News

Dau benodiad i gwblhau aelodaeth Pwyllgor Menywod Undeb Rygbi Cymru

New Wales Women’s Rugby Committee members Vicki Sutton and Florence Williams
Aelodau newydd o Bwyllgor Rygbi Merched Cymru Vicki Sutton a Florence Williams

Mae Undeb Rygbi Cymru’n falch o gyhoeddi bod Florence Williams (Cyn-chwaraewr Cymru a Chyfarwyddwr Chwaraeon Menywod gydag asiantaeth farchnata MATTA) a Vicki Sutton (Cyn-Brif Weithredwr Pêl-rwyd Cymru) wedi ymuno â Phwyllgor Rygbi Menywod Undeb Rygbi Cymru.

Daw’r ddwy ag ystod eang iawn o brofiad a gwybodaeth am chwaraeon merched a menywod gyda nhw a byddant yn chwarae rhan allweddol wrth i’r Undeb siapio rygbi yma yng Nghymru.

Sefydlwyd y pwyllgor penodol hwn fel rhan allweddol o strategaeth newydd URC, ‘Cymru’n Un’ a’i fwriad yw cyflymu a datblygu rygbi merched a menywod – gan ei wneud yn llawer mwy gweladwy ac amlwg hefyd.

Mae’r Pwyllgor yn canolbwyntio ar arwain newidiadau gwirioneddol a chadarnhaol ar y meysydd rygbi – ac oddi-arnynt hefyd. Bydd gan y Pwyllgor hefyd gyfrifoldeb i hyrwyddo marchnata a chyfathrebu’r gamp – gan greu manteision a chyfleoedd masnachol newydd yn unol â nodau Undeb Rygbi Cymru, ar gyfer Cwpan y Byd eleni a’r gystadleuaeth yn 2029 hefyd.

Yn ogystal â chynrychioli Cymru, bu Williams yn gyn-faswr gyda’r Saraseniaid ac ers iddi orffen chwarae mae hi wedi trwytho ei hun ym maes anghenion a dyheadau chwaraewyr benywaidd.

Bydd y profiadau hynny’n hynod werthfawr wrth lunio strategaeth ar gyfer parhau’r twf yng nghamp y merched a’r menywod yma yng Nghymru.
Dywedodd Florence Williams: “Fel gwir gefnogwr Rygbi Cymru erioed, cynrychioli fy ngwlad oedd uchafbwynt fy nghyrfa heb os.

“Pan gododd y cyfle yma i gyfrannu at y gamp mewn ffordd arall – ‘roeddwn yn awyddus iawn i wneud hynny.

“Mae cael Bwrdd penodol i ganolbwyntio’n llwyr ar gêm y merched a’r menywod yn anhygoel a’n nod ni wrth gwrs yw datblygu hyn ymhellach. Dylai’r gamp gael ei gweld fel rhywbeth addas sydd ar gael i holl ferched a menywod Cymru – boed hynny ar gyfer chwaraewyr neu gefnogwyr. Mae hyn yn arbennig o wir am genhedlaeth Gen Z sydd yn canolbwyntio ar gampau benywaidd.

“Wrth i broffil ein camp gynyddu, bydd ein chwaraewyr yn dod yn fwy adnabyddus i’r cyhoedd a bydd hynny’n codi’r diddordeb yn yr unigolion hynny ac yn y gamp ymhellach hefyd.

“Fel tîm y dynion dros y blynyddoedd, bydd carfan Menywod Cymru yn haeddu cael eu hadnabod a’u cydnabod fel personoliaethau amlwg ym myd y campau.

“Mae’r niferoedd sy’n gwylio Rygbi Menywod dros y blynyddoedd diwethaf wedi cynyddu’n sylweddol ac ‘rwy’n gwbl bendnat mai codi i’r entrychion fydd hynny yn y dyfodol agos. Fe gaiff hynny effaith sylweddol iawn ar ddenu mwy o chwaraewyr a chefnogwyr atom ni.”

Mae gan Vicki Sutton brofiad helaeth o’r byd busnes, llywodraethiant a datblygu strategol o fewn maes chwaraeon menywod yn benodol.

Bydd ei phrofiad ymarferol a’i hangerdd yn sicr o ddylanwadu’r ffafriol ar y Pwyllgor Rygbi Menywod. Mae hi wedi ymroi ers blynyddoedd lawer i greu mwy a gwell cyfleoedd i fenywod o fewn y byd chwaraeon – sy’n ei gwneud hi’n aelod allweddol ac addas o’r pwyllgor wrth i’r Undeb weithredu egwyddorion cadarnhaol y strategaeth newydd.

Dywedodd Vicki Sutton: “Rwyf wedi gweithio am fwyafrif fy nghyrfa ym myd y campau ac mae cael y cyfle dylanwadol hwn ar gyfnod mor bwysig yn hanes Rygbi Menywod yn arbennig o gyffrous. Mae eleni’n allweddol yn y datblygiad yma – gyda’r Chwe Gwlad ar fin dechrau – cyn i Gwpan y Byd ddigwydd yn Lloegr yn ddiweddarach eleni.

“Bydd Cwpan y Byd yn gyfle gwych i ddenu mwy i wylio a chwarae rygbi neu i ysbrydoli eraill i gyfrannu at y gamp mewn ffyrdd gwahanol hefyd. Fe all hyn gyfrannu’n fawr at sicrhau twf a llwyddiant hirdymor i rygbi yma yng Nghymru.

“Mae’n rhaid i ni fod yn barod i gymryd mantais o’r diddordeb newydd yma, ddaw yn sgîl Cwpan y Byd – ac ‘rwy’n siwr y byddwn ni.”

Mae Pwyllgor Rygbi Menywod Undeb Rygbi Cymru’n cael ei gadeirio gan y Cyfarwyddwr Annibynnol Anweithredol, Amanda Bennett. Ynghŷd â’r ddau aelod newydd – aelodau eraill y pwyllgor yw Malcolm Wall, Claire Donovan a Chris Jones a byddant yn cydweithio gyda Phennaeth Rygbi Menywod Cymru, Belinda Moore – er mwyn datblygu rygbi ymhellach ar bob lefel yma yng Nghymru.

Ychwanegodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney: “Mae sicrhau gwasanaeth dwy mor dalentog ac uchel eu parch i’n Pwyllgor yn gam allweddol arall.

“Mae eu profiad a’u hymrwymiad di-flino i hyrwyddo chwaraeon merched a menywod yn mynd i fod yn arbennig o werthfawr wrth i ni barhau i sicrhau datblygiad a thwf pellach yn ein camp.

“Gyda Chwpan y Byd ar y gorwel, a’r cyfleoedd ddaw yn sgîl hynny, mae’n allweddol bwysig bod URC yn parhau i fuddsoddi ar bob lefel o gamp y merched a’r menywod yma yng Nghymru – boed hynny ar lawr gwlad neu ar y llwyfan rhyngwladol.

“Rwy’n gwbl argyhoeddedig y bydd doniau arweinyddol Flo a Vicki yn y maes hwn yn allweddol i ni sicrhau’r llwyddiant ‘ry’n ni gyd yn ei chwilio amdano o Fôn i Fynwy.

“Bydd y Pwyllgor yn gwbl greiddiol wrth i ni baratoi ar gyfer Cwpan y Byd ac wrth geisio gwireddu’n dyheadau tymor hir – sy’n cynnwys y gystadleuaeth yn 2029 hefyd wrth gwrs.

“Mae’r ffaith bod dwy mor ddawnus a dylanwadol â Flo Williams a Vicki Sutton yn rhan o’n tîm ni bellach yn hwb sylweddol wrth i ni geisio gwireddu’n gweledigaeth ar gyfer rygbi merched a menywod yma yng Nghymru.”

Related Topics