Fe gafodd Merched o dan 18 Cymru ddechrau anodd i’w hymgyrch yng Ngŵyl y Chwe Gwlad yng Ngholeg Wellington wrth i Ffrainc eu curo’n gyfforddus o 43-0 yn eu gêm agoriadol.
35 munud oedd hyd yr ornest ac fe lwyddodd y Ffrancod i sgorio 7 o geisiau’n ystod y cyfnod hwnnw – heb ymateb gan ferched Siwan Lillicrap.
Fe newidiodd y Prif Hyfforddwr ei thîm yn llwyr ar gyfer eu hail gêm yn erbyn Yr Alban a llwyddwyd i sicrhau buddugoliaeth werthfawr o 21-7.
Bydd yr un patrwm o gystadlu’n parhau ddydd Mawrth pan mai Lloegr a’r Eidal fydd gwrthwynebwyr y Cymry ifanc – cyn iddyn nhw wedyn herio Iwerddon mewn gêm 70 munud o hyd ddydd Sadwrn.
Dywedodd Siwan Lillicrap, Prif Hyfforddwr Merched o dan 18 Cymru: “Roedd Ffrainc yn dda iawn o’r chwiban gyntaf yn y gêm agoriadol.
“Wedi i ni fynd ar ei hôl hi’n gynnar – yn hytrach na cheisio chwarae’n gêm ni’n hunain – fe gicion ni’r meddiant yn gyson i geisio codi’r pwysau – ond mae hynny’n beth peryglus iawn i’w wneud yn erbyn unrhyw dîm o Ffrainc.
“Dyma oedd profiad cyntaf llawer iawn o’n merched ni o rygbi rhyngwladol ac fe ddysgon nhw wers eithaf caled.
“Bydd y merched yn elwa o’r profiad yma ac yn deall y safon sy’n rhaid ei gyrraedd i gystadlu ar y lefel yma.
“Roedden ni’n fwy cyfarwydd â thîm Yr Alban gan i ni eu chwarae nhw mewn gêm baratoadol yn ddiweddar. Rwy’n hapus iawn ein bod wedi ennill heddiw ond ‘roedd hon yn gêm galed a gwerthfawr i’r merched hefyd.
“Mae genym lawer o dalent yn y garfan ac ‘rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y ddwy gêm nesaf yn erbyn Lloegr a’r Eidal.”
Sgorwyr ceisiau Cymru’n erbyn yr Alban oedd: Taufa Tuipulotu, Ciara Taylor a Cara Mercier, a throswyd y cyfan gan Sienna McCormack.
Cymru D18 v Ffrainc: Megan Jones; Beatrice Morgan, Katie Johnson, Isla McMullen (capten), Lily Foscolo; Ffion Williams, Lily Hawkins; Crystal James, Shanelle Williams, Evie Hill, Tegan Bendall, Erin Jones, Jorja Aiono, Amelia Bailey, Chiara Pearce
Cymru D18 v Yr Alban: Beatrice Morgan; Meg Thomas, Lily Foscolo, Sienna McCormack, Saran Jones; Kacey Morkot, Seren Lockwood; Georgia Morgan, Taufa Tuipulotu, Ciara Taylor, Cara Mercier, Izzy Jones, Abigail Richards, Chloe Roblin, Charlie Williams,