News

Record o dorf ond buddugoliaeth swmpus i'r Saeson

Keira Bevan
Keira Bevan yn bylchu

Er i record o dorf heidio i’r Brifddinas, colli o 67-12 wnaeth Cymru’n erbyn tîm gorau’r byd.

Dyma oedd y tro cyntaf erioed i Loegr herio’r Cymry yn Stadiwm Principality ond doedd ennill gêm arall ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness ddim yn brofiad newydd i’r Saeson – gan mai hon oedd buddugoliaeth rhif 31 yn olynol iddyn nhw’n y gystadleuaeth.

Yn dilyn eu buddugoliaeth o 38-5 yn erbyn Yr Eidal ar y penwythnos agoriadol – maen nhw bellach wedi ennill eu dwy gêm agoriadol yn y Chwe Gwlad eleni wrth iddyn nhw gynyddu eu momentwm cyn cynnal Cwpan y Byd ar eu tomen eu hunain yn ddiweddarach eleni.

Daeth 21,186 o bobl i wylio’r ornest yn Stadiwm Principality – record o dorf mewn unrhyw gamp ar gyfer unrhyw ddigwyddiad chwaraeon penodol i fenywod Cymru yn ein gwlad.

Gan bod Lloegr wedi ennill y Bencampwriaeth am y chwe blynedd diwethaf, ‘roedd llawer o bobl yn disgwyl i’r ymwelwyr reoli’r chwarae o’r dechrau’n deg – ond y Cymry gafodd yr oruchafiaeth gynnar yn y gêm.

Wedi ton ar ôl ton o bwyso – fe groesodd y prop Jenni Scoble am sgôr cynta’r gêm wedi 5 munud o chwarae.

Cais cyntaf Scoble dros ei gwlad, ddiwrnod wedi iddi ddathu ei phen-blwydd yn 32 oed. Yn dilyn trosiad Keira Bevan, ‘roedd hi’n 7-0.

Ysgosgi’r ymwelwyr i ddeffro wnaeth hynny – ac o fewn chwarter awr i fynd ar ei hôl hi – ‘roedd Lloegr wedi tirio’u tri chais cyntaf o’r 11 sgorion nhw yn Stadiwm Principality’r prynhawn yma.

Maddie Feaunati’r wythwr groesodd gyntaf cyn i Megan Jones, dderbyniodd ei haddysg yn Ysgol Glantaf, ddawnsio heibio amddiffyn Cymru o’r llinell hanner i dirio’r ail. Wrth i chwarter agoriadol yr ornest ddirwyn i ben, tro Sarah Bern oedd hi i groesi’r gwyngalch – 24ain cais y prop dros ei gwlad.

Gyda chwarter awr o’r hanner cyntaf ar ôl, ‘roedd Lloegr wedi pocedu eu hail bwynt bonws o’r Bencampwriaeth wrth i Feaunati hawlio ei hail gais o’r ornest.

Er i’r Cymry fwynhau 55% o’r meddiant yn ystod y cyfnod agoriadol – Lloegr reolodd y sgorfwrdd  o ganlyniad i’w chwarae clinigol ac effeithiol, olygodd bod ganddynt fantais o 19 pwynt wrth droi.

Camodd y ddeuawd rheng flaen, Donna Rose a Kelsey Jones o’r fainc dros Gymru wedi’r egwyl er mwyn ceisio newid cyfeiriad yr ornest – ond wedi 7 munud o’r ail hanner – fe sgoriodd chwaraewr swyddogol gorau’r byd, Ellie Kildunne – y cyntaf o’i thri chais – mewn cyfnod o dim ond chwe munud – a hynny ar achlysur ei 50fed cap dros ei gwlad.

Fe fanteisiodd y cefnwr ar ddwylo chwim ei chyd-olwyr cyn tirio am ei hail gais yn y gornel – ac er i’r Cymry gredu bod pas wedi mynd ymlaen wrth arwain at ei thrydydd sgôr – fe ganiataodd Clara Munarini’r cais wedi adolygiad ar y sgrîn fawr.

Er bod y fuddugoliaeth ymhell o’u gafael – fe ddangosodd y Cymry wir ddycnwch a chalon – ac wrth i’r cloc ddynesu at awr o chwarae – fe grëodd Carys Cox gais i’r blaen-asgellwr Kate Williams a bu bron i gefnogwyr Cymru godi to caëdig Stadiwm Principality.

Byddai’r cefnogwyr Cymreig hyd yn oed wedi gwerthfawrogi 8fed cais Lloegr o’r prynhawn gydag 13 munud yn weddill – gan i gic letraws berffaith Zoe Harrison lanio yng nghôl Abby Dow – a gwaith cymharol hawdd oedd gan yr asgellwr wedi hynny i ddod o hyd i’r llinell gais.

Dywedwyd wrth Abi Burton, wedi cyfnod hir yn yr ysbyty  – efallai na fyddai’n cerdded eto – ond gydag 8 munud yn weddill fe wireddodd yr eilydd ei breuddwyd wrth sgorio cais ar achlysur ei chap cyntaf dros ei gwlad.

‘Roedd gan yr ymwelwyr ddigon o amser cyn y chwiban olaf i groesi am ddau gais arall ac Abby Dow ac Abi Burton hawliodd y rheiny – y ddwy’n tirio am yr eildro o’r ornest gan fanteisio ar amddiffyn blinedig y Cymry.

Buddugoliaeth swmpus i’r Saeson ar ddiwrnod nodedig i rygbi Menywod yng Nghymru o flaen record o dorf.

Wedi’r chwiban olaf dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru Sean Lynn: “ I ddechrau – am achlysur i rygbi Menywod Cymru – record o dorf a dechrau addawol iawn.

“Mae’n rhaid i ni gofio mai Lloegr yw tîm gorau’r byd – ac er i ni flino yn yr 20 munud olaf – rwyf yn arbennig o falch o agwedd y garfan.

“Mae gennym dair gêm ar ôl – ac fe fyddwn yn gwella ac yn dal i dyfu gyda’n gilydd fel carfan.”

Ychwanegodd Megan Jones, gafodd ei magu yng Nghaerdydd ond gynrychiolodd y Saeson heddiw: “Roedd heddiw’n ddiwrnod emosiynol i mi – teimladau cymysg iawn. Ond dwi’n hapus iawn gyda’n perfformiad ni a’r canlyniad heddiw hefyd.

“Mi fyddai fy nhad wedi cyrraedd adref cyn y chwiblan olaf gan ei fod eisiau osgoi’r torfeydd yn gadael a gan ei fod yn byw mor agos!”

Related Topics