Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi prynu busnes ac asedau Rygbi Caerdydd ddoe, 9 Ebrill 2025, ar gost oddeutu £780,000 – ar drefniant o bryniant ariannol o £480,000 a chymryd cyfrifoldeb am £300,000 o ddyled.
O ganlyniad i hyn, sicrhawyd swyddi tua 150 o bobl – gan gynnwys y chwaraewyr.
Mae’r datblygiad hwn yn galluogi Rygbi Caerdydd i barhau i weithredu fel busnes gydag Undeb Rygbi Cymru’n gweithredu fel îs-gwmni.
Bydd yr holl docynnau (gan gynnwys tocynnau tymor) sydd eisoes wedi eu gwerthu’n ddilys o hyd. Felly hefyd y trefniadau lletygarwch a hysbysebu sydd eisoes yn eu lle.
Dywedodd Cadeirydd URC, Richard Collier-Keywood:
“Er mai’r Undeb yw perchnogion Rygbi Caerdydd erbyn hyn, ‘rydym yn bwriadau eu trin fel clwb rygbi annibynnol. ‘Roeddem eisiau camu i’r adwy er mwyn rhoi’r cyfle i bawb gymryd anadl cyn penderfynu beth fydd y cam cywir i’w gymryd yn y tymor hir.
“Mae’r cyfanswm o £780,000 wedi talu am yr asedau, costau’r gweinyddwyr a’r ffaith ein bod wedi cymryd cyfrifoldeb am £300,000 o ddyled.
“Mae nifer o gytundebau cyflenwyr hefyd wedi eu trosglwyddo i îs-gwmni’r Undeb er mwyn galluogi Rygbi Caerdydd i barhau i weithredu.”
Mae Prif Swyddog Gweithredoedd URC Leighton Davies a Phrif Swyddog Digidol a Data’r Undeb Steve King, wedi eu penodi’n Gyfarwyddwyr ar endyd newydd Rygbi Caerdydd.
Ychwanegodd Richard Collier-Keywood: “Pan ddaethom i gytundeb, ‘roedd Rygbi Caerdydd yn ddyledus o £9.1m i Undeb Rygbi Cymru.
“Fel rhan o’n hymrwymiad i ddrafft y Cytundeb Rygbi Proffesiynol (PRA25), mae’r Undeb wedi cytuno i leihau’r ddyled ddeilliod o gyfnod Covid-19 gan osod cynllun cyfalaf hirdymor yn ei le.
“Daw hyn i tua £3m i Rygbi Caerdydd – ac mae’r trefniant newydd yma’n ein galluogi i ddefnyddio’r arian sy’n ddyledus i ni fel buddsoddiad yn Rygbi Caerdydd – gan adael £6m yn ddyledus i’r îs-gwmni newydd.
“ Fel rhan o’r PRA25, ‘rydym yn bwriadu cynnig yr un cymorth i’r tri chlwb proffesiynol arall hefyd.”
Dywedodd Abi Tierney, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru:
“Mae’n tîm ni wedi gweithio’n galed iawn i gael cyn lleied o effaith â phosib ar chwaraewyr, staff a rhanddeiliaid Rygbi Caerdydd ac ‘rydym yn croesawu ein cyd-weithwyr newydd â breichiau agored i deulu Undeb Rygbi Cymru.”