News

Cais hwyr King yn goron ar brynhawn Gwalia

Bryonie King

Cais y capten Bryonie King yn amser yr amen gipiodd y fuddugoliaeth o 31-26 i Gwalia Lightning yn erbyn Glasgow yn Ystrad Mynach. Hon oedd y drydedd fuddugoliaeth mewn pedair gêm i garfan Catrina Nicholas-McLaughlin yn yr Her Geltaidd ac o’r herwydd maent wedi codi i’r trydydd safle’n y tabl. Fe gafodd y tîm cartref […]

Cais y capten Bryonie King yn amser yr amen gipiodd y fuddugoliaeth o 31-26 i Gwalia Lightning yn erbyn Glasgow yn Ystrad Mynach.

Hon oedd y drydedd fuddugoliaeth mewn pedair gêm i garfan Catrina Nicholas-McLaughlin yn yr Her Geltaidd ac o’r herwydd maent wedi codi i’r trydydd safle’n y tabl.

Fe gafodd y tîm cartref y dechrau delfrydol wrth i’r cefnwr Rhodd Parry groesi am y cyntaf o bum cais ei thîm wedi tri munud yn unig.

Er nad oedd Glasgow wedi ennill unrhyw bwynt yn eu gemau cyn heddiw – fe sgorion nhw dri chais ac 19 o bwyntiau heb ymateb mewn cyfnod o 25 munud cyn yr egwyl. Hawliodd y canolwr Briar McNamara a’r blaen-asgellwr Gemma Bell geisiau gwerthfawr i’r ymwelwyr cyn i’r cefnwr Sky Phimister sgorio cais unigol gwych yn ddwfn o’i hanner ei hun.

Doedd y ffaith i Molly Reardon adael y maes gydag anaf i’w phen-glin ddim chwaith yn helpu achos Gwalia Lightning.

Molly Wakely ddaeth i’r maes fel eilydd o fachwr ond wedi pum munud yn unig o’r ail hanner – fe welodd hi gerdyn melyn wedi iddi droseddu mewn sgarmes.

Yn hytrach nac idlio yn ystod ei deng munud yn y cell cosb, sbarduno Gwalia i groesi am gais cyntaf yr ail gyfnod wnaeth hynny.

Seren y Gêm Alaw Pyrs hawliodd y sgôr hwnnw – ond yna wedi 62 munud o chwarae fe groesodd McNamara am ei hail gais hi o’r ornest gan sicrhau pwynt cyntaf ei thîm o’u hymgyrch yn yr Her Geltaidd. Llwyddodd i drosi ei chais ei hun y tro hwn gan godi ei chyfanswm personol yn y gêm i 16 o bwyntiau.

Daeth gwir dro ar fyd yn ystod y gêm gydag ychydig dros ddeng munud yn weddil pan wibiodd Courtney Greenway am ddau gais o fewn dau funud ac wedi i Carys Hughes drosi’r ail o’r rheiny ‘roedd y tîm cartref yn ôl o fewn pum pwynt – ac eisoes wedi hawlio pwynt bonws.

‘Roedd y cloc wedi cyrraedd yr 80 munud pan arweiniodd Bryonie King drwy esiampl a hyrddio’i hun dros y llinell gais yng nghysgod y pyst gan wneud gwaith Hughes o gadarnhau’r fuddugoliaeth yn dasg hawdd.

Canlyniad: Gwalia Lightning 31 Glasgow 26

Wedi’r chwiban olaf dywedodd Seren y Gêm, Alaw Pyrs: “Fe gathon ni dipyn o stŵr ar yr egwyl – gan nad oedden ni wedi gwneud yn ddigon da – ac yn ystod yr ail hanner fe chwaraeon ni’n llawer gwell ac fe wnaeth yr eilyddion gyfraniad pwysig hefyd. Mae hi wastad yn braf ennill gêm – yn enwedig mor hwyr ac y gwnaethon ni heddiw.”

Related Topics