Colli eu trydedd gêm ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025 fu hanes Menywod Cymru yn y Stade Amedee-Domenech, Brive-La-Gaillarde wrth i’r Ffrancesi ennill o 42-12.
O ganlyniad i’w buddugoliaeth a’u chwe chais heddiw mae Les Bleues bellach wedi ennill eu tair gêm gyntaf eleni ac felly byddai dwy fuddugoliaeth oddi-cartref yn Yr Eidal a Lloegr yn ystod y pythefnos nesaf yn sicrhau eu Pencampwriaeth gyntaf ers 2018.
Doedd y Cymry heb guro Ffrainc ers y fuddugoliaeth gofiadwy o 10-8 yng Nghastell Nedd yn 2016 ac ‘roedd y Cochion wedi colli pob un o’u gemau blaenorol ar dir Ffrainc â chyfartaledd o 30 pwynt o fwlch yn gwahanu’r ddau dîm. Yn eironig dyna oedd yr union fwlch rhwng y timau erbyn diwedd y prynhawn.
Doedd hi’n fawr o syndod felly mai’r tîm cartref agorodd y sgorio – a’r asgellwr Emilie Boulard fanteisiodd ar gic letraws berffaith Carla Arbez wedi 4 munud yn unig – olygodd bod yr asgellwr wedi sgorio’n ei thair gêm ddiwethaf yn erbyn Cymru – ac fe osododd y cais cynnar hwnnw y sylfaen i 9fed buddugoliaeth Menywod Ffrainc o’r bron yn erbyn y Cymry.
Ychwanegodd y cefnwr Morgane Bourgeois y ddeubwynt.
Doedd y Cymry heb sgorio pwynt hanner cyntaf yn erbyn y Ffrancesi yn eu pum gornest ddiwethaf – ond wedi bron i 10 munud o chwarae, Kate Williams gododd o waelod pentwr cyrff y sgarmes symudol i hawlio’i hail gais o’r Bencampwriaeth.
Methiant fu ymdrech Keira Bevan i’w gwneud hi’n gwbl gyfartal gan iddi fethu gyda’i throsiad.
Bum munud wedi i’r ymwelwyr ysgwyd y tîm cartref – fe benderfynodd Emilie Boulard boenydio’r Cymry unwaith eto. Gyda’i hail gyfle o’r gêm fe arweiniodd ei dwylo dawnus a’i gallu greddfol i gyrraedd y llinell gais – at ei hail sgôr o’r prynhawn. Wedi ail drosiad campus Bourgeois – ‘roedd mantais y Ffrancod yn 14-5.
Cyn y gêm, ‘roedd y Prif Hyfforddwr Sean Lynn wedi galw ar ei garfan i fod yn ddewr yn Brive. Atebodd y blaenwyr yr alwad honno eto wedi 22 munud o chwarae pan groesodd Gwen Crabb y gwyngalch yn gorfforol ac effeithiol. Llwyddodd Bevan gyda’r trosiad i gau’r bwlch i ddeubwynt yn unig.
Erbyn yr egwyl, ‘roedd y bwlch hwnnw wedi ymestyn i 9 pwynt – gan i fachwr Ffrainc a Seren y Gêm, Manon Bigot dirio gyda symudiad olaf un y cyfnod cyntaf – cyn i Bourgeois drosi am y trydydd tro.
Dim ond Lloegr oedd wedi ennill ar dir Ffrainc yn y Bencampwriaeth ers 2003 ac fe ddangosodd carfan Gaëlle Mignot a David Ortiz eu doniau eto lai na phedwar munud wedi troi pan hyrddiodd y cyd-gapten Manae Feleu ei hun at gysgod y pyst – gan hawlio pwynt bonws i’w thîm yn y broses.
‘Roedd Courtney Keight yn credu ei bod wedi hawlio 3ydd cais ei thîm o’r ornest – ond fe benderfynodd y tîm dyfarnu bod Abbie Fleming wedi troseddu yn y lein ar ddechrau’r symudiad – er mawr siom i’r Cymry.
Er bod Menywod Cymru wedi chwarae’n ddewr a threfnus hyd nes chwarter awr olaf yr ornest – cosbwyd yr eilydd Maisie Davies am drosedd yn y sgrym – ac fe benderfynodd Holly Wood ddangos cerdyn melyn iddi a chaniatáu cais cosb hefyd.
Llwyddodd Les Bleues i hawlio un cais olaf pan diriodd yr eilydd Lea Champon gyda 2 funud ar ôl a doedd hi’n fawr o syndod i Morgane Bourgeois gau pen y mwdwl gyda’i phumed trosiad o’r prynhawn.
Trydedd colled o’r tymor i Hannah Jones a’i thîm felly – ond perfformiad cystadleuol gan y Crysau Cochion ar domen pedwerydd tîm cryfa’r byd.
Bydd gan garfan Sean Lynn wyth niwrnod cyn wynebu Iwerddon yn Rodney Parade yn eu gêm nesaf, cyn dod â’u hymgyrch i ben yn Yr Eidal ar y 26ain o Ebrill.