Tri chais hanner cyntaf yr asgellwyr Ceulyn Davies ac Oliwia Bakowaka sicrhaodd mai Porth Tywyn enillodd Gwpan y Menywod yn Stadiwm Principality. Wedi iddyn nhw golli yn y rownd gyn-derfynol y llynedd a cholli yn Ffeinal y Plat yn 2023 – ‘roedd eu buddugoliaeth o 34-24 yn erbyn Bonymaen yn felys iawn i fenywod […]
Tri chais hanner cyntaf yr asgellwyr Ceulyn Davies ac Oliwia Bakowaka sicrhaodd mai Porth Tywyn enillodd Gwpan y Menywod yn Stadiwm Principality.
Wedi iddyn nhw golli yn y rownd gyn-derfynol y llynedd a cholli yn Ffeinal y Plat yn 2023 – ‘roedd eu buddugoliaeth o 34-24 yn erbyn Bonymaen yn felys iawn i fenywod Porth Tywyn.
Dau gais Davies,pum pwynt Bakowaka a’r ffaith i’r canolwr Darcy Thomas a’r eilydd Sophie Delaney dirio oedd bennaf gyfrifol am y ffaith bod Porth Tywyn ar y blaen o 27-5 wrth droi.
Cais y prop Tyler Tipene wedi bron i chwarter awr o chwarae oedd unig sgôr Bonymaen o’r cyfnod cyntaf.
‘Roedd y tîm o ardal Abertawe wedi curo’r garfan o ardal Llanelli yn Uwch Gynghrair y Menywod yn gynharach y tymor hwn ac fe daron nhw’n ôl wedi troi i sgorio 3 chais o’u cymharu â sgôr Rhiannon Griffin – droswyd gan Thomas.
Yn anffodus i Fonymaen, gyda’r bwlch ar un cyfnod yn 22 pwynt – doedd ceisiau Ffion Clarke, Lucy Rees a Tili Hopkins ddim yn ddigon i gipio’r Cwpan o afael Porth Tywyn.
Eilyddion: Carlie Reardon, Carla Giannini, Carys Lewis, Ellie Gravell, Rhyanne O’Hara, Sophie Delaney, Charlotte Stallard, Alice Morgan
Eilyddion: Bethan Rickard, Taylor Briggs, Karis Stevens, Charlotte Peters, Ffion Clarke, Kirsten Field
