News

Senghenydd yn sicrhau'r Bowlen

Senghenydd Women celebrate lifting the trophy at full time
Senghenydd Women celebrate lifting the trophy at full time

Fe enillodd Senghenydd gystadleuaeth y Bowlen yn gyfforddus wrth drechu Ffynnon Taf o 57-14.

Asgellwr yw Courtney Greenway fel arfer – ond hi lywiodd y chwarae o safle anghyfarwydd y maswr yn Stadiwm Principality – wrth lywio ei thîm at fuddugoliaeth gofiadwy.

Mae Greenway bellach yn aelod o garfan Gwalia Lightning ac ‘roedd ei doniau’n amlwg i bawb wrth iddi sgorio tri chais a chyfanswm o 21 pwynt – sicrhaodd wobr Seren y Gêm (Go.Compare) yn haeddiannol iddi.

Llwyddodd ei chapten, Rafique Taylor dirio deirgwaith hefyd – ac mae ganddi bellach fedal am ennill y Bowlen a medal am ennill y Cwpan ei hun – gan iddi gynrychioli tîm llwyddiannus Pontyclun yn ôl yn 2023.

Taylor, sy’n 41 oed erbyn hyn, agorodd y sgorio gyda rhediad 60 metr i gysgod y pyst ac fe arweiniodd yr hyder ddeilliodd o’r cais hwnnw at geisiau pellach i Greenway a Kayley Smith cyn i Taylor groesi am yr eildro.

Ataliodd mewnwr Ffynnon Taf, lif ceisiau Senghenydd am gyfnod, wrth iddi hi agor cyfrif ei thîm ac fe drosodd Jade Edwards hwnnw’n gywir.

Ond erbyn yr egwyl, ‘roedd cais yr wythwr amryddawn Hollie Dempsey wedi rhoi mantais o 36-7 i fenywod Sir Caerffili.

Sioe Greenway oedd hi ar ddechrau’r ail gyfnod wrth iddi dirio’i hail gais gwta 4 munud wedi’r ail-ddechrau. Ond ‘roedd y gorau eto i ddod ganddi, wrth i Greenway redeg am 70 metr er mwyn hawlio’i thrydydd cais o’r ornest.

Roedd ei throsi’n effeithiol hefyd wrth iddi ychwanegu chwephwynt pellach wedi ei dau gais diweddaraf a thrydydd ei chapten – olygodd bod mantais Senghenydd yn 57-7 wedi bron i awr o chwarae.

Dangos dycnwch unwaith eto wnaeth Ffynnon Taf – a nhw gafodd y dylanwad olaf ar y sgorfwrdd – wrth i’r eilydd Sarah Grant groesi am ail gais ei thîm – wnaeth gwaith Edwards o drosi’n gymharol syml.

Bydd Senghenydd yn troi eu golygon tuag at geisio hawlio’r dwbl. Gyda thair gêm o’r tymor yn weddill yng Nghynghrair y Dwyrain, maen nhw ar y brig o bwynt gan eu bod wedi ennill pob un o’u pum gêm hyd yn hyn y tymor hwn.

Rownd Derfynol Powlen Undeb Rygbi Cymru
Ffynnon Taf: Kirsten Field; Danni Stokes, Holly Brown, Georjia Teuma, Amy Clayton; Jade Edwards, Louise Shanahan; Jamie-lee Knight, Kayleigh Cushing (capten), Taryn Hurley, Katy Priddle, Sharon Macdonald, Lauren Hughes, Stacey Wright, Bonnie Heath
Eilyddion: Chelsea Martin, Alice Clayton, Paige Price, Jodie-Leigh Hobbs, Rhiannon Beth Morgan, Hannah Thomas, Ceri Parkin, Sarah Grant
Senghenydd: Kayley Smith; Georgia Pritchard, Rafiuke Taylor (capten), Imogen Shide, Lauren Stevens; Courtney Greenway, Hayley Skym; Yasemin Sen, Rhian Bowden, Elin Jenkins, Sarah Creak, Joeann McGuire, Sarah Harper, Lianne Fletcher, Hollie Dempsey
Eilyddion: Gemma Bisi, Catrin Davies, Tara-Mae Fitzgerald, Shauna Bowman-Rees, Esme Davies, Beti Jones, Megan Phillips, Shirey Webley
SEREN Y GÊM (Go.Compare) – COURTNEY GREENWAY (SENGHENYDD)
Chwaraewr y gêm Courtney Greenway o Senghenydd gydag aelod o fwrdd URC, Claire Donovan

Related Topics