News

Cymru D18 yn dechrau’n dda yng Ngŵyl y Chwe Gwlad

Possession
Waels successfully claim a line-out against Ireland

Ennill fu hanes Tîm o dan 18 Cymru yn eu gêm agoriadol yng Ngŵyl y Chwe Gwlad gan iddynt guro Iwerddon o 32-24 yn Vichy.

Y Gwyddelod ddechreuodd gryfaf wrth i Fionn Rowsome dirio o fewn dau funud i’r chwiban gyntaf – cyn i Gymru daro’n ôl yn gyflym o ganlyniad i geisiau Thomas Howe a Kai Jones.

Hawliodd Howe ei gais ef wedi i’r sgarmes symudol wneud ei gwaith yn effeithiol cyn i Jones fanteisio’n llwyr ar ryng-gipiad i redeg yn glir o dan y pyst.

‘Roedd anel Carwyn Leggat-Jones yn gywir wrth gicio hefyd gan iddo lwyddo gyda’r ddau drosiad a dwy gôl gosb wedi hynny hefyd – ‘roddodd fechgyn Richie Pugh ar y blaen o 20-7.

Fe daflodd y Gwyddelod bopeth at y Crysau Cochion ar ddechrau’r ail gyfnod ac fe gawsant eu gwobrwyo gyda dau gais.

Manteisiodd y bachwr Lee Fitzpatrick ar fwlch yn amddiffyn y Cymry i ddechrau ac fe droswyd y cais hwnnw gan y maswr Paul Neary.

Connor McVicker oedd y nesaf i droi ansicrwydd y Cymry i mewn i bwyntiau i Iwerddon. Y mewnwr oedd y cyntaf i ymateb i bêl rydd ac wedi iddo dirio – dim ond pwynt oedd yn gwahanu’r timau.

Rhaid canmol y ddau dîm am eu hathroniaeth ymosodol yn ystod yr ornest – a’r Cymry oedd y nesaf i hawlio cais.

Sylwodd Carter Pritchard ar fwlch o fôn y sgrym ac fe lwyddodd cryfder a chyflymdra’r mewnwr ei gario at linell gais y Gwyddelod o 20 metr.

Yn dilyn trydydd trosiad Leggat-Jones, ‘roedd Cymru ar y blaen o 27-19 wedi 48 munud o chwarae.

Er i rediad campus Frank Maher o 40 metr gau’r bwlch unwaith eto gyda phedwerydd cais Iwerddon, fe gostiodd cerdyn melyn hwyr Bobby Colbert yn ddrud i’r Gwyddelod.

Fe ddangosodd y Cymry ifanc aeddfedrwydd wrth barchu’r meddiant ac fe arweiniodd hynny at gais Brogan Leary yn y pendraw. Yn ogystal â selio’r fuddugoliaeth i’w dîm – fe amddifadodd Iwerddon o bwynt bonws hefyd.

Related Topics