News

Lynn yn gwneud un newid i geisio ffrwyno Ffrainc

Kayleigh Powell
Kayleigh Powell yn newid o ganol cae i safle'r maswr ar gyfer y gêm yn erbyn Ffrainc

Mae Prif Hyfforddwr Tîm Menywod Cymru, Sean Lynn wedi enwi ei dîm i wynebu Ffrainc yn Nhrydedd Rownd Gemau Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025 yn y Stade Amedee-Domenech, Brive-La-Gaillarde, ddydd Sadwrn y 12fed o Ebrill (12:45pm).

Mae Lynn wedi gwneud un newid i’r pymtheg wynebodd Lloegr, o flaen record o dorf (21,186) ddiwedd mis Mawrth – ac mae wedi gwneud un newid o ran safle’n ogystal.

Y canolwr Hannah Jones fydd yn arwain y tîm unwaith yn rhagor wrth i’r Cymry deithio i wynebu pedwerydd detholion y byd ar hyn o bryd.

Kayleigh Powell, gafodd ei dewis yn y canol yn erbyn Lloegr – fydd yn dechrau’n safle’r maswr gan bod Lleucu George wedi dioddef anaf i’w phigwrn.

Mae hynny’n golygu mai Courtney Keight fydd partner ei chapten yng nghanol y cae gyda’r îs-gapten Keira Bevan yn parhau’n safle’r mewnwr .

Jasmine Joyce fydd y cefnwr gyda Carys Cox a Lisa Neumann ar yr esgyll unwaith eto.

Y profiadol Carys Phillips sydd wedi ei dewis yn fachwr gyda Gwenllian Pyrs a Jenni Scoble y naill ochr a’r llall iddi’n y rheng flaen.

Abbie Fleming a Gwen Crabb fydd yn dechrau’n yr ail reng gyda’r drindod yn y rheng ôl – sef yr wythwr Georgia Evans a’r blaen-asgellwyr Kate Williams a Bethan Lewis yn cael cyfle arall i arddangos eu doniau.

Mae Ffrainc wedi ennill eu dwy gêm gyntaf yn y Bencampwriaeth eleni a ‘dyw’r Cymry heb eu curo ers y fuddugoliaeth o 10-8 yng Nghastell Nedd yn ôl yn 2016.

‘Roedd Hannah Jones, Keira Bevan a Carys Phillips yn chwarae’r diwrnod hwnnw.

Nid oedd modd ystyried dewis Lleucu George (pigwrn), Alex Callender (troed) nac Alisha Butchers (firws) ar gyfer y gêm hon.

Dywedodd Sean Lynn: “Mae’r chwaraewyr yma’n haeddu cyfle arall i gynrychioli ein teulu rygbi. ‘Ry’n ni’n mynd i wynebu un o dimau cryfaf y byd, ar eu tomen eu hunain a hynny o flaen torf swnllyd a heriol.

“Mae’r tîm hyfforddi a’r chwaraewyr wedi gwneud defnydd da o’r wythnos wag oedd gennym ac mae’r amser ychwanegol hwnnw wedi ein galluogi i roi min ar wahanol agweddau o’n chwarae.

“Ry’n ni wedi adnabod nifer o elfennau y gallwn eu gwella o’n perfformiad yn erbyn Lloegr ac mae pob un unigolyn yn benderfynol o weithredu’r gwelliannau hynny’r penwythnos yma.

“Wrth gydnabod ambell wendid a chryfhau’r manion a’r manylion hynny – bydd ein perfformiadau’n cryfhau o’r herwydd.

“Mae pawb yn gwybod bod Ffrainc yn dîm o safon gwirioneddol – ond bydd pwysau arnyn nhw yn y Gêm Brawf hon hefyd ac ‘ry’n ni’n benderfynol o gynnig gwir her iddyn nhw.”

Tîm Cymru (v Ffrainc)

Jasmine Joyce (Bryste), Lisa Neumann (Harlequins), Hannah Jones (Capten, Hartpury/Caerloyw), Courtney Keight (Bryste), Carys Cox (Ealing), Kayleigh Powell (Harlequins), Keira Bevan (Îs-gapten, Bryste); Gwenllian Pyrs (Sale), Carys Phillips (Harlequins), Jenni Scoble (Gwalia Lightning), Abbie Fleming (Harlequins), Gwen Crabb (Hartpury/Caerloyw), Kate Williams (Hartpury/Caerloyw), Bethan Lewis (Hartpury/Caerloyw), Georgia Evans (Saraseniaid).

Eilyddion: Kelsey Jones (Hartpury/Caerloyw), Maisie Davies (Gwalia Lightning), Donna Rose (Saraseniaid), Natalia John (Brython Thunder), Alaw Pyrs (Gwalia Lightning), Bryonie King (Gwalia Lightning), Sian Jones (Hartpury/Caerloyw), Nel Metcalfe (Caerloyw/Hartpury).

Related Topics