News

Pugh yn pwyso a mesur cyn gwneud wyth newid i herio’r Eidal

Wales U18
Cymru dan 18 yn hyfforddi yn Ysgol Cwm Brombil, Port Talbot

Mae Richie Pugh wedi gwneud llu o newidiadau i dîm o dan 18 Cymru ar gyfer eu gêm baratoadol olaf cyn Gŵyl y Chwe Gwlad yn Ffrainc fis nesaf.

Ddydd Sadwrn y 29ain o Fawrth bydd carfan estynedig Pugh yn herio’r Eidal yn L’Aquila cyn troi eu golygon at yr Ŵyl yn Vichy ymhen rhai wythnosau.

Llwyddodd y Cymry ifanc i drechu’r Alban o 33-17 yn Newcastle yr wythnos ddiwethaf ond mae Richie Pugh wedi gwneud wyth newid i’r tîm hwnnw sy’n cynnwys un newid o ran safle.

Dyma fydd y cyfle olaf i’r holl chwaraewyr i geisio hawlio’u lle yn y garfan derfynol ar gyfer Gŵyl y Chwe Gwlad.

Dywedodd Richie Pugh, Prif Hyfforddwr Tîm o Dan 18 Cymru: “Ry’n ni’n cymryd carfan ychydig yn fwy o ran nifer i’r Eidal fel y gallwn edrych ar ambell gyfuniad gwahanol. Mae’r ffaith bod ambell un o’r bois yn gwella o anafiadau hefyd wedi gwneud y penderfyniad o deithio gyda 26 o chwaraewyr yn fwy synhwyrol hefyd.

“Fel yr wythnos ddiwethaf yn Newcastle – bydd y bechgyn yn ennill capiau yn y gêm yn L’Aquila. ‘Roedd curo’r Alban yn fan cychwyn da i ni fel carfan wrth i ni edrych ymlaen at Ŵyl y Chwe Gwlad.

“Ro’n i’n falch iawn gyda nifer fawr o elfennau’n chwarae ni’r wythnos ddiwethaf – ond fe wnaethon ni ildio tri chais wrth fethu ag atal hyrddiadau’r Albanwyr o leiniau dwfn yn ein hanner ni.

“Yn naturiol felly, ‘ry’n ni wedi gweithio’n arbennig o galed yr wythnos hon ar hynny – gan y bydd yn rhaid i ni wella’n perfformiad yn L’Aquila.

“Mae’r Eidal yn draddodiadol yn gryf iawn ar y lefel oedran yma. Yn gryf o ran safon a pha mor gorfforol y’n nhw ar y cae hefyd. ‘Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at eu herio ddydd Sadwrn.”

Mae Rhys Cummings, sgoriodd ddau gais o’r asgell yn Newcastle wedi ei ddewis yn gefnwr y penwythnos hwn. Bydd partneriaeth Jack Harrison a Jack Hoskins yn parhau yng nghanol cae a Carwyn Leggatt-Jones fydd y maswr unwaith eto.

Pedwar aelod o’r pac sydd wedi llwyddo i gadw’u llefydd yn y pymtheg cychwynnol. Y rheiny yw’r prop pen tynn Jayden Maybank, y clo Kai Jones ac Alfie Prygodzicz a’r capten Cerrig Smith yn y rheng ôl.

Ar ôl cael eu dewis ar y fainc wythnos yn ôl mae’r bachwr Logan Lloyd, y clo Gabe Williams, y blaen-asgellwr Tiehi Chatham, y mewnwr Luca Woodyatt a’r asgellwr Brogan Leary yn cael y cyfle i ddechrau’r wythnos hon.

O ganlyniad i hynny, dechrau’r gêm yn L’Aquila ar y fainc fydd yr asgellwr Rhys Cole, y mewnwr Carter Pritchard, y prop Dylan Barratt, y clo Osian Williams a’r blaen-asgellwr Morgan Crew.

Er nad oedd yr asgellwr Noah Morgan a phrop Bryste George Neyland yn rhan o garfan diwrnod y gêm yn Newcastle – bydd y ddau yn dechrau’n Yr Eidal y penwythnos yma. Bu Leyland yn aelod o garfan ddatlbygu o dan 18 Lloegr tan yn ddiweddar iawn.

Mae Noah Williams, Tiian Hall, Nathan Davies a Bailey Cutts wedi eu dewis i gynnig opsiynau o’r fainc i Richie Pugh a’i dîm hyfforddi.

Bydd yr ornest yn Stadiwm Tommaso Fattori yn L’Aquila yn dechrau am 1.15pm ddydd Sadwrn a bydd hi’n cael ei ffrydio ar: Rugby L’Aquila Facebook a Rugby L’Aquila Youtube

Cymru D18: Rhys Cummings (Caerdydd); Noah Morgan (Dreigiau), Jack Harrison (Caerfaddon), Jack Hoskins (Gweilch), Brogan Leary (Dreigiau), Carwyn Leggatt-Jones (Scarlets), Luca Woodyatt (Caerloyw); George Leyland (Bryste), Logan Lloyd (Gweilch), Jayden Maybank (Gweilch), Kai Jones (Scarlets), Gabe Williams (Caerdydd), Tiehi Chatham (Dreigiau), Alfie Prygodzicz (Caerdydd), Cerrig Smith (Dreigiau, capten)

Eilyddion: Tiian Hall (Dreigiau), Dylan Barratt (Caerdydd), Nathan Davies (Scarlets), Osian Williams (Bryste), Morgan Crew (Swydd Efrog), Carter Pritchard (Dreigiau), Lloyd Lucas (Caerdydd), Rhys Cole (Dreigiau), Ben Coomer (Caerdydd), Bailey Cutts (Caerdydd), Noah Williams (Bryste).

 

Related Topics