Fe lwyddodd Llandeilo i gadw’u gafael ar Gwpan Ieuenctid o dan 18 oed Undeb Rygbi Cymru wrth guro Clwb Unedig Pont-y-pŵl gyda chic olaf yr ornest. Y canolwr Ioan Thomas, gafodd y cyfrifoldeb a’r fraint o gymryd y gic gosb – lwyddodd i hedfan dros y trawst i hawlio’r Cwpan i fois y Gorllewin. […]
Fe lwyddodd Llandeilo i gadw’u gafael ar Gwpan Ieuenctid o dan 18 oed Undeb Rygbi Cymru wrth guro Clwb Unedig Pont-y-pŵl gyda chic olaf yr ornest.
Pont-y-pŵl aeth ar y blaen yn gynnar gyda’r cyntaf o ddwy gic gosb y maswr Morgan Cusack yn ystod yr hanner cyntaf – ond y deiliaid groesodd am ddau gais cyntaf yr ornest gofiadwy hon yn Stadiwm Principality. Y bachwr Ashley Chappell a’r capten Rhodri Jenkins diriodd y ceisiau hynny i Landeilo.
Bum munud wedi troi, roedd Llandeilo yn ôl ar y blaen a’r canolwr Iwan Blakeman grëodd y sgôr gyda’i bas ddall fentrus a’i waith cynorthwyol campus. Wedi i’w bas arwain at ryddhau’r asgellwr Ewan Chater, ‘roedd Blakeman ar ei ysgwydd i hyrddio’i hun dros y llinell gais i hawlio’r pum pwynt ei hun.
Wedi ymdrech lwyddiannus Cian Thomas gyda’i drosiad, roedd chwephwynt o fwlch rhwng y ddau dîm.
Gyda naw munud o’r ornest gystadleuol hon yn weddill – Pont-y-pŵl oedd â’r fantais – wedi i’r blaen-asgellwr Luke Daniel gario’n gryf i groesi am gais ola’r gêm – cyn i drosiad Cusack roi’r mantais lleiaf posib i’w dîm.
Gyda phum munud yn weddill fe gafodd y canolwr Ioan Thomas gic o 40 metr – ond doedd dim digon o bŵer yn ei ymdrech i ad-ennill y flaenoriaeth.
Er gwaethaf siom Thomas, fe gafodd un cyfle arall i gipio’r Cwpan. Yn eironig, ‘roedd ei ymdrech gyda chic olaf un y Ffeinal yn anoddach na’i gynnig cyntaf.