Mae’r Prif Hyfforddwr, Siwan Lillicrap wedi enwi ei thimau ar gyfer dwy gêm o dan 18 Merched Cymru yng Ngŵyl y Chwe Gwlad yfory.
Ar ddiwrnod agoriadol y cystadlu yng Ngholeg Wellington bydd Cymru’n wynebu Ffrainc am 11 ac yna’r Alban am Hanner Dydd ar gyfer gornestau 35 munud o hyd.
Ers eu cyflwyno i’r calendr rhyngwladol mae Gŵyliau’r Chwe Gwlad wedi profi i fod yn feithrinfeydd campus ar gyfer doniau’r dyfodol a hynny mewn amgylchedd perfformiad uchel sy’n paratoi’r chwaraewyr ar gyfer heriau sylweddol y llwyfan rhyngwladol.
Dywedodd Prif Hyfforddwr Merched o dan 18 Cymru, Siwan Lillicrap:”Mae pawb yn edrych ymlaen at wynebu Ffrainc a’r Alban yfory gan bod y ddwy gêm yn gyfle i bob un o’r merched brofi eu hunain.
“Mae’r garfan wedi gweithio’n arbennig o galed dros yr wythnosau diwethaf a bydd yr Ŵyl hon yn gyfle gwych iddyn nhw ddangos eu datblygiad diweddar.
“Ry’n ni gyd, fel tîm hyfforddi’n hapus iawn gyda datblygiad y garfan yn ystod y cyfnod diweddaraf yma gyda’n gilydd.”
Cymru v Ffrainc: Crystal James, Shanelle Williams, Evie Hill, Tegan Bendall, Erin Jones, Jorja Aiono, Amelia Bailey, Chiara Pearce, Lily Hawkins, Ffion Williams, Lily Foscolo, Isla McMullen, Katie Johnson, Beatrice Morgan, Megan Jones.
Cymru v Yr Alban: Georgia Morgan, Taufa Tuipulotu, Ciara Taylor, Cara Mercier, Izzy Jones, Abigail Richards, Chloe Roblin, Charlie Williams, Seren Lockwood, Kacey Morkot, Saran Jones, Sienna McCormack, Lily Foscolo, Meg Thomas, Beatrice Morgan