News

Lynn yn galw ar Gymru i godi dwyster eu chwarae

Courtney Keight
Courtney Keight yn newid i ganolfan Cymru

Tri chynnig i Gymro medd yr hen air – ond bydd talcen caled yn wynebu Prif Hyfforddwr Menywod Cymru,Sean Lynn wrth iddo chwilio am ei fuddugoliaeth gyntaf yn ei drydedd gêm wrth y llyw.

Yfory yn Brive am 12.45pm bydd Menywod Cymru’n wynebu pedwerydd detholion y byd – Ffrainc a hynny ar eu tomen eu hunain wrth i’r Crysau Cochion chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf dros Les Bleues ers 2016.

O ganlyniad i anaf Lleucu George i’w phigwrn, mae Sean Lynn wedi symud Kayleigh Powell o’r canol i’r crys rhif 10 ac mae Courtney Keight wedi ei dewis i gymryd lle Powell yng nghanol y cae.

Dywedodd Sean Lynn: “Mae Lleucu a Kayleigh’n chwarae steil gwahanol o rygbi i’w gilydd – ond bydd ein cynllun ar gyfer y gêm yn aros yr un fath. Mae cryfder Courtney yng nghanol y maes yn rhoi cyfle arall i ni chwarae ar y droed flaen hefyd.

“Fe ddysgon ni lawer yn y golled yn erbyn Lloegr ac fe lwyddon nhw i’n gorfodi ni i chwarae gêm oedd yn anghyfarwydd i ni. O ganlyniad, ‘ry’n ni wedi gweithio’n galed a gonest ar agweddau oedd angen gwella arnyn nhw wrth baratoi i wynebu un arall o dimau gorau’r byd.

“Ry’n ni wedi ymarfer dwyster ein chwarae’n gyson yr wythnos hon ac ‘rwy’n hyderus y bydd hynny’n gwella ein perfformiad y penwythnos yma.

“Mae pob aelod o’r garfan yn gwybod y gallwn wella safon ein perfformiadau – hyd yn oed mewn awyrgylch heriol sy’n siwr o’n wynebu yn Brive.

“Ein perfformiad fydd fwyaf pwysig y penwythnos yma wrth i ni geisio profi y gallwn gyflwyno mwy o ddwyster i’n chwarae a gosod Ffrainc o dan bwysau yn ystod y gêm.”

Haneri Ffrainc Carla Arbez a Pauline Bourdon-Sansus sy’n llywio chwarae’r Ffrancesi ac maen nhw eisoes wedi curo Iwerddon (15-27) a’r Alban (38-15) yn nwy rownd agoriadol y Bencampwriaeth eleni.

Mae’r Hyfforddwyr Gaëlle Mignot a David Ortiz wedi gwneud un newid o’u buddugoliaeth bythefnos yn ôl yn La Rochelle gydag Emilie Boulard yn disodli Mélissande Llorens ar yr asgell.

Dywedodd Capten Cymru, Hannah Jones, chwaraeodd ym muddugoliaeth ddiwethaf Cymru dros Ffrainc yn 2016 : “Ry’n ni wedi ceisio manteisio ar yr wythnos rydd i wella rhai pethau’n ein gêm a does gennym ddim i’w golli gan nad oes unrhywun y tu fas i’r garfan yn disgwyl i ni ennill yn Brive.

“Rwy’n edrych ymlaen at y gêm a’r awyrgylch tanllyd fydd yn y stadiwm – ac os y cawn ni ddechrau da i’r gêm – efallai bydd y dorf yn dechrau troi yn erbyn eu tîm eu hun.”

Mae clo Brython Thunder, Natalia John wedi ei dewis ar y fainc ar gyfer yr ornest hon wedi iddi wella o anaf diweddar.

TÎMAU

FFRAINC: Morgane Bourgeois; Kelly Arbey, Marine Menager (cyd-gapt), Montserrat Amedee, Emilie Boulard; Carla Arbez, Pauline Bourdon-Sansus; Yllana Brosseau, Manon Bigot, Rose Bernadou, Manae Feleu (cyd-gapt), Madouddou Fall-Raclot, Charlotte Escudero, Seraphine Okemba, Teani Feleu
Eilyddion: Elisa Riffonneau, Ambre Mwayembe, Assia Khalfaoui, Kiara Zago, Axelle Berthoumieu, Lea Champon, Oceane Bordes, Lina Queyroi

CYMRU: Jasmine Joyce; Lisa Neumann, Hannah Jones (capten), Courtney Keight, Carys Cox; Kayleigh Powell, Keira Bevan; Gwenllian Pyrs, Carys Phillips, Jenni Scoble, Abbie Fleming, Gwen Crabb, Kate Williams, Bethan Lewis, Georgia Evans
Eilyddion: Kelsey Jones, Maisie Davies, Donna Rose, Natalia John, Alaw Pyrs, Bryonie King, Sian Jones, Nel Metcalfe

Dyfarnwr: Holly Wood (RFU)

Related Topics