Jump to main content
McBryde i ymuno â Gorsedd y Beirdd yn seremoni’r Eisteddfod

McBryde i ymuno â Gorsedd y Beirdd yn seremoni’r Eisteddfod

Bydd hyfforddwr sgiliau Undeb Rygbi Cymru Robin McBryde yn cael ei urddo’n aelod o Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Felindre, Abertawe Ddydd Gwener.

Share this page:

Cynhelir y seremoni am 11am yng Nghylch yr Orsedd ar faes yr Eisteddfod ble y caiff cyfanswm o 37 aelod newydd eu derbyn. Mae Robin McBryde yn cael ei anrhydeddu fel y Gogleddwr a enillodd y nifer mwyaf o gapiau yn hanes rygbi Cymru ac mae’n ymuno â rhestr ddethol o chwaraewyr rygbi rhyngwladol Cymru gan gynnwys Gareth Edwards, Gerald Davies, Ray Gravell ac Ieuan Evans a gafodd eu hurddo’n aelodau o’r Orsedd.

Meddai Robin, “Rwyf wrth fy modd. Dyma’r anrhydedd mwyaf y gall Cymro ei dderbyn. Rwyf yn dilyn ôl traed rhai o enwau mawr byd rygbi trwy gael fy ngwneud yn aelod o’r Orsedd.


“Mae’r iaith Gymraeg yn bwysig iawn imi. Y Gymraeg yw iaith gyntaf fy nau blentyn, rydyn ni’n siarad Cymraeg adref ac yn byw mewn cymuned Gymraeg ei hiaith yng Nghwm Gwendraeth. Rydw i’n defnyddio’r Gymraeg pryd bynnag y gallaf – yn fy ngwaith gyda chwaraewyr a hyfforddwyr yn Undeb Rygbi Cymru – ac yn fy mywyd preifat.


“Mae’n bwysig fod y Gymraeg yn parhau’n iaith fyw a bod plant ifanc yn ei gweld felly gan ei bod yn rhan mor bwysig o’n treftadaeth a’n hanes balch, ac os na ddefnyddiwn ni i mohoni, byddwn yn ei cholli fel y collwyd llawer o ieithoedd lleiafrifol eraill.”


Ar hyn o bryd, mae Robin McBryde yn gweithio gyda chwaraewyr ifanc dethol Cymru yn nhrefn academi ranbarthol Undeb Rygbi Cymru a bu ar daith i’r Ariannin gyda Chymru’n  ddiweddar fel hyfforddwr y blaenwyr.

Partners and Suppliers

Principal Partners
Principality
Admiral
McBryde i ymuno â Gorsedd y Beirdd yn seremoni’r Eisteddfod
Vodafone
Go.Compare
Official Broadcast Partners
S4C
BBC Cymru/Wales
Official Partners
Guinness
McBryde i ymuno â Gorsedd y Beirdd yn seremoni’r Eisteddfod
McBryde i ymuno â Gorsedd y Beirdd yn seremoni’r Eisteddfod
Heineken
McBryde i ymuno â Gorsedd y Beirdd yn seremoni’r Eisteddfod
The Indigo Group
McBryde i ymuno â Gorsedd y Beirdd yn seremoni’r Eisteddfod
Official Suppliers
Gilbert
McBryde i ymuno â Gorsedd y Beirdd yn seremoni’r Eisteddfod
Rhino Rugby
Sportseen
McBryde i ymuno â Gorsedd y Beirdd yn seremoni’r Eisteddfod
McBryde i ymuno â Gorsedd y Beirdd yn seremoni’r Eisteddfod
Princes Gate
McBryde i ymuno â Gorsedd y Beirdd yn seremoni’r Eisteddfod
Amber
Opro
Total Energies
Seat Unique
Nocco
Castell Howell
Glamorgan Brewing
Ted Hopkins
Hawes & Curtis
McBryde i ymuno â Gorsedd y Beirdd yn seremoni’r Eisteddfod