News

Cadarnhau gemau haf Cymru yn Japan

Kitakyushu
Wales visited Kitakyushu during Rugby World Cup 2019

Bydd carfan dynion Cymru yn teithio i Japan fis Gorffennaf eleni i chwarae dwy gêm brawf mewn cyfres gyffrous yn erbyn y tîm cartref. Bydd y prawf cyntaf yn digwydd yn Stadiwm Mikuni yn Kitakyushu ar y 5ed o Orffennaf cyn i’r Cymry deithio i Stadiwm Noevir yn Kobe wythnos yn ddiweddarach ar gyfer yr […]

Bydd carfan dynion Cymru yn teithio i Japan fis Gorffennaf eleni i chwarae dwy gêm brawf mewn cyfres gyffrous yn erbyn y tîm cartref.

Bydd y prawf cyntaf yn digwydd yn Stadiwm Mikuni yn Kitakyushu ar y 5ed o Orffennaf cyn i’r Cymry deithio i Stadiwm Noevir yn Kobe wythnos yn ddiweddarach ar gyfer yr ail brawf ar y 12fed o’r mis.

Mae gan Stadiwm Noevir do fel Stadiwm Principality sy’n gallu agor a chau yn ôl y gofyn.

Bydd amseroedd y gemau a’r manylion darlledu yn cael eu cadarnhau maes o law.

‘Roedd gwersyll Cymru yn ystod Cwpan y Byd yn 2019 yn Kitakyushu ac felly bydd hi’n braf i’r garfan ddychwelyd yno ar gyfer y gêm brawf gyntaf.

Er na chynhaliwyd unrhyw gemau yno yn ystod y gystadleuaeth – fe gymrodd pobl dinas
Kitakyushu y Cymry at eu calonnau.’Roedd torfeydd rhyfeddol yn gwylio’r sesiynau ymarfer ac yn canu Hen Wlad Fy Nhadau!

Does dim amheuaeth y bydd trigolion y ddinas hon, sy’n wallgof am eu rygbi, yn awchu i weld gornest gystadleuol a chofiadwy yno ar ddechrau mis Gorffennaf.

Mae Cymru a Japan wedi chwarae 14 gêm yn erbyn ei gilydd gyda 13 buddugoliaeth i Gymru ac un i Japan.

Cynhaliwyd y gêm ryngwladol gyntaf un rhwng y ddwy wlad yng Nghaerdydd ym mis Hydref 1973 gyda Chymru’n ennill o 62-14.

Roedd y cyfarfyddiad diweddaraf rhwng y ddwy wlad ym mis Tachwedd 2016 yn Stadiwm Principality pan enillodd y Cymry o drwch blewyn wrth sicrhau buddugoliaeth o 33-30.

Mae Partneriaid Teithio Swyddogol Cefnogwyr Undeb Rygbi Cymru – Gullivers Sports Travel – yn falch iawn o gynnig pecynnau unigryw ar gyfer Taith Haf Cymru i Japan.

Bydd y pecynnau’n cynnwys tocynnau swyddogol ar gyfer y gemau prawf yn Kitakyushu a Kobe, gwestai o’r radd flaenaf, a phrofiadau unigryw i’r cefnogwyr fel ‘Sesiynau Holi ac Ateb’ gyda chwaraewyr a hyfforddwyr. Hyn oll a golygfeydd arbennig a bythgofiadwy!

Dylai cefnogwyr sydd am sicrhau eu lle ar yr antur rygbi hon, ymweld â Gulliver’s travel website

 

CYMRU v JAPAN – Gemau’r Gorffennol – o safbwynt Cymru
• 19 Tachwedd 2016 33-30 (E) Caerdydd
• 15 Mehefin 2013: 23-8 (Coll) Tokyo
• 8 Mehefin 2013: 18-22 (E) Osaka
• 20 Medi 2007: 72-18 (E) Caerdydd
• 26 Tachwedd 2004: 98-0 (E) Caerdydd
• 17 Mehefin 2001: 30-53 (E) Tokyo
• 10 Mehefin 2001: 10-64 (E) Osaka
• 9 Hydref 1999: 64-15 (E) Caerdydd (Cwpan y Byd)
• 27 Mai 1995: 10-57 (E) Bloemfontein, De Affrica (Cwpan y Byd)
• 16 Hydref 1993: 55-5 (E) Caerdydd
• 22 Hydref 1983: 29-24 (E) Caerdydd
• 24 Medi 1975: 6-82 (E) Tokyo
• 21 Medi 1975: 12-56 (E) Osaka
• 6 Hydref 1973: 62-14 (E) Caerdydd

Related Topics