News

Lynn yn enwi ei dîm ar gyfer her hanesyddol yn erbyn yr Hen Elyn

Gwenllian Pyrs
Gwenllian Pyrs yn dychwelyd i'r llinell gychwynnol i Gymru

Mae Prif Hyfforddwr Cymru Sean Lynn, wedi enwi ei dîm i wynebu Lloegr o flaen record o dorf yn Stadiwm Principality yn eu gêm hanesyddol ddydd Sadwrn y 29ain o Fawrth am 4.45pm.

Mae dros 18,000 o docynnau eisoes wedi eu gwerthu – sy’n record o dorf ar gyfer unrhyw ddigwyddiad chwaraeon penodol ar gyfer menywod yma yng Nghymru.

Ein tîm pêl-droed cenedlaethol oedd yn dal yr hen record ar gyfer digwyddiad chwaraeon o’r math hwn ar gyfer merched a menywod – pan welwyd torf o 16,845 yn mynychu Gêm Ail Gyfle ar gyfer Pencampwriaethau Ewrop yn Stadiwm Dinas Caerdydd fis Rhagfyr y llynedd.

10,592 oedd record flaenorol tîm Menywod Rygbi Cymru a hynny yng ngêm olaf y Crysau Cochion yn y Bencampwriaeth y llynedd pan drechwyd Yr Eidal yn Stadiwm Principality.

Mae tocynnau’n dal ar werth ar gyfer ymweliad tîm cryfaf rygbi’r byd yng nghamp y menywod ddydd Sadwrn a gallwch fod yn sicr o chwarae’ch rhan ar ddiwrnod hanesyddol wrth eu prynu yma: wru.wales/tickets

Y canolwr Hannah Jones fydd yn arwain y tîm unwaith eto a’i hîs-gapten fydd y mewnwr Keira Bevan unwaith yn rhagor.

Mae Sean Lynn wedi gwneud dau newid i’r tîm ddechreuodd y gêm yn Yr Alban y penwythnos diwethaf wrth iddo alw ar wasanaeth y prop Gwenllïan Pyrs a’r clo Gwen Crabb  o’r cychwyn cyntaf.

Bydd Pyrs yn ymuno â’r bachwr Carys Phillips a’r prop arall Jenni Scoble yn y rheng flaen. Dyma fydd ond yr ail gêm i Scoble ddechrau dros ei gwlad.

Bydd Crabb yn ymuno ag Abbie Fleming yn yr ail reng – tra bydd y rheng ôl yn aros yr un fath – gyda Kate Williams, Bethan Lewis a’r wythwr Georgia Evans wedi eu dewis unwaith eto.

Parhau fydd partneriaeth Bevan a Lleucu George fel haneri yn ogystal. Felly hefyd Jones a Kayleigh Powell yn y canol.

Bydd cysondeb yn y tri ôl hefyd wrth i’r cefnwr Jasmine Joyce a’r asgellwyr Lisa Neumann a Carys Cox gael cyfle arall i arddangos eu doniau.

Nid oedd modd i Sean Lynn ystyried Alex Callender (anaf i’w throed) nac Alisha Butchers (firws) ar gyfer y gêm yn erbyn Lloegr.

 Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru Sean Lynn : “Mae’r ffaith bod cymaint o deulu rygbi Cymru’n dod i ddangos eu cefnogaeth i’r garfan ddydd Sadwrn yn gyffrous ac yn ein gwneud yn ddiolchgar a gwylaidd iawn hefyd.

“Fe gymron ni’n camau cyntaf fel carfan newydd yn erbyn Yr Alban y penwythnos diwethaf ac mae’r bennod nesaf yn ein taith gyda’n gilydd – sef wynebu Lloegr yn Stadiwm Principality am y tro cyntaf yn ein hanes, a hynny o flaen record o dorf – yn tynnu dŵr i’r dannedd.

“Mae hynny hefyd yn dangos faint o dwf sydd wedi bod yng nghamp y menywod yma yng Nghymru’n ddiweddar.

“Mae’n tîm hyfforddi wedi dweud wrth y garfan i fod yn ddewr yn erbyn y Saeson – ac i gredu yn eu gallu eu hunain. Mae llawer o’n carfan yn chwarae eu rygbi dros y bont ac felly’n gwybod yn iawn beth i’w ddisgwyl gan y crysau gwynion ddydd Sadwrn.

“Ry’n ni’n gwybod beth yw cryfderau niferus tîm Lloegr – ond mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar ein cryfderau ni, ar ein maes ni, yn ein Prifddinas ni.

“Lloegr yw’r tîm gorau’n y byd ar hyn o bryd a ffefrynnau llawer i gipio’r Gamp Lawn eleni a Chwpan y Byd yn ddiweddarach yn y flwyddyn hefyd. Ond nid ein bwriad ni yw camu’n ôl o’r her sylweddol sy’n ein wynebu ddydd Sadwrn ond yn hytrach bwydo oddi-ar hynny a phrofi’n hunain i’r eithaf o flaen ein torf angerddol a mwyaf swmpus erioed.”

Cymru (v Lloegr)

Jasmine Joyce (Bryste), Lisa Neumann (Harlequins), Hannah Jones (Capten, Hartpury/Caerloyw), Kayleigh Powell (Harlequins), Carys Cox (Ealing), Lleucu George (Hartpury/Caerloyw), Keira Bevan (Îs-gapten, Bryste); Gwenllïan Pyrs (Sale), Carys Phillips (Harlequins), Jenni Scoble (Gwalia Lightning), Abbie Fleming (Harlequins), Gwen Crabb (Hartpury/Caerloyw), Kate Williams (Hartpury/Caerloyw), Bethan Lewis (Hartpury/Caerloyw), Georgia Evans (Saraseniaid).

Eilyddion: Kelsey Jones (Hartpury/Caerloyw), Maisie Davies (Gwalia Lightning), Donna Rose (Saraseniaid), Alaw Pyrs (Gwalia Lightning), Bryonie King (Gwalia Lightning), Meg Davies (Hartpury/Caerloyw), Courtney Keight (Bryste), Nel Metcalfe (Hartpury/Caerloyw).

Related Topics