News

Cyhoeddi carfan o dan 18 Cymru ar gyfer Gŵyl y Chwe Gwlad 

Wales U18
Rhestr o dîm dan 18 Cymru yn ystod yr anthemau yn y gêm yn yr Eidal yr wythnos ddiwethaf

Mae Richie Pugh wedi dewis carfan o 26 i wynebu Iwerddon, Georgia a’r Eidal yn yr Ŵyl fydd yn cael ei chynnal yn Vichy, Ffrainc. 

Gêm gyntaf y Cymry ifanc fydd honno yn erbyn y Gwyddelod, lwyddodd i guro Lloegr o 18-17 mewn gornest baratoadol yr wythnos ddiwethaf. Roedd Iwerddon ar ei hôl hi o 17-0 ar yr egwyl cyn iddyn nhw daro’n ôl yn yr ail gyfnod i gipio’r fuddugoliaeth. 

Georgia fydd ail wrthwynebwyr bechgyn Richie Pugh. Fe gystadlon nhw yn yr Ŵyl am y tro cyntaf erioed y llynedd,ac fe lwyddon nhw i guro Ffrainc – oedd yn dipyn o orchest ac yn dipyn o ganlyniad ar y pryd. Er colli yn erbyn Yr Eidal yn y gystadleuaeth y llynedd, llwyddwyd i dalu’r pwyth o 15-7 mewn tywdd ofnadwy’n L’Aquila’r penwythnos diwethaf. 

Bydd y Cymry’n cyrraedd Ffrainc wedi eu buddugoliaeth nhw yn erbyn Yr Alban ac mae’r garfan derfynol yn cynnwys wyth chwaraewr o Gaerdydd, saith o’r Dreigiau, chwech o alltudion, tri o’r Scarlets a dau o Academi’r Gweilch – enillodd Bencampwriaeth o dan 18 oed yr Academïau’n ddiweddar. 

Dywedodd Prif Hyfforddwr Tîm o dan 18 Cymru, Richie Pugh: “Er ein bod wedi gorfod gwneud nifer o benderfyniadau anodd cyn dewis y garfan derfynol – ‘ry’n ni’n hapus gyda’n dewisiadau ac hefyd gyda safon y garfan wrth gwrs. 

“Mae’n amser i’r rhai sydd wedi cael eu dewis ar sail eu perfformiadau yn y ddwy gêm baratoadol – i ddangos eu doniau mewn cystadleuaeth. 

“Mae chwarae rygbi ar y llwyfan rhyngwladol yn brofiad newydd sbon i’r mwyafrif llethol o’r bechgyn yma – ac mae’r Ŵyl yn ffordd arbennig o dda i’w cyflwyno nhw i’r gofynion sy’n ddisgwyliedig ar y lefel yma. 

“Rwy’n falch iawn bod y garfan yma’n dysgu’n gyflym a bydd angen i ni berfformio’n dda yn erbyn y Gwyddelod yn ein gêm gyntaf. 

“Maen nhw wastad yn dîm ffit a dawnus ar y lefel yma ac felly mae’r ffaith eu bod nhw newydd guro Lloegr yn golygu y bydd ei gêm agoriadol yn cynnig her a hanner i ni. 

“Bydd Georgia’n heriol hefyd – gan iddyn nhw guro Ffrainc a bron â maeddu Lloegr y llynedd. Maen nhw’n dîm arbennig o gorfforol – fydd yn cynnig sialens arall i ni fel carfan. 

“Bydd hi’n braf wynebu’r Eidal unwaith eto’n ein trydedd gêm. Felly tair gornest galed fydd yn dysgu llawer i ni fel carfan. 

“Mae gennym lawer iawn o addewid yn y grŵp yma o chwaraewyr a bydd yr Ŵyl yn arbennig o werthfawr i ni o safbwynt wynebu heriau amrywiol a steil gwahanol o chwarae.” 

Cerrig Smith o’r Dreigiau fydd yn arwain y garfan i Ffrainc, tra bydd maswr Coleg Llanymddyfri a’r Scarlets, Carwyn Leggatt-Jones yn profi’r Ŵyl am yr eildro. 

Y flwyddyn ddiwethaf fe gollodd y Cymry o 36-35 yn erbyn Lloegr cyn curo Portiwgal o 35-10. Colled o 43-33 yn erbyn Ffrainc oedd eu canlyniad olaf yng nghystadleuaeth y llynedd.

CARFAN CYMRU AR GYFER GŴYL Y CHWE GWLAD 2025
Blaenwyr (14)
Dylan Barratt (Caerdydd), Morgan Crew (Academi Sir Efrog), Tiehi Chatham (Dreigiau), Nathan Davies (Scarlets), Tiaan Hall (Dreigiau), Tom Howe (Caerdydd), Kai Jones (Scarlets), George Leyland (Bryste), Jayden Maybank (Gweilch), Alfie Prygodzicz (Caerdydd), Cerrig Smith (Dreigiau, capten), Gabe Williams (Caerdydd), Noah Williams (Bryste), Osian Williams (Bryste)
Olwyr (12)
Rhys Cole (Dreigiau), Ben Coomer (Caerdydd), Rhys Cummings (Caerdydd), Bailey Cutts (Caerdydd), Jack Harrison (Caerfaddon), Jack Hoskins (Gweilch), Carwyn Leggatt-Jones (Scarlets), Brogan Leary (Dreigiau), Lloyd Lucas (Caerdydd), Noah Morgan (Dreigiau), Carter Pritchard (Dreigiau), Luca Woodyatt (Caerloyw). 

 

Related Topics