News

Cyhoeddi carfan o dan 18 Merched Cymru ar gyfer Gŵyl y Chwe Gwlad

Wales Women U18s
The Wales U18 Women's squad

Isla McMullen, sef un o saith o chwaraewyr gymrodd ran yn yr Ŵyl y llynedd, fydd yn arwain carfan o dan 18 oed Cymru yng Ngholeg Wellington.

Mae canolwr Coleg Gwent, sydd hefyd yn rhan o gynllun Canolfan Datblygu Chwaraewyr y Dwyrain, yn un o bedair gafodd y cyfle i ymarfer gyda phrif garfan Sean Lynn yn ddiweddar wrth baratoi ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025. Mae’r tair arall, sef Seren Lockwood, Shanelle Williams a Jorja Aiono, hefyd wedi eu cynnwys yn y garfan o 28 chwaraewr ar gyfer yr Ŵyl.

Evie Hill a Chiara Pearce fydd yr îs-gapteiniaid.

O dan arweiniad eu Prif Hyfforddwr Siwan Lillicrap, mae’r garfan wedi ennill eu dwy gêm baratoadol ar gyfer yr Ŵyl wrth guro’r Eidal a’r Alban ac fe gafodd cyfanswm o 37 o chwaraewyr y cyfle i arddangos eu doniau cyn i gyn-gapten Cymru benderfynu ar ei charfan derfynol.

Bydd ymgyrch Cymru yng Ngholeg Wellington yn dechrau gyda dwy ornest 35 munud o hyd yn erbyn Ffrainc a’r Alban ddydd Gwener yr 11eg o Ebrill – gyda’r un drefn yn cael ei hail-adrodd yn erbyn Lloegr a’r Eidal ar y dydd Mawrth canlynol. Yna ddydd Sul y 19eg, bydd y Cymry’n herio Iwerddon mewn gêm 70 munud o hyd.

Mae 19 aelod o’r garfan hon yn cael eu meithrin a’u datblygu yng Nghanolfan Datblygu Chwaraewyr y Dwyrain gan gynnwys 11 o gynrychiolwyr o Goleg Gwent. Mae pedair yn dod o’r Gogledd a phump o chwaraewyr yn cynrychioli’r Gorllewin. Mae Charlie Williams yn astudio yng Ngholeg Churcher yn Hampshire – a hi yw’r unig un sydd wedi ei dewis drwy’r cynllun alltudion.

Mae chwech o chwaraewyr sydd wedi eu magu yng Nghymru, ond sydd bellach yn chwarae eu rygbi yng Ngholeg Hartpury wedi eu cynnwys hefyd – gan gynnwys Taufa Tuipulotu, sy’n chwaer i brop y tîm rhyngwladol llawn, Sisilia.

Dywedodd Siwan Lillicrap: “Ry’n ni wedi paratoi’n dda ar gyfer yr Ŵyl gan ein bod wedi edrych ar lawer o ferched ac wedi rhoi’r cyfle iddyn nhw chwarae eu rhan yn erbyn Yr Eidal a’r Alban.

“Fe orffenon ni’r Ŵyl ym Mae Colwyn y llynedd gyda buddugoliaeth dda o 41-22 dros Yr Eidal. Fe lwyddon ni i guro’r Alban hefyd (12-0) a rhoi ychydig o fraw i Loegr (26-14) ond fe brofodd Iwerddon (14-5) a Ffrainc (31-12) ychydig yn rhy gryf i ni’n y pendraw.

“Rwy’n hapus iawn gyda’r dyfnder sydd gennym yn y garfan eleni, ac ‘rwy’n teimlo bod ein paratoadau wedi bod yn well y tro hyn. Y chwaraewyr eu hunain sy’n haeddu’r rhan fwyaf o’r clod am hynny ac mae pawb yn edrych ymlaen at yr Ŵyl.

“Mae’n rhaid i bawb sylweddoli y bydd safon y gemau cystadleuol hyn yn uwch na’r gemau paratoadol sydd newydd fod. Bydd y profiad o gymryd rhan yng Ngholeg Wellington yn werthfawr iawn yn ein datblygiad fel carfan – ac ‘ry’n ni gyd yn edrych ymlaen yn fawr at y gemau.”

Carfan Merched o dan 18 Cymru ar gyfer Gŵyl y Chwe Gwlad
Blaenwyr
Abigail Richards (Dat Gorll./ Coleg Sir Gâr), Amelia Bailey (Dat Dwyr./ Coleg Gwent), Cara Mercier (Dat Gog./ Coleg Llandrillo), Charlie Williams (Allt./ Coleg Churcher), Chiara Pearce (Dat Dwyr./ Coleg Gwent), Chloe Roblin (Dat Dwyr./ Coleg y Cymoedd), Ciara Taylor (Dat Gorll./ Coleg Llanymddyfri), Crystal James (Dat Dwyr./ Coleg Hartpury), Erin Jones (Dat Gorll./ Coleg Llanymddyfri), Evie Hill (Dat Dwyr./ Coleg Gwent), Georgia Morgan (Dat Dwyr./ Coleg Gwent), Izzy Jones (Dat Gog./ Coleg Llandrillo), Jorja Aiono (Dat Gorll./ Coleg Hartpury), Shanelle Williams (Dat Dwyr./ Coleg Hartpury), Taufa Tuipulotu (Dat Dwyr./ Coleg Hartpury), Tegan Bendall (Dat Dwyr./ Coleg Gwent),
Olwyr
Beatrice Morgan (Dat Gorll./ Coleg Llanymddyfri), Ffion Williams (Dat. Gog/ Coleg Hartpury), Isla McMullen (Dat Dwyr./ Coleg Gwent), Kacey Morkot (Dat Dwyr./ Coleg Gwent), Katie Johnson (Dat Dwyr./ Coleg Gwent), Lily Foscolo (Dat Dwyr./ Coleg y Cymoedd), Lily Hawkins (Dat Dwyr./ Coleg Gwent), Megan Jones (Dat Dwyr./ Coleg y Cymoedd), Megan Thomas (Dat Dwyr./ Coleg Gwent), Saran Jones (Dat Gog./ Coleg Llandrillo), Seren Lockwood (Dat Dwyr./ Coleg Hartpury), Sienna McCormack (Dat Dwyr./ Coleg Gwent)

 

Related Topics