Wedi’r boen o golli o 85-14 yn erbyn Ystum Taf yn Stadiwm Principality’r llynedd fe gafodd Blaendulais eu hawr fawr eleni wrth drechu Clwb Rygbi Cymry Caerdydd o 25-15 yn Rownd Derfynol y Plat.
O dan arweiniad eu capten Bethan Howell, fe agorodd y tîm o’r gorllwein fwlch o 12 pwynt yn gynnar o ganlyniad i ddau gais Seren y Gêm, Mel Gnojek o fewn cyfnod o 5 munud, a throsiad Rachel Rees o’r ail gais hwnnw.
Er i brop y Prifddinasyddion, Nia Jones hyrddio ei hun dros y llinell gais i gau’r bwch ar yr egwyl i 7 pwynt yn unig, Blaendulais ddechreuodd yr ail gyfnod gryfaf gan i’r wythwr Alicia Demery-Goatson hawlio trydydd cais ei thîm.
Ond doedd Clwb Rygbi Cymry Caerdydd ddim am roi’r gorau i’w gobeithion yn hawdd ac fe roddodd gais Katie Heir obaith iddyn nhw unwaith yn rhagor.
Gan bod y gêm mor dynn, cymryd y triphwynt oedd ar gael iddynt gydag ychydig dros chwarter awr ar ôl wnaeth Blaendulais – gan agor y bwlch i 10 pwynt.
Sicrhawyd y fuddugoliaeth pan groesodd Bethan Howell yn hwyr. Eiliad fythgofiadwy i gyn-chwaraewr Cymru a chapten Blaendulais.
Er i gais yr eilydd Niah Orlandea barchuso’r sgôr yn symudiad ola’r rownd derfynol – Howell a’i thîm hawliodd y Plat.
ROWND DERFYNOL PLAT Y MENYWOD
Blaendulais: Cerys Bowden; Caitlin Moffatt, Holly Cooper, Jami Davies, Joy Hall; Rachel Rees, Hannah-Mâi Jones; Emma Powson, Kirsten Flower, Bethan Howell, Jenny Adams, Seren O’Neill, Leah Griffiths, Melissa Gnojek, Alicia Demery-Goatson
Eilyddion: Nia Williams, Heledd Lewis, Shae Wallis, Emily Preedy, Victoria Morgan, Jenna Dyckhoff, Jessica Thomas, Caris Llewelyn
Clwb Rygbi Cymry Caerdydd: Mirain Jones; Lydia Marsh, Georigia Liddington, Rhi Gower, Molly Webster; Sophie Longland, Alaw Hughes; Meleri Daniel, Elin Davies, Nia Jones, Anwen Hopkins, Laura Satterly, Maddie Rees, Carys Parry, Georgia Cummings
Eilyddion: Beth Jones, Katie Heir, Sarah Turner, Jude Dowers, Georgina Wren, Zoe Tudor, Niah Orlandea, Catrin Jones
SEREN Y GÊM (GO.COMPARE) – MEL GNOJEK (Blaendulais)
