News

Undeb Rygbi Cymru’n Perchnogi Rygbi Caerdydd

Cardiff Arms Park
The governing body will take over Cardiff Rugby

Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi cymryd perchnogaeth o Rygbi Caerdydd – wedi i endid cyfreithiol y clwb – Rygbi Caerdydd Cyfyngedig – ei osod, dros dro, yn nwylo’r gweinyddwyr.



Gwnaed y penderfyniad unwaith iddi ddod i’r amlwg bod perchnogion y clwb, Helford Capital, yn methu ag ariannu gweithredoedd y clwb yn unol ag amodau eu cytundebau.

Yn union wedi i’r gweinyddwyr gael eu penodi, gwerthwyd asedau a busnes y clwb i Undeb Rygbi Cymru Cyfyngedig, sydd o dan berchnogaeth a rheolaeth Undeb Rygbi Cymru.

Ni fydd chwaraewyr a staff y clwb yn cael eu heffeithio gan y gwerthiant hwn a bydd gemau’r clwb yn parhau i ddigwydd, gyda’r holl docynnau sydd eisoes wedi eu gwerthu a Thocynnau Tymor y cefnogwyr yn ddilys o hyd.

Bydd y taliadau ar gyfer Tocynnau Tymor 2025/26 yn cael eu parchu yn ogystal. Felly hefyd unrhyw drefniadau a chytundebau nawdd sydd eisoes wedi eu talu amdanynt.

Fe gadarnhaodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney, y bydd yr Undeb yn perchnogi Rygbi Caerdydd gan gydnabod pwysigrwydd y clwb i ddyfodol Rygbi Cymru.

Pwysleisiodd Abi Tierney hefyd nad oedd y datblygiad hwn yn newid y cynlluniau i gryfau’r gêm broffesiynol yng Nghymru yn unol ag egwyddorion y Strategaeth ‘Cymru’n Un’.

“Rydym wedi bod yn trafod a chadw mewn cysylltiad agos gyda Chaerdydd ers rhai misoedd bellach – ers i Fwrdd y clwb ddod yn ymwybodol na fyddai’r cyllid angenrheidiol ganddynt i ddiwallu eu cyfrifoldebau. O ganlyniad, mae Undeb Rygbi Cymru wedi gweithredu’n gyflym i gynnig cefnogaeth i Gaerdydd.”

Ychwanegodd Abi Tierney: “Gallaf gadarnhau i’r cefnogwyr, y staff a’r chwaraewyr y bydd rygbi proffesiynol yn parhau ar Barc yr Arfau.

“Mae Caerdydd wastad wedi bod yn allweddol yng nghyd-destun ein llwybr datblygu ac mae’r clwb yn greiddiol i lwyddiant ein Strategaeth ‘Cymru’n Un’ – ar y maes chwarae ac oddi-arno hefyd.

“Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn chwilio’n galed am fuddsoddwyr fydd yn gallu sicrhau bod Caerdydd yn cadarnhau eu lle a’u statws fel clwb llwyddiannus unwaith eto.

“Doedd dim modd ystyried gadael i rygbi proffesiynol yn y Brifddinas fynd i’r gwellt a dyna pam y gweithredodd Undeb Rygbi Cymru ar frys i gamu i’r adwy.

“Mae dalgylch Rygbi Caerdydd yn cynnwys mwy o glybiau ac ysgolion nac unrhyw ardal arall sy’n cael ei chynrychioli gan y clybiau proffesiynol eraill yma yng Nghymru – ond ein blaenoriaeth drwy gydol y broses drafod hon oedd y chwaraewyr, y staff a’r cefnogwyr.

“Mae Caerdydd wastad wedi datblygu chwaraewyr ar gyfer ein timau rhyngwladol ar bob lefel ac mae’r clwb yn allweddol i lwyddiant ein Strategaeth Newydd.”

Dywedodd Cadeirydd Rygbi Caerdydd, Alun Jones:”Rydym yn arbennig o ddiolchgar i Undeb Rygbi Cymru am sicrhau sefydlogrwydd ariannol y clwb a pharhad rygbi proffesiynol yng Nghaerdydd, wrth i ni baratoi ar gyfer ein canfed tymor a hanner.

“Y flaenoriaeth trwy gydol y broses hon oedd sicrhau swyddi ein staff, dyfodol y clwb a llwybr datblygu chwaraewyr ifanc ein Prifddinas a’r ardal ehangach.”

Related Topics