deian Gwynne (Caerloyw)
22 Harry Beddall (Dreigiau)
23 Logan Franklin (Dreigiau)
24 Lloyd Lucas (Caerdydd)
25 Dylan Scott (Met Caerdydd)
26 Steffan Emanuel (Caerdydd)
27 Osian Darwin-Lewis (Caerdydd)
28 Jack Woods (Caerfaddon)
29 Dylan Alford (Scarlets)
Gwener 6 Mehefin: Cymru v Lloegr
Parc Pont-y-pŵl – 15.30
Tocynnau ar gael ar y giât am £5 i oedolion a mynediad am ddim i bawb o dan 16 oed.
Gwener 13 Mehefin: Cymru v Yr Eidal
Parc yr Arfau – 16.30
Tocynnau ar gael ar y giât am £5 i oedolion a mynediad am ddim i bawb o dan 16 oed.