Mae Richie Pugh wedi enwi ei dîm i wynebu Iwerddon yng ngêm agoriadol Gŵyl y Chwe Gwlad yn Vichy ddydd Iau (5.30pm)
Wedi dwy ornest baratoadol yn erbyn Yr Alban a’r Eidal, bydd y Cymry ifanc yn wynebu’r Gwyddelod, Georgia a’r Eidal yn y Stade Municipal Louis Darragon, cartref RC Vichy sy’n chwarae yn nhrydedd haen rygbi Ffrainc yn ystod yr Ŵyl.
Bydd Iwerddon yn hyderus gan eu bod wedi curo Lloegr wrth baratoi ar gyfer y gystadleuaeth, tra i Gymru golli o drwch blewyn yn erbyn Yr Eidal yn eu gêm ddiwethaf – a hynny mewn tywydd ofnadwy.
Dywedodd Richie Pugh: “Bydd y Gwyddelod yn anodd iawn i’w curo ond mae’n bechgyn ni wedi paratoi’n dda ac maen nhw’n barod am yr her.
“Mae’n rhaid i ni ddysgu gwersi o’r golled yn erbyn Yr Eidal – yn enwedig sut i reoli’r chwarae mewn amodau gwahanol. Mae un peth yn sicr – bydd y twydd yn well yn Vichy!”
Ni fydd unrhyw gapiau newydd yn chwarae yn erbyn Iwerddon gan i bawb sydd wedi eu dewis gael y profiad o gymryd rhan y gemau paratoadol.
Ychwanegodd Richie Pugh:”Mae’n beth da bod y bois wedi cael y profiad o wisgo’r crys coch yn barod – a dyna un o’r prif resymau y trefnon ni’r ddwy gêm honno.
“Fe gawsom y cyfle i edrych ar nifer fawr o fechgyn gwahanol yn ystod y ddwy ornest ddiweddar ac felly dwi’n hyderus y byddwn ni’n gystadleuol iawn yn erbyn y Gwyddelod.
“Ry’n ni’n gryf yn gorfforol ac mae gennym nifer o chwaraewyr sy’n gallu croesi’r llinell fantais ac mae’n rhaid i ni fanteisio ar yr elfen honno o’n gêm.
“Mae gennym nifer o olwyr dawnus hefyd ac mae Carwyn Leggat-Jones yn chwaraewr cyffrous. Mae gennym Lloyd Lucas sy’n gallu tanio’n holwyr hefyd ac ‘rwy’n gobeithio bod ganddyn nhw’r hyder i fod yn fentrus a dewr yn eu chwarae.
“Mae Iwerddon yn dîm da ym mhob agwedd o’u chwarae ac felly bydd yn rhaid i ni fod ar ein gorau i’w herio nhw.
“Er iddyn nhw fod ar ei hôl hi’n erbyn Lloegr yn ddiweddar, fe ddangoson nhw ddawn a hunan-hyder er mwyn taro’n ôl i ennill.
“Mae gennym gynllun i geisio cael y gorau ar y Gwyddelod ac os y byddwn yn llwyddo eu hatal nhw rhag chwarae i’w cryfderau arferol – fe allwn ni ddangos beth yr y’n ni’n gallu ei wneud.”
Cymru D18 v Iwerddon D18, Vichy, Iau Ebrill 10, 5.30pm
1 Dylan Barratt (Caerdydd)
2 Thomas Howe (Caerdydd)
3 Nathan Davies (Scarlets)
4 Kai Jones (Scarlets)
5 Osian Williams (Bryste)
6 Cerrig Smith (Dreigiau – Capt)
7 Alfie Prygodzicz (Caerdydd)
8 Noah Williams (Bryste)
9 Carter Pritchard (Dreigiau)
10 Carwyn Leggat-Jones (Scarlets)
11 Rhys Cole (Dreigiau)
12 Jack Harrison (Caerfaddon)
13 Bailey Cutts (Caerdydd)
14 Noah Morgan (Dreigiau)
15 Rhys Cummings (Caerdydd)
Eilyddion
16 Tiaan Hall (Dreigiau) 17 George Leyland (Bryste) 18 Jayden Maybank (Gweilch) 19 Gabe Williams (Caerdydd) 20 Tiehie Chatham (Dreigiau) 21 Luca Woodyatt (Caerloyw) 22 Lloyd Lucas (Caerdydd) 23 Jack Hoskins (Gweilch) 24 Ben Coomer (Caerdydd) 25 Brogan Leary (Dreigiau) 26 Morgan Crew (Academi Sir Efrog)