News

Cyhoeddi Manylion Strategaeth Cymru’n Un

One Wales
04.02.23 - Wales v Ireland - Guinness Six Nations - Prematch pyrotechnics at Principality Stadium

Er mwyn rheoli corff chwaraeon hanesyddol mewn modd sy’n gydnaws â throsiant blynyddol o £100m a mwy’n flynyddol, mae URC wedi cyhoeddi rhaglen drawsnewidiol i’w strwythurau a’i gweithredoedd er mwyn cynnal a thyfu rygbi proffesiynol a chymunedol yng Nghymru.

Mae hynny’n cynnwys ail-edrych ar y staff, ein rhaglenni, ein mentrau a’n model ariannu’n ogystal, fel y gallwn weithredu egwyddorion ‘Cymru’n Un’ yn y modd mwyaf effeithlon ac effeithiol.

Mae tri newid pwysig pellach yn cael eu cyhoeddi heddiw hefyd – sef gyrru busnes gwell ac mae’r ddau newid arall yn cyfeirio at ddau o bileri penodol y strategaeth.

Gwell Busnes

Rhan allweddol o’r trawsnewidiad yma fydd gosod URC mewn sefyllfa ariannol cadarnhaol a chynaliadwy. Mae cyfanswm o £5m o arbedion wedi eu hadnabod ar draws yr holl fusnes.

O ganlyniad, bydd nifer o swyddi’n cael eu hail-strwythuro ac yn anffodus bydd hyd at 20 o swyddi o bosibl yn y fantol. Bydd URC yn dechrau cyfnod o drafod gyda’r rheiny all gael eu heffeithio mewn modd parchus a gofalgar.

Nid yw mwyafrif yr arbedion ariannol yn mynd i ddigwydd o ganlyniad i golli aelodau o staff ond yn hytrach drwy gynnal y busnes yn fwy effeithlon – fydd yn gosod Rygbi Cymru ar droed ariannol gadarn a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

CLICK HERE TO VIEW ONE WALES STRATEGY

Datblygu timau proffesiynol a rhyngwladol sy’n gystadleuol ac sy’n ysbrydoli

Bydd yr Adran Berfformiad yn cael ei hail-strwythuro er mwyn sicrhau cysondeb a chydweithio rhwng ein timau proffesiynol a rhyngwladol (yn unol ag egwyddorion y Cytundeb Rygbi Proffesiynol Newydd – PRA25). Bydd hyn yn cryfhau’n llwybrau datblygu yng ngêm y Merched a’r Dynion.

Ni fydd y ffaith bod yr Undeb wedi perchnogi Rygbi Caerdydd yr wythnos hon, wedi i’r clwb osod ei hun yn nwylo’r gweinyddwyr, yn gwyro ein cynlluniau na’n meddylfryd sy’n cael eu datgan yn ‘Cymru’n Un’. Mae Rygbi Caerdydd wastad wedi cyfrannu’n fawr at ein llwybrau datblygu chwaraewyr ac mae’r clwb yn parhau i fod yn allweddol i lwyddiant ein strategaeth newydd – ar y maes chwarae ac oddi-arno hefyd.

Dros y misoedd nesaf, byddwn yn chwilio am fuddsoddwyr newydd sydd â’u bryd ar sicrhau bod Caerdydd yn sefydlu eu hunain fel tîm ar y lefel uchaf unwaith eto.

Er mwyn cefnogi ein llwybrau datblygu ar gyfer y Dynion a’r Menywod, bydd cynnydd yn y ddarpariaeth addysgol ar gael – a bydd y system adnabod chwaraewyr a chefnogaeth bellach ar gael, yng Nghymru a thu hwnt, er mwyn gweithredu’r cynlluniau hyn yn effeithiol.

Un o’r newididau allweddol yn y cyd-destun hwn fydd sefydlu ‘Canolfan Rhagoriaeth’ fydd yn cynnwys staff arbenigol o’r Adran Berfformiad (e.e meddygol, cryfder a chyflyru, maeth, dadansoddi a hyfforddi). Bwriad penodol y datblygiad yma fydd cydweithio gyda’r pedwar clwb proffesiynol er mwyn adnabod talent a chyflwyno arferion da er mwyn diwallu’r targedau a’r amcanion perfformiad sy’n cael eu gosod yn ‘Cymru’n Un’.

Mae gwneud y gorau o’n hadnoddau gwerthfawr wrth galon y gweddnewidiad yma. EnghraiffT arall o hyn fydd sicrhau y bydd yr hyfforddwyr rhyngwladol yn rhannu eu hamser a’u harbenigedd gyda’r clybiau proffesiynol neu’r llwybrau datblygu – pan nad ydynt ar ddyletswydd gyda’r timau rhyngwladol.

Meithrin gêm gymunedol sy’n ffynnu ac yn gynaliadwy

Bydd y cynllun ‘Swyddogion Hwb’ presennol yn dod i ben – sy’n golygu bod ysgolion a sefydliadau addysgol eraill – sy’n cyfrannu hanner yr arian tuag at y cynllun hwn ar hyn o bryd – yn rhydd i ail-ystyried eu buddsoddiad yn y byd rygbi o ganlyniad.

Bydd yr Undeb yn buddsoddi ei harian mewn rhaglen newydd er mwyn cyrraedd holl ardaloedd Cymru. Er mwyn cyflawni hyn, bydd y Swyddogion presennol yn cael eu had-drefnu a bydd eu niferoedd yn cynyddu, er mwyn sicrhau bod gan bob un sefydliad addysgiadol a phob clwb cymunedol led-led ein gwlad, gyswllt personol yn ogystal â lefel mwy cyson o gefnogaeth.

Mae newidiadau arloesol eraill o safbwynt ariannu’r gêm gymunedol ar y gorwel hefyd – fydd yn gweld model cyllido newydd yn cael ei gyflwyno. Bydd hyn hefyd yn cynnig mwy o gefnogaeth i’r gêm ar lawr gwlad gan gydnabod llwyddiant ar y maes ac oddi-arno hefyd.

O ganlyniad i’r arbedion sydd wedi eu hadnabod gan URC, bydd yr Undeb mewn sefyllfa i gynyddu’r buddsoddiad yn ein clybiau cymunedol dros y pedair blynedd nesaf.

Wrth gyhoeddi’r strategaeth a’r newidiadau, dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney: “Bwriad popeth ‘ry’n ni’n ei wneud yw gwella’r ddarpariaeth rygbi i bawb yma yng Nghymru. Y llynedd fe gyhoeddon ni’n bwriadau a’n dyheadau am gyfnod o bum mlynedd a heddiw, rydym wedi gallu cadarnhau manylion pellach am sut ‘ry’n ni’n mynd i gyrraedd ein targedau.

“Efallai mai ym 1995 y trödd rygbi’n broffesiynol yn swyddogol – ond bydd 2025 yn cael ei chofio fel blwyddyn pan lwyddodd Undeb Rygbi Cymru i gwblhau’r trawsnewidiad hwn, i fod yn sefydliad addas a phroffesiynol i arwain ein gêm.

“Mae llwyddiant ein timau proffesiynol yn elfen allweddol o’n strategaeth. Ein bwriad yw ysbrydoli’n clybiau a’n timau rhyngwladol i fod yn wirioneddol gystadleuol – ac y bydd eu datblygiad a’u cynnydd yn gymorth i gynnal y gêm yn gyfangwbl yn ein gwlad.

“Wrth i ni gyflwyno newidiadau arloesol wrth ariannu’r gêm gymunedol, mae gennym gynlluniau uchegeisiol i geisio sicrhau bod pob un clwb ac ysgol yn cael eu cefnogi gan gynllun penodol ar gyfer y niferoedd sy’n chwarae’r gêm a chynnydd yn y buddsoddiad hwnnw hefyd.

“Mae gennym hanes balch ac anrhydeddus yma yng Nghymru a’n clybiau cymunedol sydd wrth galon ein gêm. Er mwyn parchu’r clybiau hynny a’n cefnogwyr mae’n rhaid i ni wireddu potensial ein camp ar bob lefel.

“Dyna’n union beth yw bwriad strategaeth ‘Cymru’n Un’.

“Er mwyn gallu buddsoddi yn yr agweddau a’r elfennau yr ydym wedi eu nodi, mae’n rhaid i ni dorri’r brethyn yn ariannol er mwyn gwireddu hynny. Dyna beth rydym yn ei gyhoeddi heddiw – sy’n cadarnhau buddsoddiad mewn agweddau penodol o’r gêm fydd yn cyfrannu at genedl rygbi fydd yn ffynnu’n y dyfodol. Fel y nodwyd eisoes, yn anffodus bydd nifer fechan o swyddi’n cael eu colli yn y broses hon.

“Byddwn yn trin yr unigolion hynny gyda gofal a pharch trwy gydol y broses ymgynghorol yma”

Related Topics